Penodi athro pwnc/athrawes bwnc arbenigol sy’n llai na boddhaol

Trafodaeth – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Roedd angen i ni recriwtio athro pwnc/athrawes bwnc ac roeddem wedi hysbysebu teirgwaith. Cawsom un ymgeisydd a oedd ychydig islaw’r safon a ddisgwyliwyd gennym yn dilyn y cyfweliad. Y cyfyng-gyngor a oedd yn ein hwynebu oedd p’un ai penodi’r athro/athrawes a gosod athro/athrawes nad oedd yn ddigon da o flaen dosbarthiadau NEU beidio â’i benodi/phenodi a gosod athro/athrawes nad oedd yn arbenigwr ar y pwnc o flaen dosbarthiadau.


Beth ddigwyddodd?
Gwnaethom benodi’r athro/athrawes a’i osod/gosod dan oruchwyliaeth fanwl y pennaeth pwnc. Nid oedd hyn yn ddelfrydol oherwydd ei fod yn rhoi mwy fyth o straen ar y pennaeth pwnc.


Pa wersi a ddysgwyd?
Mae pethau’n mynd yn dda, hyd yn hyn. Nid yw recriwtio athrawon byth yn hawdd!


Sylwebaeth
Roedd yr ysgol mewn sefyllfa anodd, a hithau wedi mynd trwy’r broses benodi sawl gwaith. Fel arfer, byddai’r panel penodi’n penodi’r ymgeisydd gorau i’r rôl, ac roedd yr ysgol wedi mentro ar siawns i benodi rhywun nad oedd yn llwyr fodloni’r safon angenrheidiol, er y bu’n werth chweil yn yr ysgol hon. Fodd bynnag, peidiwch byth â theimlo pwysau i benodi. Mae’n rhaid iddo fod yn iawn ac mae’n sicr yn werth ystyried opsiynau eraill sydd ar gael trwy drafod â’r Awdurdod Lleol, y Consortiwm Rhanbarthol a’r Awdurdod Esgobaethol, fel rhannu athro/athrawes ag ysgolion eraill, cyfleoedd secondio ac ati.

Mae’n bwysig sicrhau bod cymorth ar gael i unrhyw aelod newydd o staff. Gallai hyn fod yn gyfnod sefydlu anffurfiol neu’n becyn mwy cynhwysfawr wedi’i seilio ar lefelau profiad ac ati.

Weithiau, mae athrawon yn gwneud yn well o flaen dosbarth nag yn ystod y broses benodi, felly dylai paneli penodi gadw meddwl agored. A arsylwyd ar wersi yn rhan o’r broses gyfweld?

Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar [email protected]


Myfyrdodau…
A fu’n rhaid i’ch ysgol benodi athrawon a oedd yn llai na boddhaol? Os felly, beth wnaethoch chi i sicrhau bod y disgyblion yn cael eu haddysgu’n dda?
Pa heriau mae eich ysgol wedi’u hwynebu wrth geisio recriwtio athrawon newydd?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708