Newyddion

Diweddariadau Cenedaethol - Mehefin 2023

Ymgynghoriadau

Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi

Ymgynghori ar ganllawiau drafft i sicrhau eu bod:
– yn amlinellu dulliau gweithredu er mwyn helpu i wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb dysgwyr, ac mae’n ddogfen ddefnyddiol ac ymarferol
– mae’n amlinellu rôl bwysig ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned wrth wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb ymhlith dysgwyr
– yn rhoi trosolwg o’r polisïau cyfredol, egwyddorion a dulliau y dylid eu mabwysiadu wrth wella ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 20 Gorffennaf 2023


Diweddariadau Cenedaethol

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy: canllawiau achos busnes. Mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu at awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, awdurdodau esgobaethol, a sefydliadau addysg uwch. Dylid defnyddio’r canllawiau wrth baratoi achosion busnes er mwyn cael arian cyfalaf a refeniw o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Wedi’i ddiweddaru Mehefin 2023Grant Datblygu Disgyblion: canllawiau
Canllawiau ar beth yw’r grant a sut i’w ddefnyddio i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Wedi’i ddiweddaru Mehefin 2023Cwricwlwm i Gymru: Y cod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Mae’n nodi’r 27 o ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws y 6 maes dysgu a phrofiad.

Wedi’i ddiweddaru Mehefin 2023Proses ffedereiddio ysgolion a gynhelir: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol. Cyngor a gwybodaeth ar sefydlu un corff llywodraethu ar draws sawl ysgol.

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708