Gwahardd disgyblion hiliol

Trafodaeth – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Bu gwrandawiadau gwahardd yn ymwneud ag ymddygiad hiliol gan ddau blentyn. Roedd un, yn arbennig, yn defnyddio iaith ac arwyddion amhriodol byth a hefyd tuag at fyfyrwyr o leiafrifoedd ethnig yn yr ysgol.


Beth ddigwyddodd?
Rwyf wedi ymdrin â materion tebyg o’r blaen, ond nid yn ymwneud â myfyrwyr ifanc. Roedd yr adran addysg a’r staff wedi fy nghynorthwyo trwy roi gwybodaeth am y materion. Mae’r Pennaeth bellach yn datrys y mater gyda staff a llywodraethwyr hyfforddedig.


Pa wersi a ddysgwyd?
Mae angen i staff sy’n ymdrin â materion o’r math hwn gael hyfforddiant a chymorth priodol.


Sylwebaeth
Mae gwahardd o’r ysgol (am gyfnod penodol ac yn barhaol) yn fater difrifol iawn ac nid yw’n rhywbeth a wneir ar chwarae bach. Byddai sawl ffactor wedi cael ei ystyried cyn i’r Pennaeth wneud y penderfyniad hwn. Er na wyddys y manylion penodol, dyma rai cyhoeddiadau defnyddiol i’ch cynorthwyo:

Mae’n rhaid i ysgolion gofnodi unrhyw ddigwyddiadau, gan nodi’r camau a gymerwyd. Yn yr un modd, mae angen i’r corff llywodraethu fonitro gwybodaeth yn ofalus a gwneud unrhyw newidiadau perthnasol i bolisïau’r ysgol, fel y bo’n briodol.

Gwahardd o’r ysgol ac unedau cyfeirio disgyblion – Mae hwn yn ganllaw rhagorol sy’n rhoi gwybodaeth am rôl y pennaeth, graddfeydd amser, y pwyllgor disgyblu disgyblion ac ailintegreiddio ac ati.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod dysgwyr rhag gwahaniaethu yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig, y mae hil yn un ohonynt. Mae dyletswydd gofal sector cyhoeddus Deddf 2010 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar y corff llywodraethu i roi sylw dyledus i’r gofyniad i: gael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac ati, a hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl p’un a oes ganddynt nodwedd warchodedig berthnasol ai peidio, meithrin cysylltiadau da rhwng pobl p’un a oes ganddynt nodwedd warchodedig berthnasol ai peidio.

Gellir dod o hyd i wybodaeth berthnasol yn adrannau 1.17.2 – 1.17.13.

Felly, mae polisïau ysgol mor bwysig i ategu gwerthoedd yr ysgol a helpu i ddatblygu ethos cynhwysol, h.y. parchu ei gilydd. Mae ymagwedd ysgol gyfan sy’n cynnwys yr holl staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr, yn helpu i ymsefydlu arferion enghreifftiol ac yn sicrhau cyd-ddealltwriaeth o’r hyn nad yw’n dderbyniol.

Mae angen i ysgolion a chyrff llywodraethu adolygu eu polisïau (er enghraifft, ymddygiad, gwrthfwlio, cydraddoldeb), eu harferion a’u gweithdrefnau i sicrhau bod holl staff yr ysgol yn ymwybodol o’r prosesau sydd ar waith ac yn eu deall.

Bydd llawer o Awdurdodau Lleol yn darparu hyfforddiant i lywodraethwyr ar wahardd disgyblion. Dylai ysgolion hefyd sicrhau bod staff yn deall y prosesau ac yn gweithredu’n gyson. Bydd rhai ysgolion yn defnyddio amser HMS dynodedig i fyfyrio ar strategaethau rheoli ymddygiad disgyblion ac adolygu a diweddaru gweithdrefnau. Mae hyn yn ffordd wych i’r holl staff rannu arferion effeithiol.

Bydd gan eich Awdurdod Lleol wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu hefyd. Dyma rai dolenni i wybodaeth ychwanegol i gynorthwyo ysgolion a llywodraethwyr:


Myfyrdodau…
A fu unrhyw achosion difrifol o hiliaeth yn eich ysgol? Os felly, sut mae’r corff llywodraethu wedi cynorthwyo’r ysgol i fynd i’r afael â hyn?
A yw’r staff a’r llywodraethwyr yn eich ysgol yn cael hyfforddiant rheolaidd ar hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708