Ysgol uchel ei chyflawniad y mae angen iddi ddod o hyd i incwm ychwanegol trwy secondio staff

Cipolwg – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Yr anfanteision ariannol i gyllideb yr ysgol a chymorth yn sgil bod yn ysgol uchel ei chyflawniad a chanddi PDG lleiafsymiol a nifer fach o ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol ac ati.


Beth ddigwyddodd?
Rydym bob amser yn chwilio am ffynonellau eraill o gyllid, sydd fel arfer yn golygu bod y Pennaeth neu athro/athrawes arall yn cael ei secondio i’r Awdurdod Lleol neu ysgolion eraill am gyfnod i rannu arfer gorau. Mae’n wych mewn un ffordd, ond mae angen ôl-lenwi’r rolau.


Pa wersi a ddysgwyd?
Rydym yn gwybod am ysgolion nad ydynt yn cyflawni cystal, neu sydd mewn ardaloedd o amddifadedd, sydd wedi cael cymaint o gymorth ariannol ychwanegol nad ydynt wedi gallu penderfynu beth i’w wario arno.

Mae’n ymddangos bod dirgelwch unigryw yn perthyn i’r broses pennu cyllideb yn yr Awdurdod Lleol.


Sylwebaeth
Mae’r gyllideb a ddyrennir i ysgolion unigol yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio fformiwla gyllido a bennir yn lleol ac a luniwyd gan yr Awdurdod Lleol. Mae canran fawr o’r arian a dderbynnir gan yr ysgol wedi’i seilio ar nifer y disgyblion sydd wedi’u cofrestru yn yr ysgol. Mae ffynonellau eraill o gyllid ar gael i ysgolion hefyd, er enghraifft, y Grant Datblygu Disgyblion. Bydd yr Awdurdod Lleol hefyd yn ymgynghori ar y fformiwla gyllido ar gyfer ei ardal, felly mae ysgolion unigol yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn ymateb i hynny gydag unrhyw sylwadau a phryderon.

Mae gan bob awdurdod lleol Fforwm Ysgolion a gyflwynwyd i ddatblygu deialog rhwng awdurdodau lleol a’u hysgolion ar “faterion cyllidebol, gan gynnwys lefelau cyllid ysgolion ar gyfer y flwyddyn i ddod, pwysau ar gyllidebau yn y dyfodol, newidiadau i fformiwlâu cyllido lleol, yn ogystal ag adolygu contractau/cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau i ysgolion.” Bydd y fforwm hwn yn cynnwys penaethiaid, llywodraethwyr ac aelodau nad ydynt yn gysylltiedig ag ysgolion. Os oes gan ysgolion a chyrff llywodraethu bryderon, mae hwn yn fforwm gwych i godi unrhyw fater.

Mae atebion i gwestiynau am drefniadau cyllido ysgolion ar gael yma hefyd.

Mae rhagor o wybodaeth am ysgolion a chyllid ar gael hefyd yma.

Weithiau, gofynnir i ysgolion a all aelodau staff gael eu secondio o bryd i’w gilydd, i weithio i’r Awdurdod Lleol neu Gonsortia Rhanbarthol. Mae hyn yn fuddiol mewn sawl ffordd – yn anorfod, bydd yr aelod o staff dan sylw wedi dangos ymarfer rhagorol a bydd yr Awdurdod Lleol / Consortiwm Rhanbarthol eisiau manteisio ar yr arbenigedd hwn i rannu arfer gorau gydag ysgolion ac ymarferwyr ar draws y rhanbarth.

Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd rhagorol ar gyfer datblygiad proffesiynol i’r sawl sy’n cael ei secondio ac i’r sawl sy’n camu i fyny i swydd uwch yn yr ysgol yn y cyfamser, tra bod aelod o staff ar secondiad. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r broses gyfan gael ei rheoli’n iawn, ac mae angen ymagwedd gytbwys rhwng caniatáu i staff gael eu secondio ar draul yr ysgol dan sylw, o bosibl. Mae’n debygol y bydd sawl cais mewn ysgolion sy’n cyflawni’n uchel.

Dylai fod gan ysgolion/cyrff llywodraethu bolisi secondiadau ar waith, a fydd yn eu helpu i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.

Mae’r Grant Datblygu Disgyblion (PDG) yn bolisi addysg allweddol i fynd i’r afael ag effaith amddifadedd ac anfantais ar ganlyniadau addysgol. Gan fod y grant hwn yn gysylltiedig â’r disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai sy’n derbyn gofal, bydd ysgolion yng Nghymru yn cael lefelau gwahanol o’r ffrwd gyllido hon. Mae’n ofynnol i ysgolion gyhoeddi eu dyraniad PDG ar-lein, yn ogystal ag amlinelliad o sut mae’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella canlyniadau. Dylai hyn hefyd gael ei gysylltu â nodau gwaith yn y dyfodol yn y Cynllun Datblygu Ysgol. Mae prosesau atebolrwydd ar waith i fonitro a gwerthuso effaith strategaethau. Lle y ceir tystiolaeth bod y PDG wedi cael ei wario’n amhriodol neu’n aneffeithiol, byddai’r grant yn cael ei adennill.
Grant Datblygu Disgyblion: canllawiau

Mae ystod o wybodaeth am y Grant Datblygu Disgyblion (PDG) ar gael yma.

Mae angen i gyrff llywodraethu fod yn gwerthuso ac asesu effaith y ffordd y mae’r ysgol yn gwario’r grant PDG ar berfformiad disgyblion penodol. Bydd arolygwyr Estyn yn edrych ar hyn hefyd yn rhan o’r Fframwaith Arolygu Cyffredin pan fyddant yn arolygu ysgolion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.


Myfyrdodau…
Beth yw’r pwysau ar gyllideb eich ysgol?
A fu’n rhaid i’ch ysgol ryddhau staff ar secondiad? Beth oedd goblygiadau hyn?
Ym mha ffyrdd y gellid gwella’r broses dyrannu cyllidebau ysgolion, yn eich barn chi?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708