Rydym yn gwahodd llywodraethwyr ar draws Cymru i rannu eu profiadau, yr heriau a’r llwyddiannau, trwy gwblhau arolwg byr. Bydd eich cyfraniad yn ein helpu i ddeall effaith llywodraethiant yn well a llywio sgwrs genedlaethol ar y rôl hanfodol y mae llywodraethwyr yn ei chwarae mewn addysg.
Cwblhewch yr arolwg yma erbyn 01/07/2025 os gwelwch yn dda. Mae eich llais yn cyfrif, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad.
Diolch am y gwaith amhrisiadwy a wnewch i’ch ysgol a’i dysgwyr.
Mae eich ymroddiad a’ch ymrwymiad yn helpu i wella addysg ar draws Cymru.