Newyddion

Mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio aelodau newydd i Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)

A ninnau’n rheoleiddiwr annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, mae CGA yn rheoleiddio gweithlu mawr ac amrywiol sy’n gwasanaethu dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a chymunedau ar draws Cymru. I wneud hyn yn effeithiol ac er budd y cyhoedd, mae’n bwysig bod ein Cyngor yn dwyn ynghyd pobl â safbwyntiau, profiadau a ffyrdd gwahanol o feddwl.
Mae’r rôl yn galw am feddwl annibynnol, cyfraniad adeiladol at drafodaethau strategol, uniondeb, ac ymrwymiad cadarn i gydraddoldeb, cynhwysiant a’r Gymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Chwefror 2026 am 16:00.

I ddysgu rhagor a gwneud cais, ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708