Derbyn cau ysgol

Cipolwg – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Roedd ein pennaeth yn gweithio’n rhy galed a dan bwysau, gan wynebu’r posibilrwydd o fod yr unig athrawes yn ein hysgol fach. Roedd y llywodraethwyr eisiau ei chefnogi ond roeddent yn gwybod bod sefyllfa ein hysgol yn anghynaladwy, yn ôl pob tebyg, oherwydd bod y niferoedd yn gostwng. Roedd rhai llywodraethwyr eisiau parhau i frwydro ac aros ar agor, ond roedd eraill yn fwy realistig. Fel corff llywodraethu, bu’n rhaid i ni geisio cyngor o sawl ffynhonnell i ffurfio barn bendant am sut i fwrw ymlaen.


Beth ddigwyddodd?
Ceisiodd y corff llywodraethu gyngor gan y cyngor sir, gofynnodd am nifer o gyfarfodydd (a drefnwyd) a chyfarfu â chynrychiolwyr cymunedol i drafod y posibilrwydd o gau. Yn y diwedd, penderfynodd y corff llywodraethu gychwyn proses cau’n wirfoddol, yn erbyn dymuniadau rhai o’r llywodraethwyr. Roedd cefnogaeth pobl leol yn amhrisiadwy ac arweiniodd eu cyfraniad at gyfres o ddigwyddiadau i ddathlu bywyd yr ysgol a throi ein blwyddyn olaf yn un llawen.


Pa wersi a ddysgwyd?
Er gwaethaf y canlyniad trist, roedd y broses o gau ein hysgol yn un urddasol a chadarnhaol, felly llwyddodd ein camau gweithredu i ddatrys y mater. Y wers y gallwn ei dysgu o’r broses hon yw na fydd gwneud y penderfyniad iawn bob amser yn cyd-fynd â’r canlyniad yr ydym ni, fel llywodraethwyr, ei eisiau. Mae gwneud penderfyniadau anodd yn rhan o fod yn llywodraethwr effeithiol ac mae’n rhaid i anghenion y plant ddod yn gyntaf bob amser.


Sylwebaeth
Mae wynebu cau ysgol yn adeg anodd ac emosiynol iawn, wrth reswm. Mae’n amlwg yn yr achos hwn bod y corff llywodraethu wedi ceisio gwybodaeth a chyngor gan sawl ffynhonnell cyn gwneud penderfyniad anodd ar y ffordd orau ymlaen. Mae meddwl am y darlun ehangach ac ystyried beth sy’n hyfyw a beth sydd orau i’r disgyblion yn hollbwysig yn y tymor hir.

Yn anffodus, mae’n rhaid i lywodraethwyr wneud penderfyniadau anodd o bryd i’w gilydd, ond bydd ystyried yr holl wybodaeth a thystiolaeth mewn ffordd bwyllog a dilyn y prosesau cywir yn sicr yn helpu’r corff llywodraethu i benderfynu ar y ffordd orau o weithredu.

Mae trafodaethau manwl â llywodraethwyr yn allweddol, ac er nad oedd rhai o’r llywodraethwyr yn cytuno, derbyniodd y mwyafrif y penderfyniad. Yr hyn sy’n arbennig o galonogol yw’r ffaith y bu cau’r ysgol yn broses ‘urddasol a chadarnhaol’. Mae hynny mor bwysig.

Mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn amlinellu’r gofynion, yr egwyddorion a’r ffactorau i’w hystyried ar gyfer unrhyw gynnig trefniadaeth ysgolion.

Gyda chyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, ac ymchwilio i’r holl bosibiliadau, bydd y corff llywodraethu’n gallu ystyried unrhyw gynnig/cynigion mor wrthrychol â phosibl.


Myfyrdodau…
A ydych chi’n pryderu ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai’ch ysgol orfod cau rywbryd yn y dyfodol agos?
Pa benderfyniadau anodd y bu’n rhaid i’ch corff llywodraethu eu gwneud er mwyn y disgyblion?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708