Diswyddo aelod o staff oherwydd anallu

Cipolwg – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Bu’n rhaid i ni ddiswyddo aelod o staff oherwydd ni allai gyflawni ei ddyletswyddau mwyach. Gweithredodd adran AD yr Awdurdod Lleol fel eiriolwr ar gyfer yr aelod o staff yn hytrach na chynghorydd i’r corff llywodraethu.


Beth ddigwyddodd?
Bu’n rhaid i ni gael cyngor annibynnol ac yna gweithio trwy’r broses yn ofalus i ddiswyddo’r aelod o staff yn y pen draw. Roedd yn broses hir ac araf iawn. Diswyddwyd yr aelod o staff yn y diwedd.


Pa wersi a ddysgwyd?
Y peth pwysig yw canolbwyntio, dilyn y broses i’r llythyren a chofio cadw’r mater yn gyfrinachol o fewn yr is-bwyllgor sy’n ymdrin â’r mater er mwyn peidio â difetha unrhyw apêl.


Sylwebaeth
Mae’n rhaid bod gan bob ysgol bolisi sy’n ymdrin â gallu staff yn yr ysgol, y cytunwyd arno ac a fabwysiadwyd gan y corff llywodraethu. Nodir bod y llywodraethwr yn credu bod y broses wedi cymryd amser, ond mae’n rhaid i staff sy’n destun proses allu gael cynnig y cyfle i wella ac mae’n rhaid darparu cymorth.

Fel arfer, defnyddir proses 3 cham sy’n cynnwys cam anffurfiol lle y rhoddir rhaglen gymorth ar waith, yna cam mwy ffurfiol lle y gellid rhoi rhybuddion, ac yna’r cam olaf, sef diswyddo. Mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau cenedlaethol ar ymdrin â gallu staff addysgu, a chanllawiau ar wahân ar gyfer ymdrin â gallu penaethiaid.

Mae gweithdrefnau gallu yn gyfrinachol i’r rhai sy’n gysylltiedig, felly roedd yn briodol i’r drafodaeth beidio â chael ei chynnal yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu llawn. Byddai hyn wedi rhagfarnu llywodraethwyr a allai fod wedi ymwneud ag unrhyw gam pellach o’r broses.

Dylai cymorth fod ar gael i’r pwyllgor disgyblu staff a gyfarfu i ddiswyddo’r aelod o staff yn dilyn y broses allu hefyd, os nad gan swyddog gwahanol o’r adran Adnoddau Dynol, yna efallai gan Gymorth Llywodraethwyr. Mae cymorth a chyngor ar gael gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru hefyd.


Myfyrdodau…
A fu’n rhaid i’ch corff llywodraethu fynd i’r afael ag achos athro/athrawes sy’n perfformio’n wael?
Beth fyddai eich pryderon mwyaf ynglŷn â diswyddo aelod o staff yr ysgol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708