Newyddion

Cofrestru Ar Agor Nawr ar gyfer Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr mewn Ysgolion Uwchradd 2025 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion




Annwyl Gadeirydd y Llywodraethwyr

Ysgrifennaf atoch i roi gwybod i chi am gylch casglu data’r Rhwydwaith sydd ar ddigwydd mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru, a gynhelir gan Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) (SHRN) yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd.

Gofynnwn yn garedig i chi am eich cymorth wrth annog eich ysgol i gofrestru a chymryd rhan. Trwy gymeradwyo’r arolwg, byddwch yn helpu i sicrhau bod data cynhwysfawr yn cael ei gasglu, sy’n cynrychioli profiadau ac anghenion amrywiol eich dysgwyr yn gynhwysfawr.

Dyddiadau Allweddol ar gyfer 2025:

  • Anfon gwahoddiad y casgliad data i Ysgolion: 9 Mehefin
  • Agor Cyfnod Cofrestru Ysgolion: 9 Mehefin
  • Daw cofrestru i ben: 18 Gorffennaf

Mae Casgliad Data’r Rhwydwaith yn cynnwys Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith ar gyfer eich dysgwyr ym Mlynyddoedd 7 i 13 a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith, y bwriedir i uwch dîm rheoli eich ysgol ei ateb. Bydd y ddau yn agor i’w cwblhau yn ystod tymor yr hydref 2025 a bydd Arweinydd Iechyd a Lles eich ysgol yn cael gwahoddiad uniongyrchol gan y Rhwydwaith i gymryd rhan.

Yn 2023, fe wnaeth 97% ysgolion uwchradd Cymru gymryd rhan yn ein casgliad data. Trwy gymryd rhan, bydd eich ysgol yn ennill cipolygon gwerthfawr i iechyd a lles dysgwyr, sy’n hanfodol i wneud penderfyniadau gwybodus ac ymyriadau targedig. Peidiwch â cholli allan ar y cyfle hwn i wella’r cymorth a’r adnoddau sydd ar gael i’ch dysgwyr.

Buddion cymryd rhan yng Nghasgliad Data’r Rhwydwaith:

  • Effaith Leol: Bydd eich ysgol yn cael adborth data unigol sy’n nodi anghenion iechyd a lles penodol ymhlith eich dysgwyr, gan lywio cynlluniau gwella y gellir gweithredu arnynt.

Gall y data hwn helpu eich ysgol i:

  • Nodi Tueddiadau: Deall yr heriau iechyd a lles penodol sy’n cael eu hwynebu gan eich dysgwyr.
  • Datblygu Ymyriadau Targedig: Creu rhaglenni a mentrau sy’n mynd i’r afael ag anghenion unigryw eich poblogaeth dysgwyr.
  • Monitro Cynnydd: Olrhain effeithiolrwydd eich ymyriadau dros gyfnod a gwneud addasiadau angenrheidiol.
  • Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Defnyddio’r data i gyfathrebu â rhieni a gofalwyr, staff a’r gymuned ehangach am y blaenoriaethau iechyd a lles yn eich ysgol.
  • Cymorth Rhanbarthol: Mae data’r Rhwydwaith yn helpu awdurdodau lleol a byrddau iechyd i dargedu ymyriadau a dyrannu adnoddau’n effeithiol, gan ganolbwyntio ar y meysydd lle mae’r angen mwyaf. Mae Dangosfwrdd Data’r Rhwydwaith, a ddatblygwyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig offeryn hwylus i’r defnyddiwr er mwyn cael cipolygon i iechyd a lles dysgwyr, y gellir gweithredu arnynt.
  • Dylanwad Cenedlaethol: Mae data’r Rhwydwaith yn hanfodol i fonitro sut caiff polisïau iechyd a lles eu gweithredu, a’u heffaith, gan ddarparu tystiolaeth i werthuso strategaethau presennol ac ategu datblygiad polisi yn y dyfodol.

“Mae’r Rhwydwaith, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gonglfaen o ran darparu data a thystiolaeth amhrisiadwy sy’n llywio polisi ac ymarfer. Ac yntau’n ehangu i ysgolion cynradd, mae’r Rhwydwaith yn parhau i gynnig un o’r setiau data mwyaf cynhwysfawr yn y DU. Mae’r data hanfodol hwn yn ategu polisïau Llywodraeth Cymru ar iechyd meddwl ac addysg, ac mae’n gyrru gwaith sy’n cael effaith sylweddol yn y sector addysg ehangach ac academia. Mae’r Rhwydwaith yn flaenllaw o ran trawsnewid y tirlun addysgol, gan sicrhau lles ein plant a dyfodol ein cymunedau.”
Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Adnoddau Allweddol y Rhwydwaith i’w Darllen:

  • Dysgu Mwy: Dysgwch sut mae eich ysgol yn elwa o’r Rhwydwaith.
  • Storïau Llwyddiant: Darllenwch astudiaethau achos a storïau llwyddiant y Rhwydwaith astudiaethau achos a storïau llwyddiant y Rhwydwaith.
  • Blog y Rhwydwaith: Erthyglau craff sy’n archwilio mentrau’r Rhwydwaith, canfyddiadau eu harolygon, a’u heffaith ar iechyd a lles myfyrwyr. Mae’r blog hwn yn rhannu diweddariadau, arfer gorau a
    safbwyntiau arbenigol sy’n berthnasol i ysgolion.
  • E-grynhoad y Rhwydwaith: mae’n cynnwys diweddariadau, uchafbwyntiau gweithgareddau diweddar y Rhwydwaith, canlyniadau arolygon a digwyddiadau sydd ar ddod. Cofrestrwch yma.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Maria Boffey, Rheolwr Materion Allanol a Chyfnewid Gwybodaeth y Rhwydwaith – [email protected]

Yn gywir,
Dr. Kelly Morgan, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708