Ymgysylltu â llywodraethwyr - Safonau Cenedlaethol Arfaethedig ar gyfer Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles yng Nghymru
Hoffai Iechyd Cyhoeddus Cymru gydweithio â llywodraethwyr ynglŷn â chyfnod ymgysylltu’r Safonau Cenedlaethol Arfaethedig ar gyfer Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles yng Nghymru.
Os ydych chi’n llywodraethwr sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a lles yn eich ysgol neu ddiddordeb brwd mewn lles yr ysgol gyfan, defnyddiwch y ffurflen yma ymateb i ateb y cwestiynau ymgysylltu canlynol neu anfonwch eich sylwadau at [email protected] neu [email protected] yn uniongyrchol erbyn 11 Ebrill 2025.
- Yw symud i set o Safonau sy’n cynnwys dull hunanwerthuso a gwella parhaus yn gwneud synnwyr i chi?
- Yn eich barn chi, yw’r Safonau arfaethedig gyda’i gilydd yn disgrifio elfennau craidd Ysgol sy’n Hybu Iechyd a Lles?
- Oes unrhyw beth ar goll o’r Safonau arfaethedig?
- A oedd unrhyw Safonau ddim yn glir? Os felly, pa rai?
- Yw’r datganiadau ‘beth mae hyn yn ei olygu’ yn eich helpu i ddeall pob safon yn llawn?
- Beth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i gynnal hunanwerthusiad, casglu’ch tystiolaeth a mynd i’r afael â meysydd cymryd camau a gweithredu?
- Yw’r Safonau fel y maent ar hyn o bryd, yn eich cefnogi fel Ysgol gyda’ch disgwyliadau/gofynion craidd (e.e. o safbwynt cyflwyno’r cwricwlwm).
- Yn eich barn chi, fydd ysgolion yn gwerthfawrogi’r cyfle i ennill achrediad yn erbyn y Safonau ar gyfer Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles?
- Rydym wedi gofyn sawl cwestiwn penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi’u trafod yma, defnyddiwch y gofod hwn i sôn amdanynt.