Newyddion

Diweddariadau Cenedaethol - Ionawr 2025


Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pennod newydd yn y Canllaw i’r Gyfraith – Pennod 29 Cymraeg 2025, sydd yn cynnwys gwybodaeth am:
– strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr;
– Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;
– categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg; and
– categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Datganiad Ysgrifenedig – Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg

Adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET neu’n ddigartref

Canllawiau ar adnabod yn gynnar bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu’n ddigartref.



Ymgynghoriadau
Dweud eich dweud ar hyn sy’n digwydd mewn addysg

Cod trefniadaeth ysgolion

Mae’r Cod wedi cael ei adolygu ar ôl bod yn weithredol am bum mlynedd ac mae nifer o newidiadau wedi cael eu gwneud; mae’r mwyafrif ohonynt yn adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth ers i’r ail argraffiad o’r Cod ddod i rym neu’n egluro gofynion sy’n ymwneud â deddfwriaeth a oedd eisoes ar waith bryd hynny.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 14 Chwefror 2025.

Data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwelliant: ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y system ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich safbwyntiau ar eu dull o ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwelliant. Maent hefyd yn ceisio safbwyntiau ar y fframwaith arfaethedig ‘Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16’.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 14 Mawrth 2025.

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708