Newyddion

Diweddariadau Cenedaethol - Rhagfyr 2024

Ymgynghoriadau
Dweud eich dweud ar hyn sy’n digwydd mewn addysg

Cod trefniadaeth ysgolion

Mae’r Cod wedi cael ei adolygu ar ôl bod yn weithredol am bum mlynedd ac mae nifer o newidiadau wedi cael eu gwneud; mae’r mwyafrif ohonynt yn adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth ers i’r ail argraffiad o’r Cod ddod i rym neu’n egluro gofynion sy’n ymwneud â deddfwriaeth a oedd eisoes ar waith bryd hynny.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 14 Chwefror 2025.

Diweddariadau Cenedaethol

Datganiad i’r Wasg – Hwb ariannol o £225.5m i gefnogi addysg yng Nghymru

Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Gwella presenoldeb
Yn ystod ei Datganiad Llafar yn y Senedd, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei chamau allweddol i wella presenoldeb, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd.
Gwyliwch ef yma.

Rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru: canllawiau
Rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru: ffurflen gais
Canllawiau yn esbonio’r cynllun grant i unrhyw un sydd am wneud cais am gyllid i ddatblygu cymorth i’r Cwricwlwm i Gymru.

Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg
Cynllun 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu’r gweithlu Cymraeg mewn ysgolion i wireddu Cymraeg 2050.

Cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar: ymateb y Llywodraeth Cymru
Mae Ysgol Bro Banw, Ysgol Gynradd Parc, Coleg Gwent a Choleg Llandrillo Menai yn rhannu sut y mae nhw’n cefnogi anghenion dysgwyr ag ADY. Mae’r astudiaethau achos yn trafod ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, cynllunio pontio a diwallu anghenion dysgu amrywiol.

Adroddiad thematig Estyn – Y system anghenion dysgu ychwanegol
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor dda y mae’r lleoliadau nas cynhelir a ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed a gynhelir a gymerodd ran yn yr adolygiad yn gweithredu ac yn ymgorffori agweddau ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ADYTA) a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cysylltiedig. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol wedi cefnogi ysgolion. Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar ein canfyddiadau o’r adolygiad thematig cyntaf Y system anghenion dysgu ychwanegol (Estyn, 2023) ac yn nodi arfer effeithiol i gefnogi addysg gynhwysol, datblygu strategaethau i gefnogi disgyblion ag ADY, ymestyn cymorth cyfrwng Cymraeg a chryfhau dysgu proffesiynol, sicrhau ansawdd a rolau’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) a Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC).

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad – Progress of schools, settings and local authorities in supporting pupils with additional learning needs: government reponse (Saesneg Unig)

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708