Rheoli penderfyniadau anodd am ddileu swyddi staff

Cipolwg – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Roedd yn ymwneud yn bennaf â chyllidebau a oedd yn lleihau, gorfod wynebu toriadau a gweithredu’r toriadau hynny. Er enghraifft, roedd proses AD i’w dilyn i benderfynu pa gontractau cynorthwywyr addysgu a oedd i’w hadnewyddu/dileu. Fe benderfynon ni na fyddai oriau cynorthwywyr addysgu’r babanod yn cael eu lleihau cymaint ag oriau cynorthwywyr addysgu’r adran iau.


Beth ddigwyddodd?
Anfonwyd llythyr apêl gan gynorthwywyr addysgu’r adran iau ac ymateb gan gynorthwywyr addysgu’r babanod. Adroddwyd bod ysbryd y staff yn isel iawn. Roedd gan y corff llywodraethu resymau da dros beidio â lleihau amser cynorthwywyr addysgu’r babanod oherwydd bod gan blant ifanc lefelau angen uwch. Derbyniwyd hyn ac roedd yn ymddangos bod ysbryd y staff wedi sefydlogi, yn ôl y disgwyl, ar ôl i’r newidiadau gael eu rhoi ar waith.


Pa wersi a ddysgwyd?
Roedd ein perthynas agos a sicr â’r pennaeth blaenorol a phresennol o gymorth. Rydym yn cydnabod yr angen am ddealltwriaeth well o brosesau AD.


Sylwebaeth
Pan fydd y corff llywodraethu’n wynebu cyllideb ostyngol, mae’n rhaid iddo edrych ar feysydd lle y gall arbed arian, a hynny, gobeithio, heb orfod dechrau’r broses dileu swydd statudol. Mae’r adeg hon yn mynd i fod yn un anodd i bawb sy’n gysylltiedig, felly mae’n rhaid ei thrin mewn modd sensitif. Bydd angen i’r pennaeth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r staff am beth sy’n digwydd drwy gydol y broses.

Mae’n rhaid i unrhyw gynnig gan y corff llywodraethu i leihau oriau staff fod yn destun ymgynghoriad â’r staff dan sylw a’u cynrychiolwyr undeb llafur. Pan fydd y penderfyniad wedi cael ei wneud gan bwyllgor perthnasol y corff llywodraethu, mae gan staff yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Nodir y broses hon yng ngweithdrefn dileu swydd yr ysgol.

Mae ACAS yn cynhyrchu canllawiau ar weithdrefnau dileu swydd a gweithdrefnau teg, ond mae’n rhaid i’r corff llywodraethu ddilyn y camau a nodir yn ei bolisi ei hun yn yr ysgol. Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar [email protected].


Myfyrdodau…
A fu’n rhaid i’ch ysgol wneud unrhyw benderfyniadau anodd am ddileu swyddi staff? Sut gwnaeth yr ysgol reoli effaith y rhain?
Beth ydych chi’n ei wneud i gynnal ysbryd cadarnhaol ymhlith y staff yn ystod adeg o gyfyngiadau ariannol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708