Materion diogelu a’r angen am gymorth gan yr Awdurdod Lleol

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Anawsterau yn deillio o ddiogelu disgyblion ag anghenion cymorth uchel iawn sydd, o bosibl, yn ormod i staff yr ysgol ymdopi â nhw’n effeithiol. Cododd faterion gyda nifer fach iawn o ddisgyblion a oedd yn achosi sefyllfaoedd perygl uchel (un gyda chyllell), i staff a disgyblion eraill. Nid yw disgyblion ag anghenion cymorth mor uchel wedi cael eu derbyn o’r blaen, hyd y gwn i.


Beth ddigwyddodd?
Rydym yn dal i aros am gyfarfod gyda’r bobl addysg a chynhwysiant yn yr Awdurdod Lleol i drafod hyn a gweld beth sydd wedi newid, os o gwbl, yn eu dealltwriaeth o’r gwahanol fathau o anghenion cymorth ymhlith disgyblion ag anawsterau dysgu a’r hyn y gallwn ni ei ddarparu.


Pa wersi a ddysgwyd?
Rydw i’n credu nad ydyn nhw eisiau cyfarfod â ni. Os oes gennym ni gyfrifoldeb cyfreithiol yna fe ddylem ni gael ein clywed, ac eto dywedwyd wrthyf nad ydyn nhw fel arfer yn trafod unrhyw beth gyda llywodraethwyr. Rwy’n anghytuno’n llwyr â hynny. Mae angen i ni allu cynorthwyo ein Huwch Dîm Arweinyddiaeth sut bynnag y gallwn, neu fel arall rydym ni’n bodoli dim ond i ufuddhau i gyfarwyddiadau… safbwynt traddodiadol ein Hawdurdod Lleol?


Sylwebaeth
Mae gan bob ysgol a chorff llywodraethu ddyletswyddau statudol o ran disgyblion ag AAA/ADY. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb y corff llywodraethu i bennu polisi ac ymagwedd yr ysgol ar gyfer bodloni anghenion disgyblion ag AAA/ADY a’r rhai nad oes ganddynt ADY. Mae’r rhan fwyaf o gyrff llywodraethu’n penodi llywodraethwr cyswllt a/neu bwyllgor i adolygu a goruchwylio trefniadau’r ysgol.

Anghenion addysgol arbennig: cod ymarfer
Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru wybodaeth am rôl y llywodraethwr cyswllt AAA/ADY hefyd.http://governors.cymru/sengovernor-cy/

Mae gan yr Awdurdod Lleol gyfrifoldeb penodol hefyd i ddarparu cymorth i ysgolion, ynglŷn â darparu ar gyfer plant ag ADY, yn ogystal â chynllunio, monitro ac adolygu’r ddarpariaeth ar gyfer y plant hyn. Byddai’n rhesymol, felly, disgwyl trafod gyda’r Awdurdod Lleol y ffordd orau ymlaen ar gyfer disgyblion unigol sy’n achosi pryder difrifol. Byddai hyn fel arfer yn cynnwys yr aelod perthnasol o staff e.e. Cydlynydd ADY a’r Pennaeth, o bosibl, yn ogystal ag unrhyw sefydliadau amlasiantaethol eraill perthnasol, mewn rhai achosion.

Mae’n eithaf tebygol na fyddai llywodraethwyr yn ymwneud â’r achos hwn tan yn ddiweddarach yn y broses, os na ddarparwyd cymorth digonol.

Yn y pen draw, mae dyletswydd gofal i aelodau staff, ac os canfyddir, ar ôl asesiadau risg a thrafodaethau â’r asiantaethau perthnasol, na ddarperir cymorth digonol i ddisgyblion unigol, er enghraifft cymorth un i un, diogelwch staff a disgyblion eraill sydd bwysicaf.

Ni chrybwyllir gwahardd disgybl yn y sefyllfa hon, ond lle y ceir sefyllfaoedd difrifol a risg uchel, gallai gwahardd gael ei ystyried, er hynny fel dewis olaf.

Mae’r dolenni isod yn darparu gwybodaeth ychwanegol:

Ymyriadau diogel ac effeithiol: canllawiau ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol

Cadw dysgwyr yn ddiogel

Rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth: canllawiau ar gyfer ysgolion uwchradd

Rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth: canllawiau ar gyfer ysgolion cynradd

Anghenion dysgu ychwanegol

Noder bod cyflwyniad y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) wedi dechrau ym mis Medi 2021. I ddisgyblion sydd yn cael eu hasesu am y tro cyntaf o Fedi 2021 rhaid i ysgolion ddilyn y broses a nodir yn y Cod Ymarfer ADY. Mae cyfnod pontio o dair blynedd (tan haf 2025) pryd y caiff datganiadau AAA presennol, cynlluniau addysg unigol, a chynlluniau dysgu a sgiliau eu trosi i gynlluniau datblygu unigol (CDU). Caiff hyn ei wneud drwy ddull graddol a gorfodol ar sail carfannau penodol sy’n seiliedig ar oedran. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y system ADY yn gweithredu’n gyfochrog â’r system AAA. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod:
Rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol


Myfyrdodau…
A oes materion diogelu neu les disgyblion penodol yn eich ysgol?
I ba raddau ydych chi’n teimlo bod eich ysgol yn cael ei chefnogi wrth ddelio â phlant y mae arnynt angen cymorth?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708