Cofnodion i ddangos rôl ffrind beirniadol y corff llywodraethu


Mae’r erthygl hon yn edrych ar sut mae’n rhaid i gofnodion ddangos rôl ffrind beirniadol y corff llywodraethu.

Pan fydd Estyn yn arolygu’r ysgol fe fyddan nhw hefyd yn barnu pa mor dda mae’r corff llywodraethu yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol. Mae arolygwyr yn gwerthuso pa mor dda mae llywodraethwyr yn:

  • deall eu rolau;
  • yn wybodus am berfformiad yr ysgol a’r materion sydd yn effeithio ar hynny;
  • yn darparu synnwyr cyfeiriad i waith yr ysgol;
  • yn cefnogi’r ysgol fel ffrind beirniadol;
  • yn dal yr ysgol i gyrfif am y safonau a’r ansawdd y mae’n eu cyflawni.

I wneud hyn, maen nhw’n cyfarfod cynrychiolwyr y corff llywodraethu a hefyd yn edrych ar gofnodion y corff llywodraethu a’r pwyllgorau.

Dylai’r holl gofnodion gynnwys esboniad o’r eitemau ar yr agenda, crynodeb o brif bwyntiau’r trafodaethau, a’r cwestiynau a holwyd (yn darparu tystiolaeth o her) a chanlyniad y drafodaeth, fel rheol argymhelliad neu benderfyniad. Fe fydd hyn yn esgor ar gamau gweithredu, pwy, pryd a’r amserlen.

Dylai’r cofnodion hefyd ddarparu tystiolaeth sydd yn dangos:

  • strategaethau’r corff llywodraethu ar gyfer cyflawniad a chyrhaeddiad disgyblion a blaenoriaethau gwelliant yr ysgol;
  • rôl y ffrind beirniadol (monitro a gwerthuso safonau, prosesau a chanlyniadau’r ysgol) – gofyn cwestiynau, herio, cydnabod llwyddiant a rhoi cefnogaeth); a
  • rôl atebolrwydd h.y. gwneud penderfyniadau/awgrymiadau. Trafodaethau am CDY, hunan werthuso, llwyddiannau a heriau’r ysgol a’r corff llywodraethu,

Mae’r clerc felly yn chwarae rôl holl bwysig mewn dal yr wybodaeth yma yn y cofnodion.

Argymhellir bod cwestiynau allweddol gan lywodraethwyr, yn enwedig os ydyn nhw ynghylch cynnydd, cyflawniad a thargedau, yn cael eu cofnodi, ynghyd ag ymateb yr ysgol. Mae’r Bwrdd Datblygu Arweinyddiaeth Cenedlaethol (NLDB) wedi llunio’r cwestiynau allweddol canlynol ar gyfer defnydd llywodraethwyr

Nodir rhai dyfyniadau o gofnodion ffuglennol isod:


Gosod targedau
  • Nododd y llywodraethwyr bod y dystiolaeth fod cefnogaeth CD mewn dosbarthiadau wedi bod yn llwyddiant a bod y targedau blaenorol wedi eu cyrraedd, neu wedi eu curo. O ganlyniad, mae addasiadau wedi’u gwneud i’r targedau i adlewyrchu hyn.
  • Trafodwyd data lefel 4 a lefel 5 yn fanwl. Roedd y targedau a osodwyd yn seiliedig ar unigolion.
  • Mae targedau wedi cael eu haddasu’n ddramatig eleni, gan gymryd i ystyriaeth yr amrediad o strategaethau y mae’r llywodraethwyr wedi cytuno arnyn nhw i effeithio canlyniadau yn gadarnhaol ar lefel 4 a lefel 5.
  • Mae mwy o ddarpariaeth yn cael ei roi nawr i ddisgyblion MAT: mae system olrhain yn galluogi staff i gael gwybodaeth ysgol gyfan am gyflawniadau disgyblion, gan alluogi cyflwyno rhaglenni ymyrraeth ac adnabod disgyblion Mwy Abl a Thalentog (MAT). Holodd y llywodraethwyr os oedd yna unrhyw ysgolion oedd yn rhagori yn y maes yma, a pha raglenni ymyrraeth oedd yn cael eu defnyddio, ac a oedd modd trefnu cyfarfod penodol i drafod hyn.

