Prinder arian a phosibilrwydd o ddileu swydd

Cipolwg – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Posibilrwydd o ddileu swydd o ganlyniad i ddiffyg cyllidebol. Yr effaith ar ysbryd y staff. Yr effaith ar addysg y plant. Yr effaith ar fodloni gofynion i godi safonau. Bodloni’r holl randdeiliaid ein bod yn ceisio darparu gwasanaeth rhagorol i bawb yn ystod cyfnod ariannol anodd. Effaith bod heb ragolwg cyllidebol y tu hwnt i un flwyddyn ar y tro.


Beth ddigwyddodd?
Gwnaethom sefydlu cynllun i reoli’r sefyllfa bosibl o ran dileu swydd mewn ymgynghoriad â staff, undebau a’r Awdurdod Lleol – Rhoddwyd cyngor ac arweiniad gan bob un o’r ‘cyfranogwyr’ hyn. Mae cyllidebau mwy a mwy o ysgolion yn y coch. Sut gallwn ni gyflawni rhagoriaeth a chwricwlwm newydd heb ddigon o adnoddau? Yn anffodus, mae’n ymddangos nad ni yw’r unig rai, gan fod ysgolion eraill yn wynebu cyfyng-gyngor tebyg.

Yn ffodus, llwyddwyd i ddatrys y mater trwy lwc dda yn hytrach na rheolaeth dda!! Roedd y ffaith bod dau aelod o staff wedi mynd ar gyfnod mamolaeth wedi ein helpu i leihau ein cyllideb staffio oherwydd roeddem yn gallu adleoli staff yn fewnol i gyflenwi ar eu cyfer. Fodd bynnag, cafodd hyn effaith ganlyniadol trwy leihau ein strategaethau ymyrryd ar gyfer cynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, a’r ffaith bod rhywfaint o gyflenwi ar gyfer amser cynllunio, paratoi ac asesu staff wedi cael ei wneud gan gynorthwywyr addysgu – nid oedd hyn yn ddelfrydol, yn enwedig gan fod ymweliad arolygu gan Estyn ar y gweill!

Roedd ailstrwythuro dyletswyddau cynorthwywyr addysgu a’u parodrwydd i leihau eu horiau’n wirfoddol wedi helpu i leihau ein costau staffio hefyd. Roedd rhywfaint o incwm ychwanegol yr oedd mawr angen amdano gan yr Awdurdod Lleol wedi helpu hefyd.

Felly, yn ariannol, fe wnaethom ni lwyddo i aros yn y du, ond mae’r ‘niwed’ cyfochrog o ran cynorthwyo plant, ysbryd staff a lles yn parhau i fod yn feysydd pryder.


Pa wersi a ddysgwyd?
Efallai y byddai mwy o gyfleoedd i rannu datrysiadau posibl gydag eraill mewn sefyllfa debyg wedi bod yn ddefnyddiol – wedi dweud hynny, roedd amser yn brin oherwydd bu’n rhaid i ni weithio’n gyflym i ddatrys ein hanawsterau ac roedd amserlen gaeth i’w dilyn i gydymffurfio â’r gyfraith cyflogaeth!


Sylwebaeth
Mae gan bob awdurdod lleol Fforwm Ysgolion a gyflwynwyd i ddatblygu deialog rhwng awdurdodau lleol a’u hysgolion ar “faterion cyllidebol, gan gynnwys lefelau cyllid ysgolion ar gyfer y flwyddyn i ddod, pwysau ar gyllidebau yn y dyfodol, newidiadau i fformiwlâu cyllido lleol, yn ogystal ag adolygu contractau/cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau i ysgolion.” Ydych chi’n gwybod pwy yw’r aelodau yn eich ardal? Dyma’r ddolen i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar arfer gorau ar gyfer y Fforwm hwn.

Mae’r fforwm hwn yn cynnwys penaethiaid, llywodraethwyr ac aelodau nad ydynt yn gysylltiedig ag ysgolion.

A oes gan eich ardal Gymdeithas Llywodraethwyr Lleol, y gallwch ei mynychu gyda llywodraethwyr i drafod materion lleol a rhannu arfer gorau? Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Mae llawer o ysgolion yn gweithio mewn clystyrau i rannu syniadau a chydweithio ar feysydd penodol. Gallai ysgolion clwstwr rannu staff hyd yn oed, er enghraifft Rheolwr Busnes. A ydych chi wedi meddwl am unrhyw beth fel hyn? Efallai yr hoffech rannu rhai ffyrdd arloesol o weithio y mae eich ysgolion wedi’u datblygu mewn astudiaethau achos eraill.

Un o brif rolau’r corff llywodraethu yw gosod blaenoriaethau ariannol ar gyfer yr ysgol a monitro gwariant yn erbyn cyllideb yr ysgol. Y pennawd cyllidebol mwyaf yn yr ysgol, yn anorfod, fydd staffio. Mae Pennod 8 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion yn rhoi trosolwg defnyddiol o reoli cyllideb yr ysgol.

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw ar gyllid ysgolion hefyd a allai fod yn ddefnyddiol. Mae’n cynnwys gwybodaeth am rôl y pwyllgor cyllid, cysylltu’r gyllideb â’r Cynllun Datblygu Ysgol, a chwestiynau y gallai llywodraethwyr eu gofyn wrth drafod a gwerthuso cyllid yr ysgol, yn ogystal â deunydd cyfeirio ychwanegol.

Yn anffodus, mae’n rhaid i lawer o ysgolion wynebu sefyllfaoedd lle mae swyddi staff yn cael eu dileu, a bydd ganddynt bolisi i’w ddilyn ar gyfer hyn. Mae’n bwysig ystyried yr holl opsiynau eraill cyn dilyn y llwybr hwn. Bydd eich Awdurdod Lleol yn gallu eich cynghori ar y prosesau i’w dilyn hefyd. Mae cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol ar gael. Dyma rai enghreifft.

Mae ACAS yn cynhyrchu canllawiau ar weithdrefnau dileu swydd a gweithdrefnau teg, ond mae’n rhaid i’r corff llywodraethu ddilyn y camau a nodir yn ei bolisi ei hun yn yr ysgol.


Myfyrdodau…
Sut mae prinder arian wedi effeithio ar eich ysgol?
Sut byddai eich corff llywodraethu yn mynd ati i werthuso effeithiau posibl dileu swydd?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708