Sut i gytuno ar gyflogau staff sy’n symud i ysgol newydd

Trafodaeth – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Mater anodd – trafod a chytuno ar gyflogau ar gyfer tîm newydd o ddirprwyon mewn ysgol newydd sbon. Mae’n anodd oherwydd bod rhai aelodau o’r corff llywodraethu eisiau rhoi’r un cyflog i’r holl ddirprwyon newydd gan y byddant i gyd yn newydd i’r swydd, tra bod eraill eisiau cydnabod profiad blaenorol trwy amrywiadau i gyflogau.

Teimlais fod y drafodaeth yn cael ei harwain gan bawb ar sail ‘greddf’ yn hytrach nag ymagwedd gadarn a phroffesiynol. Roeddwn yn fodlon â’r penderfyniad terfynol ond braidd yn anghyfforddus gan ei fod yn teimlo fel ‘proses o ddyfalu’. Nid oedd y rhai a oedd yn bresennol wedi cyfeirio at ganllawiau na rheolau.


Beth ddigwyddodd?
Mae unigolion ar y corff llywodraethu yn rhoi eu barn unigol. Mae swyddogion yr Awdurdod Lleol yn cynghori. Mae cynigion wedi cael eu cyflwyno.


Pa wersi a ddysgwyd?
Datryswyd y mater ond rwy’n dal i deimlo braidd yn anghyfforddus gan nad oeddem wedi dilyn unrhyw ganllawiau cydnabyddedig. Gwers – y tro nesaf, wrth ymdrin â mater o’r natur hon, byddwn yn gofyn a oes canllawiau ar gael.


Sylwebaeth
Mae’r astudiaeth achos hon yn amlygu nifer o faterion i’w hystyried wrth gyflogi staff mewn ysgol newydd. Ni wyddys beth fydd categori’r ysgol newydd, ond serch hynny, byddai corff llywodraethu dros dro wedi cael ei sefydlu i wneud penderfyniadau amrywiol. Dyma ddolen i’r rheoliadau sy’n llywodraethu’r broses, yn ogystal â Phennod 20 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion.

Rhoddir gwybodaeth gyffredinol am staffio a phenodiadau ym Mhennod 10 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion.

Yn gyntaf ac yn bwysicaf, byddai’r strwythur staffio wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer yr ysgol newydd. Er mwyn pennu cyflog uwch arweinwyr, sef Dirprwy Benaethiaid yn yr achos hwn, byddai angen dilyn proses ddynodedig, fel y’i hamlinellir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).

Byddai angen rhagor o wybodaeth i roi ymateb manylach. Mae paragraffau 8.3-9.4 (tudalennau 16-17) yn rhoi gwybodaeth i ysgolion newydd ac am sut i bennu cyflog arweinwyr. Mae’r broses yn gymhleth ac mae’n rhaid ceisio cyngor gan yr Awdurdod Lleol / Awdurdod Esgobaethol, sef yr adran Adnoddau Dynol fel arfer.


Myfyrdodau…
Pa bolisïau sydd ar waith yn eich ysgol i gytuno ar gyflogau ar gyfer staff newydd?
A oes diwylliant yn eich corff llywodraethu o geisio cyngor ac arweiniad proffesiynol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708