Mynd i’r afael â phryderon a achoswyd gan absenoldeb rheolaidd athrawon

Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Bu’n rhaid i ni ymdrin ag absenoldeb rheolaidd staff a arweiniodd at gychwyn achos disgyblu/cymhwysedd. Mae’n gallu bod yn anodd cydbwyso lles staff ag anghenion y plant a’r gymuned ysgol ehangach. Mae’n gallu bod yn rhwystredig ymdrin ag AD a’r fiwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â chymhwysedd athrawon, yn enwedig pan fyddwch yn teimlo bod addysg carfanau olynol o blant yn cael ei niweidio.

Beth ddigwyddodd?
Cawsom gyngor gan yr Awdurdod Lleol ar sut i reoli’r gweithdrefnau’n effeithiol i sicrhau bod didueddrwydd yn cael ei gynnal a bod y prosesau AD iawn yn cael eu dilyn. Gwnaethom weithio gyda’r pennaeth i ganfod a chynnal strwythur staffio a rolau dros dro i ddarparu’r parhad a’r diogelwch gorau posibl i’r plant. Gwnaethom gynorthwyo’r pennaeth i fynd i’r afael â phryderon staff a rhieni, ac i reoli proses dychwelyd i waith yr aelod o staff dan sylw.

Roedd gwybodaeth llywodraethwyr a chanddynt gefndir proffesiynol ym myd addysg yn ddefnyddiol, yn enwedig o ran cyflenwi a chontractau, yn ogystal â gwybodaeth llywodraethwyr a chanddynt brofiad ym maes AD. Roedd clerc y corff llywodraethu yn allweddol hefyd wrth sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn yn ystod cyfarfodydd, ein bod ni’n aros yn ddiduedd a bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal.


Pa wersi a ddysgwyd?
Ar hyn o bryd, mae’r aelod o staff wedi dychwelyd i’r gwaith ac mae’n ymddangos ei fod wedi ymgyfarwyddo’n dda â rôl newydd. Mae’r staff, y rhieni a’r plant yn ymddangos yn hapusach.


Sylwebaeth
Gall materion Adnoddau Dynol ysgolion fod yn gymhleth iawn, felly mae’n bwysig bod cyrff llywodraethu’n adolygu eu polisïau ac yn gyfarwydd â’r prosesau cywir i’w dilyn. Gallai eich Awdurdod Lleol hefyd ddarparu amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi i chi eu dilyn, yn enwedig os ydych yn aelod o unrhyw un o’r pwyllgorau statudol perthnasol, yn ogystal â darparu canllawiau penodol i’ch cynorthwyo.

Bydd gan eich corff llywodraethu’r polisïau canlynol ar waith, sydd fel arfer yn cael eu cynhyrchu gan yr Awdurdod Lleol.

Polisi absenoldeb oherwydd salwch Staff Ysgol

Presenoldeb y Gweithlu Ysgolion

Polisi gallu staff

Polisi disgyblu staff

Bydd gan yr ysgol bolisi Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch hefyd, ac mae’n rhaid ei ddilyn pan fydd staff i ffwrdd yn sâl. Os oes cyfnodau hir o absenoldeb, gellid cychwyn y weithdrefn allu, mewn rhai amgylchiadau. Dyna a ddigwyddodd yn yr ysgol hon.

Mae mor bwysig sicrhau bod y polisi perthnasol yn cael ei dilyn yn yr ysgol, oherwydd gallai unrhyw gamgymeriadau godi amheuon ynglŷn â’r weithdrefn gyfan.

Mae’r broses allu yn cymryd amser, gan fod rhaid cynnig y cyfle i’r aelod o staff wella ac mae’n rhaid darparu cymorth. Fel arfer, defnyddir proses 3 cham sy’n cynnwys cam anffurfiol lle y rhoddir rhaglen gymorth ar waith, yna cam mwy ffurfiol lle y gellid rhoi rhybuddion, ac yna’r cam olaf, sef diswyddo.

Roedd y corff llywodraethu’n ffodus bod ganddo aelodau a chanddynt brofiad ym maes Adnoddau Dynol, ond mae’n hollbwysig cael cyngor gan yr Awdurdod Lleol mewn achosion fel hyn.

Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar [email protected]


Myfyrdodau…
A fu’n rhaid i’ch ysgol ddefnyddio gweithdrefnau disgyblu yn erbyn athro/athrawes am absenoldeb rheolaidd neu fynd i’r afael â phroblem debyg? Os felly, sut ymdriniodd yr ysgol â hyn i sicrhau canlyniad da?
Pa faterion cysylltiedig y gallai fod angen eu hystyried ac ymchwilio iddynt os yw aelod o staff i ffwrdd o’r gwaith yn aml oherwydd salwch neu am resymau eraill?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708