Ceisio cyngor i ymdrin â materion cymhwysedd yn ymwneud â’r pennaeth

Cipolwg – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Roedd rhaid imi ddelio gyda mater cymhwysedd yn berthynol i’r pennaeth. Roedd yn anodd darganfod llais niwtral y tu allan i’r ALl i’m cynghori.


Beth ddigwyddodd?
Defnyddiais linell gymorth Gwasanaethau Governor Cymru a bu’n werthfawr dros ben, Fe wnaethon nhw gynnig cyngor hyderus, cynnil a diduedd. Roedd y swyddog wedi fy ngrymuso.


Pa wersi a ddysgwyd?
Roedd y datrysiad yn boenus ond rhaid oedd iddo redeg ei gwrs. Roedd y gefnogaeth a roddwyd yn gymorth i ddioddef y boen.


Sylwebaeth
Mae’n rhaid bod gan bob ysgol bolisi sy’n ymdrin â gallu staff yn yr ysgol (a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol yn aml), y cytunwyd arno ac a fabwysiadwyd gan y corff llywodraethu. Nodir bod y llywodraethwr yn credu bod y broses wedi cymryd amser, ond mae’n rhaid i staff sy’n destun proses allu gael cynnig y cyfle i wella.

Fel arfer, defnyddir proses 3 cham sy’n cynnwys cam anffurfiol lle y rhoddir rhaglen gymorth ar waith, yna cam mwy ffurfiol lle y gellid rhoi rhybuddion, ac yna’r cam olaf, sef diswyddo. Mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau cenedlaethol ar ymdrin â gallu penaethiaid. Mae Cadeirydd y llywodraethwyr fel arfer yn gyfrifol am ymdrin â gallu’r pennaeth ar gam anffurfiol y broses, a bydd panel gallu’n cael ei sefydlu i ymdrin â Cham 2. Byddai’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff yn ymdrin â Cham 3 y broses.

Yr Awdurdod Lleol yw cyflogwr staff mewn ysgolion cymunedol; fodd bynnag, mae gan gyrff llywodraethu bwerau dirprwyedig i ymdrin ag ymddygiad, disgyblaeth a gallu staff. Bydd cymorth ar gael gan yr Awdurdod Lleol, ond fe allai fod adegau pan fydd barn allanol yn fuddiol i sicrhau y ceir cyngor diduedd. Mae Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru yn darparu cymorth annibynnol i gyrff llywodraethu yng Nghymru.


Myfyrdodau…
Ydy eich ysgol erioed wedi gorfod delio gyda mater cymhwysedd gyda phennaeth?
I lle fyddech chi’n troi i dderbyn cyngor diduedd, diragfarn?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708