Ymchwil Canfyddiadau Rhanddeiliaid Estyn: Rhannwch eich barn!
Mae Estyn wedi comisiynu Strategic Research & Insight i gynnal astudiaeth o ganfyddiadau rhanddeiliaid. Bydd yr arolwg yn cymryd 5-10 munud i’w gwblhau ac mae wedi’i gynllunio i gasglu barn rhanddeiliaid am Estyn a sut y gall wella ei gyfathrebu â rhanddeiliaid.
Dyma’r ddolen i’r arolwg ac mae’n cau 8 Tachwedd 2024.
Rhowch wybod os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach.
Datganiad Ysgrifenedig: Gwella ysgolion – Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Canllawiau ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn i ysgolion.
Mae’r canllawiau anstatudol hyn yn ymwneud â gofynion newydd a osodwyd gan Reoliadau 2024. Maent ar gyfer awdurdodau derbyn, paneli apelau derbyn a fforymau derbyn.
Sustrans – Cynlluniau ysgolion teithio llesol.
Nod Llywodraeth Cymru yw i bob ysgol yng Nghymru greu cynllun ysgol teithio llesol. Gall tîm Sustrans Cymru gefnogi eich ysgol i gynhyrchu eich cynllun ysgol teithio llesol eich hun.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708