Mae yna tua 22,200 o lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru. Maen nhw’n rhoi o’u hamser, sgiliau ac arbenigedd yn wirfoddol, i helpu eu hysgolion i ddarparu’r addysg gorau posibl i blant.
Mae cyrff llywodraethu yn atebol am gyfeiriad strategol eu hysgolion ac am ansawdd yr addysg a ddarperir.
Fe fyddwch yn darganfod bod sawl math o bobl yn dod yn llywodraethwyr ysgolion. Fel chi, bydd ganddynt reswm penodol dros wasanaethu ar y corff llywodraethu. Oherwydd y rhesymau gwahanol hyn, mae gan bob corff llywodraethu grwp craidd o lywodraethwyr yn cynnwys:
- Rhiant lywodraethwyr
- Athrawon lywodraethwyr
- Staff lywodraethwyr
- Llywodraethwyr ALl
- Y pennaeth (yn gweithredu fel llywodraethwr o’i ddewis/dewis)
Bydd cyrff llywodraethu hefyd yn cynnwys rhai o’r llywodraethwyr canlynol, yn dibynnu ar y math o ysgol:
- Llywodraethwyr cymunedol
- Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol
- Llywodraethwyr cynrychioliadol
- Llywodraethwyr sefydledig
- Llywodraethwyr partneriaeth
- Llywodraethwyr nawdd
- Disgybl lywodraethwyr cyswllt (ysgolion uwchradd)
Pam dod yn Llywodraethwr?
- I wneud cyfraniad pwysig i addysg trwy gefnogi cymuned yr ysgol, ei staff a’i disgyblion a chynorthwyo i godi safonau addysg
- I gael cyfleoedd boddhaol a heriol
- I helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfredol a dysgu rhai newydd hefyd
- I gyfarfod a gweithio gyda phobl newydd
I gael ymwybyddiaeth o’r system addysg
Mae Llywodraethwr yn wirfoddolwr sydd:
- â diddordeb mewn addysg;
- yn cynrychioli’r rhai sydd â diddordeb allweddol yn yr ysgol;
- yn rhan o dîm sy’n derbyn cyfrifoldeb am bopeth a wna ysgol;
- ag amser i ymrwymo i gyfarfodydd ac achlysuron eraill;
- yn fodlon dysgu;
- yn gallu gweithredu fel ffrind beirniadol sy’n cefnogi’r ysgol ond sydd hefyd yn herio ac yn gofyn cwestiynau am sut y mae’r ysgol yn gweithio a’r safonau y mae’n eu cyflawni;
- yn gweithredu fel cysylltiad rhwng rhieni, y gymuned leol, yr Awdurdod Lleol a’r ysgol.

Cyfrifoldebau Craidd y Corff Llywodraethu
- Hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol ac ymddygiad
- Gosod targedau ar gyfer cyflawniadau disgyblion
- Sicrhau bod gan pob dysgwr fynediad at gwricwlwm eang a chytbwys
- Penderfynu ar nodau, polisïau a blaenoriaethau’r ysgol
- Penderfynu ar gyllideb yr ysgol a’i monitro
- Staffio – e.e. penodi staff, rheolaeth perfformiad
- Rhoi gwybodaeth i rieni am yr ysgol
- Cynhyrchu cynllun gweithredu a monitro cynnydd yn dilyn arolwg gan Estyn
- Lles a diogelwch y dysgwyr
Sut y mae Llywodraethwr yn cyflawni ei ddyletswyddau?
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Mynychu cyfarfodydd, pwyllgorau ac efallai cymryd rhan mewn gweithgorau bychain o dro i dro
- Ymweld â’r ysgol
- Bod yn gysylltiedig gyda maes o waith yr ysgol
- Cymryd rhan ym mhenderfyniadau’r corff llywodraethu
- Gweithio o fewn cod ymddygiad cytun e.e. Egwyddorion Ymddygiad i Lywodraethwyr Ysgolion
- Cadw cyfrinachedd pan fydd angen
- Derbyn hyfforddiant a datblygiad
- Bod yn ymwybodol o’r mentrau a’r datblygiadau diweddaraf mewn addysg
Cymorth a Hyfforddiant
Er mwyn i lywodraethwyr gyflawni eu cyfrifoldebau’n effeithiol ac i safon uchel mae angen iddyn nhw dderbyn hyfforddiant priodol.
Mae ymrwymiad i ddatblygiad llywodraethwyr yn agwedd bwysig o fod yn gorff llywodraethu effeithiol ond dydy hyfforddiant ddim yn gorffen yn y cyfnod anwytho. Mae yna nifer o gyrsiau hyfforddi ychwanegol ar gael wedi’u darparu gan yr Awdurdod Lleol, i gynorthwyo pob llywodraethwyr i gael yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i lywodraethu eu hysgolion yn effeithiol.
Mae modd cael gwybodaeth, cymorth a chyngor ychwanegol gan y canlynol:
Swyddogion Cefnogi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol / Awdurdod Esgobaeth
- Cylchlythyrau
- Dogfennau briffio
- Digwyddiadau a rhaglenni hyfforddi llywodraethwyr ALl
- Gwybodaeth anwytho
Mae cefnogaeth ar gael gan yr ysgolion hefyd i lywodraethwyr newydd, gan y pennaeth, llywodraethwyr profiadol a’r clerc. Mae enghreifftaiu’n cynnwys:
- Hyfforddiant anwytho’r ysgol
- Gwybodaeth a ddarperir gan yr ysgol e.e. llawlyfr, cofnodion blaenorol, cynllun gwelliant yr ysgol, cylchlythyrau
- Dyrannu llywodraethwr fel mentor o’r corff llywodraethu
- Cyfarfod gyda’r pennaeth a’r cadeirydd
- Gwybodaeth am y corff llywodraethu – rhestr pwyllorau, calendr cyfarfodydd y corff llywodraethu a’r pwyllgorau, cylch gwaith blwyddyn
- Hyfforddi a datblygu llywodraethwyr – eitem rheolaidd ar agenda’r corff llywodraethu, archwiliad o’r hyfforddiant y mae’r corff llywodraethu wedi ei dderbyn.
Rhai adnoddau defnyddioles
© Gwasanaethau Governors Cymru
Cyhoeddwyd: 29/08/2018