Mynd i’r afael â’r canlyniadau yn dilyn gwerthusiad gwael o ysgol

Ysgol pob oed


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Fe’m penodwyd yn Gadeirydd y Llywodraethwyr ar gyfer ysgol a oedd mewn categori Estyn isel. Roedd yr uwch aelodau staff yn gwadu’r sefyllfa ac roedd y llywodraethwyr yn teimlo nad oeddent wedi cael eu cynghori’n briodol ar faterion yn yr ysgol.


Beth ddigwyddodd?
Penodwyd Pennaeth newydd a chanddo safbwynt cwbl wahanol. Gwnaethom adolygu’r Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad (PIAP) gyda Chynghorydd Herio newydd a phrofiadol. Cafodd cynnydd yn erbyn y PIAP ei fonitro’n ofalus.


Pa wersi a ddysgwyd?
Mae’r ysgol yn cael ei pharchu’n fwy yn y gymuned erbyn hyn, ac mae ganddi safonau llesiant uchel wedi’u cadarnhau. Mae’r staff yn canolbwyntio ar y disgyblion sy’n golygu bod yr holl ddisgyblion yn cael eu gwerthfawrogi. Mae canlyniadau arholiadau CA4 wedi gwella.


Sylwebaeth
Mae’r corff llywodraethu’n dibynnu ar y pennaeth a’r uwch aelodau staff i ddarparu’r wybodaeth y mae arno ei hangen i gyflawni ei rôl cyfaill beirniadol. Wedi dweud hynny, dylai data perfformiad yr ysgol helpu i ddangos cryfderau a gwendidau’r ysgol hefyd. Mae’n bwysig cadarnhau bod holl aelodau perthnasol y corff llywodraethu wedi mynychu hyfforddiant gorfodol ar ddeall data ysgol? Efallai y byddai cwrs gloywi’n syniad da i’r holl lywodraethwyr.

Er bod y data’n bwysig, mae’r un mor bwysig edrych ar y wybodaeth gyd-destunol. Dyma lle mae’r corff llywodraethu a’i rôl fel cyfaill beirniadol yn hollbwysig. Mae angen i lywodraethwyr ofyn cwestiynau i gael yr hanes wrth wraidd y data er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â pha strategaethau a ddylai fod ar waith yn yr ysgol, a chytuno ar flaenoriaethau datblygu’r ysgol. Rhoddir isod enghreifftiau o gwestiynau:

  • Beth yw’r cyrhaeddiad cyffredinol erbyn diwedd pob cyfnod allweddol?
  • Beth yw’r cyrhaeddiad a’r safonau ym mhob grŵp blwyddyn, dosbarth a phwnc, ac ar gyfer disgyblion unigol o gymharu â’u canlyniadau rhagfynedig a’r cyfartaledd cenedlaethol (os yw ar gael)?
  • Sut mae’r canlyniadau hyn yn cymharu â’n targedau?
  • A yw rhai unigolion a grwpiau o ddisgyblion yn gwneud yn well nag eraill? Os felly, pam, a pha strategaethau sydd ar waith i gynnal a rhannu arfer gorau a sicrhau gwelliannau?
  • A yw disgyblion yn gwneud cynnydd gwell neu waeth na’r disgwyl erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol ac yn y blynyddoedd yn y canol?


Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru gyfres o adnoddau sy’n gallu helpu’r corff llywodraethu yn y maes hwn:


Myfyrdodau…
A fu gennych achos erioed i amau penderfyniadau arweinwyr eich ysgol ar faterion yn ymwneud ag ansawdd y ddarpariaeth? Os felly, beth wnaethoch chi a/neu’r corff llywodraethu i fynd i’r afael â’r pryderon hynny? Pa heriau a chyfleoedd a fyddai’n gysylltiedig â gweithredu PIAP, yn eich barn chi?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708