Holodd y llywodraethwyr os oedd y targedau a osodwyd yn rhai uchelgeisiol a beth oedd yr adborth yn dilyn y cyfarfod diweddaraf gyda’r cynghorydd heriau. Nododd y llywodraethwyr y gwelliannau mewn presenoldeb ac ymddygiad ers i’r cynnydd mewn cefnogaeth CD gael ei weithredu. Holodd y llywodraethwyr os oedd rhagolwg cyllid yr ysgol am y flwyddyn nesaf yn gallu cadw’r lefel gyfredol o staffio. Dywedodd y pennaeth ….. Cytunodd y llywodraethwyr i dderbyn y targedau.

Dadansoddi Data
Cafwyd trafodaeth fer am y dogfennau a ddosbarthwyd ac yna cafwyd cyflwyniad manwl gan XX. Yn ystod y cyflwyniad, gofynnodd y llywodraethwyr y cwestiynau canlynol a chafwyd trafodaeth arnyn nhw:

  • Esboniwyd y tueddiadau mewn llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth gan ddefnyddio graffiau.
  • Gwelwyd gwelliant sylweddol mewn gwyddoniaeth gan ei fod yn darged blaenoriaeth yn 20XX-20XX. Mae bellach yn cymharu’n ffafriol gyda’r holl feincnodau – holodd y llywodraethwyr a oedd yr arfer da yma wedi’i rannu gydag ysgolion eraill?
  • Ystyriodd y llywodraethwyr berfformiad yr ysgol o’i gymharu â data lleol a chenedlaethol ac roedden nhw’n hapus i nodi bod y disgyblion wedi cyflawni ar lefel briodol. Er nad oedd grŵp y llynedd wedi cyflawni cystal ag ysgolion tebyg mewn mathemateg, roedd y llywodraethwyr yn derbyn esboniad y pennaeth gan nodi bod cyflawniad a ‘gwerth ychwanegol’ yn y pwnc yma yn dal yn dda iawn.
  • Mae’r amcanion a nodir yn ystod pob cyfarfod rheoli perfformiad staff wedi’u hanelu at gefnogi disgyblion i gyflawni’r lefel uwch o gyflawniad lle mae hynny’n briodol.

Grant Datblygu Disgyblion
Adroddodd y pennaeth ar y lefel o grant a dderbyniwyd ar gyfer eleni. Fe fyddai prif wariant y grant yn mynd ar strategaethau i fynd i’r afael ag amrywiaeth mewn perfformiad bechgyn a merched sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Gofynnodd y llywodraethwyr am ragor o fanylion am y strategaethau oedd yn cael eu defnyddio ac yn enwedig sut y bydden nhw’n cael eu monitro a’u gwerthuso.

Targedau Presenoldeb
Nodwyd bod lefelau presenoldeb wedi gostwng ychydig dros y 3 blynedd. Esboniodd y pennaeth y rheswm dros hynny a chyflwynodd y strategaethau oedd ar waith i wella lefelau presenoldeb. Mae yna ysgol debyg yn XXX sydd yn cyflawni ffigurau presenoldeb ardderchog. Roedd y llywodraethwyr yn cefnogi bwriad y pennaeth i archwilio’r rhesymau dros hyn ac i adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf. Mae presenoldeb wedi’i dargedu i wella i XX% yn y flwyddyn gyfredol. Penododd y llywodraethwyr lywodraethwr cyswllt ar gyfer presenoldeb a fydd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Ms XX ac yn adrodd yn ôl i’r corff llywodraethu ar fentrau ac ar y cynnydd a wnaethpwyd.




© Gwasanaethau Governors Cymru

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708