Cynlluniau cyfnewid ac ailgylchu gwisg ysgol
Mae’r canllawiau gwisg ysgol newydd yn nodi y dylai ysgolion sicrhau bod trefniadau ar waith fel bod gwisgoedd ysgol ail-law ar gael i rieni a gofalwyr eu caffael. Gall cynlluniau ailgylchu a chyfnewid gwisgoedd amrywio. Dyma ddolen i wahanol fathau o gynlluniau y gallai ysgolion ddewis eu gweithredu.
Cwricwlwm i Gymru: adroddiad blynyddol 2023.
Mae adroddiad blynyddol sy’n nodi cynnydd a’r hyn a gyflawnwyd y Cwricwlwm i Gymru hyd yma, gyda blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn o fis Medi 2023, wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad eang yn ystyried agweddau allweddol ar weithredu’r cwricwlwm, ac yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chynllun i gynnal gwerthusiad trylwyr a thryloyw o’r diwygiadau cwricwlwm ac asesu dros amser a’r graddau y maent yn cael y dylanwad a ddymunir i bob dysgwr.
Dull ysgol gyfan ar gyfer llafaredd a darllen: Pecyn cymorth i gynnal safonau uchel mewn llafaredd a darllen mewn ysgolion a lleoliadau.
Gwybodaeth, tystiolaeth ac adnoddau i gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu a gwreiddio eu dull ysgol gyfan eu hunain ar gyfer llafaredd a darllen.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708