Canlyniadau cyllidebau llai

Cipolwg – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Bob blwyddyn, mae cyllidebau wedi cael eu lleihau’n sylweddol – gan gynnwys cyllid y 6ed dosbarth. Diffyg cyllidebau tymor hwy (rhoddwyd addewid o 3 blynedd sawl blwyddyn yn ôl, ond ni wireddwyd hynny). Diffyg cysondeb o ran cyllido ar draws awdurdodau – mae’r fformiwla gyllido’n gwahaniaethu yn y siroedd. Mae’r gostyngiadau mewn cyllid o flwyddyn i flwyddyn wedi arwain at ddiffyg adnoddau; gorfod defnyddio hen offer cyfrifiadurol; llai o staff addysgu, staff cymorth ystafell ddosbarth a staff gweinyddol.

Arweiniodd y gostyngiad mewn cyllid yn genedlaethol at derfynu ffynhonnell ddefnyddiol a phwysig iawn o wybodaeth a chyngor (Llywodraethwyr Cymru) – yn ffodus, ailgychwynnwyd y gwasanaeth hwn trwy gyllid a ddarparwyd gan yr ysgolion o’u cyllidebau eu hunain. Er bod cyllid ysgolion wedi lleihau, mae’n ymddangos bod cyllid consortia rhanbarthol wedi cynyddu.


Beth ddigwyddodd?
Cyfathrebwyd â’r Awdurdod Lleol, Cyrff Llywodraethu mewn siroedd eraill, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd ymatebion gan y Weinyddiaeth Esgusodion!


Pa wersi a ddysgwyd?
Gwersi a ddysgwyd – does dim pwynt ceisio nofio yn erbyn y llanw!!


Sylwebaeth
Mae gan bob awdurdod lleol Fforwm Ysgolion a gyflwynwyd i ddatblygu deialog rhwng awdurdodau lleol a’u hysgolion ar “faterion cyllidebol, gan gynnwys lefelau cyllid ysgolion ar gyfer y flwyddyn i ddod, pwysau ar gyllidebau yn y dyfodol, newidiadau i fformiwlâu cyllido lleol, yn ogystal ag adolygu contractau/cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau i ysgolion.” Dyma’r ddolen i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar arfer gorau ar gyfer y Fforwm hwn.

Bydd y fforwm hwn yn cynnwys penaethiaid, llywodraethwyr ac aelodau nad ydynt yn gysylltiedig ag ysgolion. Ydych chi’n gwybod pwy yw’r aelodau yn eich ardal?

A oes gan eich ardal Gymdeithas Llywodraethwyr Lleol, y gallwch ei mynychu gyda llywodraethwyr i drafod materion lleol a rhannu arfer gorau? Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: http://www.governors.cymru/lleol/

Mae llawer o ysgolion yn gweithio mewn clystyrau i rannu syniadau a chydweithio ar feysydd penodol. Gallai ysgolion clwstwr rannu staff hyd yn oed, er enghraifft Rheolwr Busnes. A ydych chi wedi meddwl am unrhyw beth fel hyn? Efallai yr hoffech rannu rhai ffyrdd arloesol o weithio y mae eich ysgolion wedi’u datblygu yma gydag astudiaethau achos eraill.

Un o brif rolau’r corff llywodraethu yw gosod blaenoriaethau ariannol ar gyfer yr ysgol a monitro gwariant yn erbyn cyllideb yr ysgol. Er bod cyllid yn cael ei ddyrannu o flwyddyn i flwyddyn (yn dibynnu ar niferoedd disgyblion, yn bennaf), mae’n arfer gorau i’r corff llywodraethu a staff yr ysgol gynllunio’r gweithgareddau gwella ysgol dros gyfnod o dair blynedd. Bydd angen adolygu hyn pan fydd y gyllideb wedi cael ei chytuno ym mis Mai bob blwyddyn. Mae Pennod 8 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion yn rhoi trosolwg defnyddiol o reoli cyllideb yr ysgol.

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw ar gyllid ysgolion hefyd a allai fod yn ddefnyddiol. Mae’n cynnwys gwybodaeth am rôl y pwyllgor cyllid, cysylltu’r gyllideb â’r Cynllun Datblygu Ysgol, a chwestiynau y gallai llywodraethwyr eu gofyn wrth drafod a gwerthuso cyllid yr ysgol, yn ogystal â deunydd cyfeirio ychwanegol.


Myfyrdodau…
A yw’ch ysgol wedi dioddef effeithiau negyddol o ganlyniad i ostyngiad mewn cyllid?
Beth mae eich ysgol wedi’i wneud i liniaru effeithiau niweidiol toriadau cyllidebol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708