Honiadau dienw yn erbyn aelodau staff

Cipolwg – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Llythyr dienw gan aelod o staff, yn ôl pob tebyg, a oedd yn gwneud honiadau yn erbyn y pennaeth ac aelodau eraill o’r staff, ac yn herio’r ffordd yr oedd yr ysgol yn cael ei chynnal.


Beth ddigwyddodd?
Penderfynodd llywodraethwr a chanddo brofiad perthnasol ymchwilio. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gefnogaeth neu gymorth a gafwyd gan asiantaethau eraill.

Galwyd cyfarfod o’r holl staff lle y siaradodd y llywodraethwr â nhw ac esbonio’r sefyllfa. Gwahoddwyd unrhyw aelod o staff a oedd yn teimlo bod ganddo wybodaeth i siarad â’r llywodraethwr yn gyfrinachol.

Ni chynigiodd unrhyw aelod o staff wybodaeth. Ni chafwyd rhagor o lythyrau.


Pa wersi a ddysgwyd?
Roedd yn bwysig bod â llywodraethwr a chanddo brofiad perthnasol o ymdrin â materion o’r math hwn.


Sylwebaeth
Mae gweithdrefnau penodol i’w dilyn pan geir honiad yn erbyn aelod o staff. Bydd hyn yn dibynnu ar natur y mater, er enghraifft, a oedd yn fater ymddygiad neu ddiogelu yn y sefyllfa hon? Weithiau, mae’n anodd ymchwilio i honiad dienw, felly roedd cysylltu â’r staff yn syniad da.

Dylai’r llywodraethwr a oedd yn gyfrifol am gynnal yr ymchwiliad fod wedi cael rhywfaint o gymorth yn ystod y broses gan yr Awdurdod Lleol a Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru, os oedd y corff llywodraethu’n tanysgrifio i’r gwasanaeth hwnnw.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar weithdrefnau disgyblu a diswyddo staff ysgol yn manylu ar y broses, ond mae’n rhaid dilyn polisi a gweithdrefn yr ysgol ei hun yn y pen draw.

Roedd y corff llywodraethu hwn yn ffodus o gael rhywun â phrofiad yn y maes hwn. A ydych chi wedi cynnal archwiliad o sgiliau llywodraethwyr? Os na, efallai y bydd llywodraethwyr sydd ag arbenigedd mewn meysydd penodol y gall y corff llywodraethu eu defnyddio. Gellir defnyddio eu sgiliau penodol i gyflawni swyddogaethau’r corff llywodraethu yn effeithiol. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru dempled y gellir ei ddefnyddio.

Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar [email protected].


Myfyrdodau…
A fu’n rhaid i’ch ysgol ymdrin â honiadau yn erbyn aelodau staff?
Pa fath o sgiliau y byddech chi’n chwilio amdanynt mewn llywodraethwr i helpu i gefnogi ysgol i ymdrin â honiadau mewnol yn erbyn aelodau staff?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708