DWY SWYDD
Ydych chi’n ymarferwr marchnata egnïol a llawn cymhelliant sydd eisiau datblygu eich sgiliau strategol ac ennill profiad lefel bwrdd ar gyfer eich CV?
Rydym yn datblygu strategaeth farchnata 5 mlynedd i ddenu disgyblion newydd i’n hysgol gynradd Gymraeg. Efallai nad yw llawer o rieni lleol wedi ystyried manteision dewis ein hysgol fodern, gyfeillgar a chyflawn. Mae hyn oherwydd mai eu dewis ‘diofyn’ yw eu hysgol cyfrwng Saesneg leol. Felly, rydym yn bwriadu cynnal ymgyrchoedd i amlygu ein harlwy ragorol a goresgyn eu hofnau ynghylch dysgu drwy’r Gymraeg.
Byddwch yn ymuno â thîm profiadol gyda phrofiad marchnata felly byddwch yn cael cefnogaeth dda. Mae angen fflêr arweinyddiaeth arnoch a’r gallu i gadw momentwm rhwng cyfarfodydd llawn y corff llywodraethu. Cynhelir cyfarfodydd llawn y corff llywodraethu fin nos, wyneb yn wyneb yn Ysgol y Berllan Deg, Circle Way East, Llanedern, CF23 9LD.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i gael profiad ymarferol o ddatblygu ac arwain strategaeth hirdymor a chreu astudiaeth achos marchnata go iawn o’r dechrau i’r diwedd. Does dim rhaid i chi allu siarad Cymraeg, er y byddai hyn o fantais.
I wneud cais am y swydd, cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd i [email protected] erbyn dydd Gwener 28 Chwefror 2025 Os hoffech drafod eich cais ymhellach neu gael sgwrs anffurfiol gychwynnol, cysylltwch â’r Cadeirydd, Wyn Griffiths ar 07785 355 552.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a ffurflen gais
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708