Dod yn gorff llywodraethu ffederal

Cipolwg – Ffederasiwn


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Newidiodd ein corff llywodraethu i ddod yn gorff llywodraethu ffederal. Cymerodd amser i ddeall a mynd i’r afael â chyfuno polisïau a staff i fodel ffederal.


Beth ddigwyddodd?
Cawsom gymorth gan yr Awdurdod Lleol i flaengynllunio amserlen i adolygu polisïau. Dibynnwyd yn drwm ar ein pwyllgor polisïau i wirfoddoli amser. Roedd y rhan fwyaf o bolisïau’n gofyn am gyfraniad sylweddol gan weithwyr proffesiynol.

Cyfunwyd polisïau a sefydlwyd y corff llywodraethu newydd yn llwyddiannus dros gyfnod o ddau dymor.


Pa wersi a ddysgwyd?
Mae angen bod yn realistig ynglŷn â’r amser y mae’n ei gymryd i adolygu a newid polisïau. Mae amserlen a chynllunio da yn hanfodol.


Sylwebaeth
Mae nifer y cyrff llywodraethu ffederal yng Nghymru yn cynyddu, felly mae’n ddefnyddiol edrych ar y gofynion penodol a sut mae ‘ffederasiwn’ yn dod i fodoli yn ymarferol. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth a chyngor defnyddiol ynglŷn â’r broses i’w dilyn i sefydlu corff llywodraethu ffederal, yn ogystal ag agweddau ymarferol i’w hystyried. Dyma’r ddolen.

Yn ei hanfod, mae’r ffederasiwn o ysgolion yn eu galluogi i gydweithio mewn ffordd strwythuredig trwy rannu corff llywodraethu. Gall hyd at chwe ysgol i gyd ffurfio ffederasiwn. Mae ffederasiwn yn cynyddu gwaith partneriaeth a chydweithredu, a gall helpu i wella perfformiad cyffredinol ysgolion a disgyblion. Fel popeth arall, er mwyn i ffederasiwn fod yn wirioneddol lwyddiannus, mae’n rhaid i bawb sy’n gysylltiedig wneud ymdrech ac ymrwymo er mwyn iddo lwyddo.

Mae’n anochel y bydd hyn yn cymryd amser, o’r cynnig cychwynnol i sefydlu’r ffederasiwn ei hun, a pho fwyaf ysgolion sy’n gysylltiedig, y mwyaf amser fyth y bydd yn ei gymryd.

Mae’r astudiaeth achos yn canolbwyntio’n benodol ar adolygu polisïau a sut aeth y pwyllgor polisïau ati i ymgymryd â’r maes gwaith hwn.

Mae’n wir y gallai casglu polisïau ynghyd o sawl ysgol fod yn dipyn o orchwyl. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai sawl un o’r polisïau Adnoddau Dynol wedi bod yr un fath ym mhob un o’r ysgolion, yn enwedig os oedd yr Awdurdod Lleol wedi cynhyrchu polisïau penodol i’w haddasu gan gyrff llywodraethu ysgolion.

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru restr ddiffiniol o bolisïau statudol a ddylai fod gan gyrff llywodraethu.

Wrth symud ymlaen, mae rhestr wirio ar gyfer adolygu polisïau yn galluogi ymagwedd gynlluniedig a graddol gydag amserlenni diffiniedig, fel nad yw’r gorchwyl yn rhy lethol. Mae’r gwaith caled o adolygu a chytuno ar yr holl bolisïau ar gyfer y ffederasiwn wedi cael ei wneud bellach. Dylai fod yn haws o lawer wrth symud ymlaen.

Mae Estyn wedi cynhyrchu adroddiad thematig ar ffederasiynau effeithiol a allai fod yn ddefnyddiol os yw’ch corff llywodraethu’n ystyried ffederasiwn.


Myfyrdodau…
A fu’n rhaid i’ch corff llywodraethu gynnal adolygiad mawr o bolisïau mewn ymateb i newidiadau i statws eich ysgol neu gyfansoddiad eich corff llywodraethu?
Beth yw’r heriau sy’n gysylltiedig â dod yn gorff llywodraethu ffederal, yn eich barn chi?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708