Dod yn Llywodraethwr


Cyflwyniad i Lywodraethu Ysgolion yng Nghymru — taith y llywodraethwr

Gynhyrchwyd mewn partneriaeth â Governors for Schools a Phrifysgol Caerdydd, lluniwyd y modiwl hwn yn benodol ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn bod yn llywodraethwr a phobl sydd wedi dechrau yn ddiweddar ar eu taith fel llywodraethwr ysgol mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
elearning-module-cy


Mae corff llywodraethu ardderchog yn hanfodol i lwyddiant ysgol – pam?

  • mae llywodraethwyr yn gyfrifol am benodi’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth
  • mae penderfyniadau llywodraethwyr yn effeithio’n uniongyrchol ar addysg a llesiant disgyblion
  • gall llywodraethwyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wella safonau drwy’r ysgol gyfan


Mae llywodraethwr yn rywun sydd:

  • yn cael eu penodi neu eu hethol am dymor o bedair blynedd;
  • yn ymrwymo diddordeb, brwdfrydedd ac amser i fod yn llywodraethwr;
  • yn gallu mynychu o leiaf un cyfarfod o’r corff llywodraethu yn ystod pob tymor ysgol ac efallai y gofynnir iddynt fynychu cyfarfodydd pwyllgor (mae’r rhan fwyaf o’r cyfarfodydd fel arfer yn digwydd yn hwyr yn y prynhawn neu yn ystod y nosweithiau);
  • yn cyfarwyddo eu hunain â gwaith yr ysgol, gan gynnwys ymweld â’r ysgol, ac yn cadw’i fyny gyda chynnydd a gwaith yr ysgol;
  • gweithio fel tîm, penderfynu ar bethau ar y cyd a rhannu cyfrifoldebau am y penderfyniadau a wnânt;
  • canolbwyntio eu cyfraniad i lywodraethu penderfyniadau’r corff ar beth fydd er y budd gorau i ddisgyblion yr ysgol, gan helpu pob disgybl i ddatblygu eu potensial llawn;
  • yn cefnogi’r ysgol ond hefyd yn herio ac yn gofyn cwestiynau am sut mae’r ysgol yn gweithio a’r safonau mae’n ei gyflawni, o gofio cyfrifoldeb y corff llywodraethu i hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol;
  • yn barod i ddysgu ac i fynychu cyrsiau hyfforddi (gan gynnwys anwythiad a hyfforddiant data) a drefnir gan yr ALl, sy’n rhad ac am ddim, ac a fydd yn gwella sgiliau ac yn cyfrannu at ddatblygiad personol.


Beth rydym yn gobeithio y byddwch yn ei gael o fod yn llywodraethwr – beth yw’r manteision?

  • chwarae rhan real iawn o ran sicrhau bod y disgyblion yn yr ysgol yn cael yr addysg orau bosibl;
  • boddhad o godi safonau;
  • sicrhau gwerth am arian ar gyfer yr ysgol;
  • rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned;
  • ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad;
  • hyfforddiant a chymorth er mwyn helpu i chi gyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau;
  • sgiliau newydd a allai fod yn ddefnyddiol mewn mannau eraill – gwaith tîm, cynllunio ariannol a strategol, recriwtio a sgiliau cyfweld – ac mai hynny dim ond i ddechrau!


Dyma Jenny o Ysgol Ioan y Bedyddiwr VA, Sir y Fflint
ar beth mae’n olygu iddi hi i fod yn llywodraethwr yng Nghymru.



Darllenwch Myfyrdodau ar wasanaethu fel Llywodraethwr yn Ysgol Treganna, Caerdydd gan Faye Gracey


Gwyliwch y clip fideo hwn gan rai o staff Prifysgol Caerdydd sy’n gwasanaethu fel llywodraethwyr ysgol




Gwasanaeth Recriwtio Llywodraethwyr Am Ddim

Mae Governors for Schools yn elusen sy’n dod o hyd i, yn lleoli ac yn cefnogi gwirfoddolwyr medrus fel llywodraethwyr ar gyrff llywodraethu ysgolion. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys prifysgolion, safleoedd gwirfoddoli a busnesau lleol i ddod o hyd i wirfoddolwyr sy’n chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau i gefnogi addysg yn y gymuned leol.

