Newyddion

Diweddariadau Cenedaethol - Tymor yr Haf 2024


Cymorth pellach i athrawon i hybu’r broses o gyflwyno’r cwricwlwm Newydd
Bydd cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn cael hwb gan gefnogaeth bellach i athrawon ac ysgolion er mwyn sicrhau darpariaeth gyson ledled Cymru. Bydd y gefnogaeth yn cynnwys cydweithio cenedlaethol i ddatblygu dulliau cyffredin ar draws y proffesiwn, symleiddio’r broses o gynllunio a gwerthuso’r cwricwlwm, offer a thempledi i gynllunio dysgu, disgwyliadau cliriach ar gyfer addysgu a dysgu a rhannu enghreifftiau o gynllunio’r cwricwlwm ac arferion gorau. Bydd hefyd yn rhoi Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd a Chymhwysedd Digidol diwygiedig ar sail statudol i ddarparu disgwyliadau clir ar gyfer y sgiliau allweddol hyn. Gallwch ddarllen y datganiad i’r wasg yma.

Ar gyfer Awdurdodau Lleol – Hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru ar gynnwys:
Hyfforddiant i gadeiryddion llywodraethwyr; and
Hyfforddiant sefydlu ar gyfer llywodraethwyr ysgol.

Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Blynyddol 2024

Heddiw (Dydd Mawrth 4 Mehefin] mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cadarnhau na fydd cynlluniau i newid gwyliau’r ysgol yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon er mwyn rhoi cyfle ac amser i athrawon a staff gyflwyno diwygiadau eraill.
Cliciwch yma i ddarllen y datganiad i’r wasg.

Canllawiau presenoldeb yn yr ysgol a gwyliau crefyddol.
Dyddiadau arferion a gwyliau crefyddol ar gyfer 2024. Mae’n cynnwys canllawiau i benaethiaid ar ganiatáu absenoldeb awdurdodedig.

Dyddiadau tymor ysgol 2025 i 2026 wedi’u cymeradwyo

Estyn – Adnoddau arweiniad arolygu
Mae Estyn wedi cyhoeddi’r llawlyfr canllawiau diweddaraf ar gyfer Ysgolion a Gynhelir ac Unedau Cyfeirio Disgyblion i baratoi ar gyfer y trefniadau arolygu newydd a fydd ar waith o fis Medi 2024. Byddwn yn diwygio cyhoeddiadau perthnasol GCS, gan gynnwys y templed hunanwerthuso, drwy’r haf yn barod ar gyfer mis Medi.

Diweddaru Ebrill 2024 – Gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion

Grantiau addysg cyn-16
Gwybodaeth am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu grantiau addysg cyn-16 ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025. Mae nifer o newidiadau i’w nodi.

Education Endowment Foundation – Pecyn Cymorth Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r Pecynnau Cymorth wedi’u dylunio i gefnogi athrawon ac arweinwyr ysgolion sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch sut i wella deilliannau dysgu.

New guidance – Adolygu datblygiad proffesiynol
Mae’r canllawiau adolygu datblygiad proffesiynol yn disodli canllawiau rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyfer athrawon, penaethiaid ac athrawon digyswllt (2012). Mae hefyd yn nodi canllawiau ar gyfer gweithwyr cymorth dysgu. Yn sicr mae’n ddarllen angenrheidiol ar gyfer y llywodraethwyr hynny sy’n ymwneud ag adolygiadau datblygu.

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708