Canllawiau i leoliadau addysg a gofal plant ar gynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt.
Gan fod rhai rhannau o Gymru wedi profi eira yn ddiweddar, roeddem o’r farn y byddai’n ddefnyddiol darparu’r ddolen i’r canllawiau canlynol sy’n cynnwys gwybodaeth am dywydd garw a chau ysgolion.
Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2024
Datganiad i’r wasg – Presenoldeb, llythrennedd a rhifedd yn hanfodol ar gyfer gwella safonau ysgolion wrth i ystadegau ddangos bod lefelau presenoldeb ysgolion yn gwella. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi amlinellu’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwella ysgolion yng Nghymru, yn ogystal â mwy o gyllid ar gyfer mentrau i wella cyrhaeddiad mewn llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth.
Cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig (ASD) mewn lleoliadau addysgol.
Sut i helpu dysgwyr ag Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.
Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi canllawiau newydd ar Gymwysterau Cenedlaethol 14-16.
Mae’r canllaw wedi’i gynllunio i helpu gweithwyr addysg proffesiynol ddeall y newidiadau i’r ddarpariaeth cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed o fis Medi 2025 a helpu canolfannau sydd wrthi’n paratoi yn barhaus. Mae hefyd yn cynnwys pecyn cymorth i helpu canolfannau i roi gwybod am y cymwysterau newydd i ddysgwyr, a’u rhieni neu ofalwyr, llywodraethwyr a rhanddeiliaid allweddol lleol eraill.
Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 2 Medi i 25 Hydref 2024.
Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy’n bresennol mewn ysgolion a gynhelir 2 Medi i 25 Hydref 2024.
Y Cwricwlwm i Gymru: adrannau wedi’u diweddaru o ganllawiau’r Fframwaith.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar adrannau wedi’u diweddaru o ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru, a fydd yn cael eu diweddaru ar-lein ar Hwb ym mis Ionawr 2025 – ymgynghori ar fân ddiweddariadau a diweddariadau hanfodol arfaethedig i rai rhannau o ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru ar Hwb, sy’n cynnwys:
– geiriad i adlewyrchu’r dull o ymdrin â chrynodebau o’r cwricwlwm ysgol a nodir yn yr adran ‘Ymlaen â’r daith’, a gyhoeddwyd fis Ionawr diwethaf
– geiriad i gysylltu asesiadau personol yn well â chynnydd ac asesu
– geiriad i egluro newidiadau deddfwriaethol o fis Medi
– mân ddiwygiadau i’r adrannau ‘Cynllunio’ch cwricwlwm’ a ‘Trefniadau Asesu’ i ddiweddaru’r iaith er mwyn sicrhau cysondeb ag adrannau eraill o’r Fframwaith. Mae hyn yn adlewyrchu lle rydym wedi cyrraedd yn y broses o gyflwyno’r cwricwlwm yn ogystal â chynnwys dolenni a gwallau teipograffyddol
– diwygio’r adran ‘Galluogi dysgu’ i ddangos yn well y dylid ei defnyddio wrth gynllunio, trefnu a gweithredu cwricwlwm sy’n addysgegol briodol i bob dysgwr, nid dim ond ein dysgwyr ieuengaf
– nifer o fân newidiadau yn dilyn adolygiad dwyieithog o’r diffiniadau a ddefnyddir ar draws y Fframwaith.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 20 Rhagfyr 2024.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn monitro effaith ei ganllawiau ar Atal Gwahaniaethu ar sail Gwallt. Mae’r canllawiau yn darparu adnoddau ymarferol i arweinwyr ysgol greu amgylcheddau mwy cynhwysol a sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith cydraddoldeb.
Dyma ddolen i’r arolwg. Bydd yr arolwg ar agor tan 5yh ddydd Gwener 17 Ionawr 2025.
Mae’r arolwg hwn yn ddienw Fodd bynnag, os ydych yn fodlon iddynt gysylltu â chi ar gyfer cwestiynau dilynol neu astudiaeth achos bosibl, mae croeso i chi roi eich manylion cyswllt ar ddiwedd yr arolwg. Maent yn prosesu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Gweler eu Hysbysiad Preifatrwydd am fanylion pellach.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708