Pennu’r terfynau iawn ar gyfer y berthynas rhwng llywodraethwyr ac aelodau o'r gymuned

Trafodaeth – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Cyfrinachau a rennir gan ddisgyblion, staff a rhieni. Pa ddisgwyliadau a ddylai fod o ran natur y berthynas rhwng llywodraethwyr a staff; llywodraethwyr a disgyblion; llywodraethwyr ac aelodau teuluoedd, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach?


Beth ddigwyddodd?
Rwyf wedi siarad â rhai llywodraethwyr a oedd yn credu y gallwn gynnig arweiniad yn seiliedig ar fy mhrofiadau proffesiynol a’m profiadau bywyd. Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol ar adegau.


Pa wersi a ddysgwyd?
Yn fy marn i, anaml y daw Llywodraethwyr at ei gilydd i drafod materion sy’n codi o’u rôl. Yn sicr, ychydig iawn o gyfleoedd a geir i gynnig syniadau a rhannu dysgu. Ein prif ffynonellau cysylltiad yw trwy gyfarfodydd llywodraethwyr neu anfon dogfennau ymlaen trwy Dropbox. Byddai mwy o gyfleoedd i drafod materion yn gyfrinachol yn ddymunol.


Sylwebaeth
Mae’r astudiaeth achos hon yn amlygu rhai materion pwysig y mae angen i lywodraethwyr fod yn ymwybodol ohonynt wrth ymgymryd â’u rôl fel llywodraethwr. Mae gan y corff llywodraethu dair rôl allweddol yn y bôn, sef arweinyddiaeth strategol, atebolrwydd, a bod yn gyfaill beirniadol. Y pennaeth a staff yr ysgol sy’n gyfrifol am faterion gweithredol o ddydd i ddydd.

Mae Rhan I y Llawlyfr i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru yn amlinellu rolau unigol y pennaeth a’r corff llywodraethu. Mae’n bwysig bod pawb yn gyfarwydd â’r rolau penodol fel nad ydynt yn gorgyffwrdd.

Mae’n arfer da i bob corff llywodraethu dderbyn yr egwyddorion ymddygiad ar gyfer llywodraethwyr fel bod pawb yn gwybod y paramedrau y mae angen iddynt eu dilyn o’r cychwyn. Mae gan lawer o gyrff llywodraethu eu cod eu hunain i’w ddilyn a addaswyd naill ai o wybodaeth yr Awdurdod Lleol neu Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru. Os nad oes gan eich corff llywodraethu god o’r fath, mae’n werth ei ystyried.

Mae cyfrinachedd yn fater sy’n cael ei godi’n aml. Unwaith eto, mae’n bwysig bod llywodraethwyr yn ymwybodol o’r hyn yr ystyrir ei fod yn gyfrinachol ym mhob cyfarfod o’r corff llywodraethu, yn ogystal ag mewn unrhyw gyfarfodydd pwyllgor. Dylai’r Cadeirydd egluro ar ddechrau eitem benodol ar yr agenda os yw’n cael ei hystyried yn gyfrinachol. Yna, bydd y clerc yn cofnodi’r eitem hon ar wahân, fel arfer yn Rhan II y cofnodion. Fodd bynnag, mae’n aneglur o’r astudiaeth achos beth a olygir gan ‘faterion i’w trafod yn gyfrinachol.’

Fel arfer, bydd gwybodaeth am staff a disgyblion yn gyfrinachol, yn ogystal ag unrhyw fater arall y mae’r corff llywodraethu’n credu y dylai gael ei gadw’n gyfrinachol. Mae gwybodaeth am yr hyn y ceir ac na cheir ei gynnwys mewn cofnodion corff llywodraethu ar gael yma.

Mae adran ddefnyddiol ar gyfrinachedd yn Rhan 2 y Llawlyfr i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru.

Bydd llywodraethwyr yn mynychu cyfarfodydd ac yn trafod materion busnes y dydd. Yn aml, ni fydd digon o amser i drafod a sôn am syniadau, awgrymiadau a rhannu arferion effeithiol. Gall hyn fod yn amhrisiadwy a chwalu unrhyw gamdybiaethau am lywodraethu.

Ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig ydyw i lywodraethwyr adolygu a thrafod polisïau a gweithdrefnau. Yn y modd hwn, bydd llywodraethwyr yn ymgyfarwyddo â’r prosesau y dylid eu dilyn ac yn dod i’w deall. Er enghraifft, os bydd rhiant neu aelod o staff yn cwyno, a chysylltwyd â llywodraethwr yn uniongyrchol i ddatrys y mater, bydd yn gwybod beth yw’r camau priodol i’w dilyn ac felly ni fydd yn peryglu ei swydd fel llywodraethwr. Mae Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru wedi llunio rhai awgrymiadau da i lywodraethwyr i’w cynorthwyo â’u gwaith.


Myfyrdodau…
A fu gennych bryderon am unrhyw rai o’r perthnasoedd rhwng llywodraethwyr ac aelodau eraill o gymuned yr ysgol?
Pa bolisïau a gweithdrefnau sydd ar waith yn eich ysgol ynglŷn â materion cyfrinachedd?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708