Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Prif amcan y Bil yw ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd yr oedran ysgol gorfodol fel defnyddwyr annibynnol o’r Gymraeg. Bydd hyn yn helpu i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Y nod yw i bob disgybl ddatblygu sgiliau llafar sy’n cyfateb i lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd. Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Bil.
Mae gwybodaeth am sut i gyfrannu ar gael ar dudalen ymgynghoriad y Bil.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 17:00 ar 11 Hydref 2024.
Diweddarwyd 1 Awst 2024 – Grant Datblygu Disgyblion: canllawiau a Templed datganiad ysgol y Grant Datblygu Disgyblion
Adolygiad lefel ysgol o’r Grant Datblygu Disgyblion (GDD)
Canfyddiadau o ymchwil ynghylch sut mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddefnyddio, sut mae’n cael ei dargedu a sut mae’i effaith yn cael ei fesur.
Canllawiau ar ddysgu 14 i 16
Mae’r canllawiau ar ddysgu 14 i 16 hyn yn llunio rhan o ganllawiau statudol Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Datganiad Ysgrifenedig: Adroddiad ac argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.
Pynciau Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) newydd wedi’u cadarnhau. Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau’r 15 pwnc TAAU a fydd ar gael i ddysgwyr rhwng 14aci 16 oed o fis Medi 2027.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708