Newyddion

Diweddariadau Cenedaethol - Tymor yr Hydref 2025


Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion – Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru. Cliciwch ar y ddolen uchod am ragor o wybodaeth am yr adolygiad.

Adroddiad thematig Estyn – Oes Newydd: Sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Cefnogi Addysgu a Dysgu
Mae’r adroddiad thematig hwn yn archwilio sut mae deallusrwydd artiffisial (AI), ac AI cynhyrchiol (GenAI) yn benodol, yn cael ei roi ar waith ar hyn o bryd a’i effaith sy’n dod i’r amlwg mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) ledled Cymru. Mae’r sail dystiolaeth yn cynnwys ymweliadau ag ystod eang o ysgolion, sgyrsiau ag arweinwyr ysgolion, staff addysgu a disgyblion, yn ogystal ag arolwg helaeth o staff mewn ysgolion ac UCDau. Nod yr adroddiad yw helpu ysgolion a’r rhai sy’n llunio polisïau i ddeall a mynd i’r afael â chyfleoedd a heriau AI a darparu enghreifftiau go iawn o ymgysylltu effeithiol.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’w gael yma.

Cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig (ASD) mewn lleoliadau addysgol
Sut i helpu dysgwyr ag Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.

Adolygiad o fframwaith deddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Yn rhan o’r adolygiad, edrychwyd ar eglurder a chysondeb y fframwaith deddfwriaethol i nodi cyfleoedd i gryfhau dealltwriaeth o’r system ADY a’i chyflwyno’n fwy effeithiol ledled Cymru.

Diweddarwyd Hydref 2025Canllawiau presenoldeb yn yr ysgol a gwyliau crefyddol
Dyddiadau arferion a gwyliau crefyddol ar gyfer 2025 a 2026. Mae’n cynnwys canllawiau i benaethiaid ar ganiatáu absenoldeb awdurdodedig.

Y Grant Datblygu Disgyblion: trosolwg
Sut mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddyrannu a’i ddefnyddio i helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol: adroddiad terfynol.
Crynodeb o ganlyniadau’r Uwchgynhadledd Genedlaethol ar ymddygiad mewn ysgolion a cholegau.

Datganiad Ysgrifenedig: Dyfarniad Cyflog Athrawon 2025/26 – Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Dogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (Cymru) 2025

Cefnogi ymddygiad cadarnhaol mewn addysg
Pecyn cymorth i gefnogi ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion drwy gydberthnasau, yr amgylchedd, addysgu a strategaethau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.


Rydym wedi diwygio a chyhoeddi ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae’r Cod yn ddogfen allweddol ar gyfer holl gofrestreion CGA, gan ei fod yn gosod y safonau, ymddygiadau, a’r gwerthoedd y disgwylir ganddynt fel ymarferwyr addysg.

Mae’r newidiadau yr ydym wedi eu gwneud yn sicrhau bod y Cod yn berthnasol i bob un o’r 13 o gategorïau yr ydym yn eu cofrestru, a’i fod yn adlewyrchu arfer gorau presennol ynghylch iaith a therminoleg. Mae hyn yn cynnwys egwyddor newydd o arweinyddiaeth.

I helpu cofrestreion ddeall a defnyddio’r Cod yn eu hymarfer, rydym wedi creu nifer o adnoddau cefnogol, gan gynnwys gweminarau, canllawiau arfer da, ac animeiddiadau.

Mae mwy o wybodaeth am ein gwaith, ar y wefan.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio cyfres o flogiau newydd ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid.

Dros y chwe mis nesaf, bydd y rheoleiddir yn archwilio sut mae’n helpu diogelu dysgwyr, pobl ifanc, a’r cyhoedd, wrth amlygu’r rôl bwysig mae’n chwarae yn cynnal hyder ac ymddiriedaeth yng ngweithlu addysg Cymru.

Yn dilyn cyhoeddi’r blog cyntaf Pwy yw CGA, mae’r rheoleiddiwr nawr wedi cyhoeddi’r ail, Pam fod cofrestru a rheoleiddio’n hanfodol i ddiogelu dysgwyr, pobl ifanc, a’r cyhoedd. Mae’r blog yn hanfodol ar gyfer llywodraethwyr, sy’n chwarae rhan allweddol yn diogelu dysgwyr.

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708