Y Tanysgrifiad GCS




Beth am ymuno nawr i gael mynediad i amrediad o adnoddau a fydd yn:

  • helpu i gynyddu effeithlonrwydd cyrff llywodraethu
  • rhoi’r wybodaeth / newyddion diweddaraf i chi a sicrhau eich bod yn cydymffurfio
  • arbed arian ac amser i chi

GALLWCH CHI GOFRESTRU YMA GAN DDEFNYDDIO’R FFURFLEN AR-LEIN



Dyma fideo fer amdanon ni a’r hyn rydych chi’n colli allan arno!


.


Mae tanysgrifwyr yn gwerthfawrogi en gwasanaeth



GALLWCH DDARLLEN RHAGOR O DDATGANIADAU CYMERADWYAETH YMA


Blynyddoedd tanysgrifio

  • Medi – Awst
  • Ionawr – Rhagfyr
  • Ebrill – Mawrth

Costau tansygrifio

  • Ysgolion gyda 50 disgybl neu lai – £126
  • Ysgolion uwchradd (yn cynnwys ysgolion pob oedran) – £319
  • Pob ysgol arall – £192

Mae’r holl gostau yn destun TAW


Amdanom ni

Mae Gwasanaethau Governors Cymru Cyf yn wasanaeth cefnogi cenedlaethol, sydd yn darparu amrediad o gefnogaeth i ysbrydoli a hyrwyddo llywodraethiant effeithiol, arweiniad, mewnwelediad ac atebion i gwestiynau ar lywodraethiant ysgolion, ac mae’n cynnwys mynediad i gyfoeth o wybodaeth ar rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr ysgolion.

Llinell Gefnogi

Mynediad i’n llinell gefnogi gyfrinachol, sydd yn darparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad annibynnol ar llywodraethiant ysgolion. Mae’r llinell gefnogi yn wasanaeth cyfeillgar, yn broffesiynol ac mae ar gael rhwng 9.00am – 5.00pm Llun i Gwener a rhwng 5.00pm – 7.00pm Llun i Iau yn ystod amser tymor. Pa mor gymhleth neu syml ydy eich ymholiad – rydym yma i’ch helpu i gyflawni eich rolau yn effeithiol ac yn effeithlon. Gall rhai agweddau o gyngor cyfreithiol fod yn destun tâl ychwanegol.
Llinell Gefnogi ac e-bost: 01443 844532

Edrychwch ar y fideos hyn am y llinell gymorth!


E-fwletinau

Fe fydd ein e-fwletinau rheolaidd yn rhoi’r diweddaraf i chi am newyddion addysg pwysig fel diweddariadau polisi, ymgynghoriadau a chanllawiau perthnasol newydd. Yn ogystal ag e-fwletinau, fe fyddwch yn derbyn gwybodaeth am unrhyw faterion perthasol brys wrth iddyn nhw godi. Edrychwch ar ebulletin enghreifftiol yma.

Cyngor ac arweiniad

Mae mynediad neilltuol i’r adran cyngor ac arweiniad ar y wefan sydd yn cynnwys adnoddau ymarferol y gellir eu lawrlwytho yn cynnwys:
  • Llawlyfr i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru
  • Hunanwerthusiad cyrff llywodraethu
  • Canllawiau i lywodraethwyr
  • Adnoddau
  • Cwestiynau Cyffredin/cyngor
  • Astudiaethau achos
  • Ardal Clercod
  • Sgyrsiau

Mae rhai o’n hadnoddau newydd yn cynnwys:

  • Sut i gael effaith
  • Canllaw i Lywodraethwyr ar Reoli Cyfrinachedd
  • Sut i ddelio’n effeithiol gyda chwynion?
  • Sut i ddefnyddio sgiliau’n effeithiol yn y corff llywodraethu
  • Sut i sicrhau bod eich corff llywodraethu yn datblygu arferion ardderchog
  • Pecyn Cymorth Llesiant
  • Rôl y Corff Llywodraethu mewn Gwelliant Ysgol
  • Sut i herio’n effeithiol – cynghorion ymarferol

E-ddysgu

Mynediad i fodiwlau e-Ddysgu dynodedig ar amrywiaeth o bynciau i helpu llywodraethwyr i fod yn fwy effeithiol yn eu rôl.


Rescources-cy


Lle/oedd blaenoriaeth mewn sesiynau briffio

Manylion i’w cyhoeddi yn ystod y flwyddyn. Cyfeiriwch at ein hadran digwyddiadau.

Gwasanaethau ychwanegol

Fe fydd costau am wasanaethau ychwanegol yn seiliedig ar natur y gefnogaeth/gwasanaeth a roddir ac unrhyw gostau teithio a cynhaliaeth fel bo’n briodol.
  • Cefnogaeth pwrpasol i gyrff llywodraethu;
  • Adolygad o effeithlonrwydd eich corff llywodraethu
  • Recriwtio llywodraethwyr;
  • Amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi (manylion pellach ar gael dim ond gofyn am hynny).
  • Gwobrau i gyrff llywodraethu a chlercod.

Fel y gwelwch rydym yn cynnig amrediad helaeth
o dyddiau i’ch helpu gyda’ch gwaith fel llywodraethwr.


Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn cynnig tawelwch meddwl bod gan gyrff llywodraethu a gweithwyr addysg proffesiynol fynediad i’r wybodaeth y maen nhw ei hangen i gyflawni eu rolau yn effeithiol, cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau newydd a chynyddu eu hyder yn eu rôl –
does yna’r un cwestiwn yn rhy fawr nac yn rhy fach!



Y broses danysgrifio

Ar ôl derbyn y ffurflen danysgrifio –
  • Ychwanegir cyfeiriadau e-bost y Pennaeth, Cadeirydd a’r Clerc ar restr bostio GCS, yn hytrach na chyfeiriadau’r corff llywodraethu llawn. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi ddiweddaru eich rhestr aelodau llywodraethwyr gyda GCS bob tro y mae newid i’r aelodaeth, ac felly’n lleddfu’r llwyth gwaith.
  • Anfonir yr anfoneb am y tanysgrifiad at y Pennaeth, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a roddwyd ar y ffurflen danysgrifio.
  • Anfonir telerau ac amodau’r gwasanaeth ar wahân i’r rhai a restrir ar eich ffurflen danysgrifio a dylid eu rhannu gyda’ch corff llywodraethu. Fe ddylai aelodau’r corff llywodraethu fod yn ymwybodol o delerau’r gwasanaeth.
  • Efallai y byddwch yn derbyn gwybodaeth gan GCS cyn i chi dalu, ond ni fyddwch o angenrhaid wedi derbyn eich manylion mewngofnodi. Cadwch yr e-byst yma er gwybodaeth.
  • Unwaith y bydd taliad wedi’i dderbyn, anfonir yr e-bost croeso a’r manylion mewngofnodi ar gyfer y wefan at y rhai a restrir ar y ffurflen danysgrifio.
  • Fe ddylid anfon unrhyw e-fwletinau a hysbysiadau y byddwch yn eu derbyn gan GCS ymlaen at weddill aelodau’r corff llywodraethu.
  • Mae gan pob aelod o’ch corff llywodraethu fynediad i’r gwasanaeth fel rhan o’r tanysgifiad, yn cynnwys y llinell gefnogi gyfrinachol.

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708