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?
Mae Governors for Schools yn cefnogi pob math o ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth, colegau addysg uwch, unedau cyfeirio disgyblion (PRU) a meithrinfeydd a ariennir gan y wladwriaeth i ddod o hyd i lywodraethwyr yn rhad ac am ddim. Os oes gennych swydd wag ar eich corff llywodraethu, gallwch gofrestru eich swydd wag gyda ni am ddim. Byddwn yn eich cysylltu â gwirfoddolwyr lleol addas sy’n edrych i ddod yn llywodraethwyr.

Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?

  1. Cofrestrwch eich swyddi llywodraethwyr gwag ar-lein. Yma gallwch nodi’r sgiliau neu’r arbenigedd dymunol yr ydych yn chwilio amdanynt mewn gwirfoddolwyr.
  2. Bydd y rheolwr ardal leol yn dod o hyd i wirfoddolwyr yn ardal leol eich ysgol sy’n cyfateb orau i’ch gofynion.
  3. Os oes gennych chi a’r gwirfoddolwr ddiddordeb mewn symud ymlaen, byddwn yn gwneud cyflwyniad trwy e-bost. Byddwn yn rhoi amlinelliad i chi o set sgiliau’r gwirfoddolwr, yn ogystal â gwybodaeth ynghylch pam eu bod yn dymuno bod yn llywodraethwr.
  4. Yna gallwch drefnu cyfarfod gyda’r gwirfoddolwr yn yr ysgol neu ar-lein i siarad mwy am y rôl.
  5. Os yw’r gwirfoddolwr yn addas ar gyfer eich corff llywodraethu, byddwch yn dilyn eich proses benodi arferol.

Amrywiaeth ar gyrff llywodraethu
Mae corff llywodraethu amrywiol yn gorff llywodraethu cryfach, sy’n adlewyrchu cymunedau ysgolion a’r wlad ehangach. Darllenwch ymhellach am sut rydym yn gweithio i wella amrywiaeth ar gyrff llywodraethu.

Am unrhyw gwestiynau, neu i ddarganfod mwy, cysylltwch â [email protected].


Ac yn olaf…

  • Cryfder y corff llywodraethu yw ei allu i ddenu a dibynnu ar aelodau o amrywiaeth eang o gefndiroedd, rhannu dyletswyddau ymhlith ei aelodau, a’r gallu i wneud penderfyniadau fel grŵp.
  • Nid oes un llywodraethwr sy’n gyfrifol am y corff llywodraethu, nid hyd yn oed cadeirydd y llywodraethwyr.
  • Mae’r llywodraethwyr i gyd yn rhannu’r cyfrifoldeb o wneud y corff llywodraethu yn effeithiol ac effeithlon drwy osod cylch gwaith y corff a’i bwyllgorau, bod yn wybodus a mynychu cyfarfodydd.


Cymryd y cam nesaf

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn llywodraethwr ysgol, neu i ddarganfod rhagor:

  • Cysylltwch gyda Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru am ragor o wybodaeth drwy [email protected]
  • Siaradwch gyda rhywun sydd yn llywodraethwr
  • Cysylltwch gyda phennaeth neu gadeirydd y llywodraethwyr yn eich ysgol leol
  • Cysylltwch gyda’ch awdurdod lleol
  • Cysylltwch Governors for Schools


Gwybodaeth ar wefannau Awdurdodau Lleoll

Abertawe Blaenau Gwent Bro Morgannwg Caerdydd
Caerffili Casnewydd Ceredigion Conwy
Gwynedd   Merthyr Tudful Nedd a Phort Talbot Pen y bont
Powys Rhondda Cynon Taf Sir Ddinbych Sir Fynwy
Sir Penfro Torfaen Sir Gar Sir y Fflint
Wrecsam Ynys Mon


© Gwasanaethau Governors Cymru

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708