Atal dros dro a diswyddo aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Fel Cadeirydd, bu’n rhaid i mi ymyrryd i fynd i’r afael â mater yn yr ysgol yn absenoldeb y Pennaeth. Roedd y Pennaeth yn absennol oherwydd salwch ar y pryd. O ganlyniad, cododd fater yn ymwneud ag ymddygiad aelod o staff yn yr ysgol. Yna, fel Cadeirydd, derbyniais alwad chwythu’r chwiban.


Beth ddigwyddodd?
I ddechrau, ceisiais ganfod y ffeithiau gan aelod o staff, rhiant a llywodraethwyr. Casglais ynghyd dystiolaeth a datganiadau tyst (yr oedd rhai ohonynt o’r gorffennol), cyflwynais y dystiolaeth i’r Cyfarwyddwr Addysg gydag argymhellion, yna ataliais yr aelod o staff o’i swydd dros dro. Cysylltais â’r Gwasanaethau Cymorth Llywodraethwyr hefyd.


Pa wersi a ddysgwyd?
Roedd cyfrinachedd yn hollbwysig. Nid yw’r broses ddisgyblu’n gyflym nac yn gweithredu o blaid yr ysgol a’r plant. Bod â’r llywodraethwr arweiniol iawn yn ymdrin â’r mater a bod un cam o flaen y cyngor.

Gwersi a ddysgwyd = roedd AD yn anghymwys Roeddem ni’n ffodus iawn bod gennym ni wybodaeth broffesiynol yn y corff llywodraethu. Mae angen i brosesau a phrotocolau AD fod yn gryfach ac wedi’u gosod allan yn well.


Sylwebaeth
Gall materion Adnoddau Dynol fod yn gymhleth iawn, felly mae’n bwysig bod cyrff llywodraethu’n adolygu eu polisïau ac yn gyfarwydd â’r prosesau cywir i’w dilyn. Gallai eich Awdurdod Lleol hefyd ddarparu amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi i chi eu dilyn, yn enwedig os ydych yn aelod o unrhyw un o’r pwyllgorau statudol perthnasol, yn ogystal â darparu canllawiau penodol i’ch cynorthwyo.

Bydd gan eich corff llywodraethu’r polisïau canlynol ar waith (a restrir isod), a adolygir ganddo o bryd i’w gilydd. Mae polisïau sy’n ymwneud â staffio fel arfer yn cael eu cynhyrchu gan yr Awdurdod Lleol. Darperir dolenni i ganllawiau perthnasol hefyd:

  • Polisi absenoldeb oherwydd salwch Staff Ysgol

Mae’r senario hwn yn rhoi cyfle gwych i ofyn cwestiynau a thrafod beth sydd wedi digwydd, yn ogystal ag ystyried beth yw’r camau cywir y dylid bod wedi’u dilyn.

Er bod bylchau yn y wybodaeth a ddarperir, dyma rai pwyntiau allweddol i’w nodi:

  • Mae’n bwysig sicrhau bod pennaeth dros dro wedi’i benodi, os yw’r pennaeth parhaol yn absennol oherwydd salwch am gyfnod hir. Ai dyna a ddigwyddodd yn yr achos hwn? A oedd gan yr ysgol Ddirprwy Bennaeth a oedd yn camu i fyny neu a oedd y corff llywodraethu wedi penodi Pennaeth Dros Dro?
  • Mae’n ymddangos bod y mater ymddygiad yn ymwneud ag aelod o staff, efallai o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, felly dylai’r camau cychwynnol fod wedi cael eu cymryd gan y Pennaeth Dros Dro/Dirprwy Bennaeth, os nad oedd y mater yn ymwneud â nhw, wrth gwrs.
  • Mae’n ymddangos bod y Cadeirydd wedi chwarae rôl allweddol yn yr achos cyffredinol, nad yw’n briodol o reidrwydd. (Yn enwedig gan y cyfeirir at ddwyn ynghyd dystiolaeth a datganiadau tyst). Dylai’r rôl hon fod wedi cael ei chyflawni gan yr ymchwilydd mewnol neu allanol.
  • Cyfeirir at chwythu’r chwiban, felly pwy oedd yr unigolyn a enwebwyd i dderbyn unrhyw honiadau chwythu’r chwiban? Mae rhywfaint o amwysedd o ran pa broses y cyfeirir ati ar yr adeg hon. A oedd yr honiad chwythu’r chwiban yn ymwneud â’r aelod o staff sy’n destun y camau disgyblu?
  • A oes cysylltiad rhwng y mater ymddygiad â’r honiad chwythu’r chwiban? A ddylai’r broses ddisgyblu gael ei gohirio tra’n disgwyl yr ymchwiliad ynghylch unrhyw bryder chwythu’r chwiban?
  • A yw unrhyw un o’r pryderon o ran y mater ymddygiad neu chwythu’r chwiban yn ymwneud â honiadau diogelu?
  • A ymgynghorwyd â staff perthnasol yr Awdurdod Lleol i gael cyngor ac arweiniad?
  • A fu’r awdurdodau statudol yn gysylltiedig?
  • Cyfranogiad y cadeirydd yn yr ymarfer canfod ffeithiau a’r cyfeiriad at lywodraethwyr. Rhaid gofalu peidio â rhagfarnu llywodraethwyr trwy roi gwybodaeth iddynt a fyddai’n peryglu eu rôl bosibl mewn unrhyw wrandawiad i ddod.
  • A gynhaliwyd ymchwiliad? (o ran y mater disgyblu a chwythu’r chwiban). A gynhaliwyd y prosesau ar yr un pryd?
  • Mae proses benodol ar gyfer atal dros dro; ni all yr Awdurdod Lleol atal aelod o staff dros dro. Cyfeiriwch at Adran 10, tudalennau 56-58.

Mae’r astudiaeth achos yn nodi bod yr aelod o staff wedi cael ei ‘ddiswyddo’, ond ni chyfeirir at bwyllgor disgyblu/diswyddo staff y corff llywodraethu ac unrhyw apêl ddilynol. Mae’r rhain yn gamau allweddol yn y broses ac mae’n rhaid eu cynnal yn iawn.

Petaech yn wynebu mater disgyblu staff, mae proses benodol i’w dilyn, ac felly hefyd o ran chwythu’r chwiban. Yn anad dim, mae’n bwysig sicrhau bod llywodraethwyr wedi cael eu hyfforddi a bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth iawn i ymdopi â materion Adnoddau Dynol cymhleth.

Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar [email protected]


Myfyrdodau…
A oes gan eich corff llywodraethu’r sgiliau i ymdrin â materion ymddygiad difrifol yn ymwneud ag aelod o staff?
A oes gan eich corff llywodraethu bolisïau ar waith os bydd aelodau o’r tîm arweinyddiaeth yn absennol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708