Sefydlu polisïau iechyd a diogelwch cywir

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Roedd gan yr ysgol bryderon ynghylch maint neuadd yr ysgol a gwacáu mewn argyfwng, y niferoedd a ganiateir ar gyfer ffair yr ysgol a rheolaethau ynghylch niferoedd diogel o blant ac oedolion mewn man penodol, a hefyd p’un a oedd cynllun ymadael clir ar waith. Roedd yn syndod nad oedd y pethau hyn wedi’u datgan yn glir.

Beth ddigwyddodd?
Daeth y Gwasanaeth Tân ac Achub i’r ysgol ond roeddem yn credu bod eu cyngor yn amwys. Yn y diwedd, fe ddaethon ni o hyd i ganllawiau trwy chwilio ar-lein ac fe geision ni reoli mynediad trwy gyfrif i mewn ac allan.


Pa wersi a ddysgwyd?
Roedd yn ddefnyddiol gwrando ar gyngor gan ystod o asiantaethau, y Gwasanaeth Tân ac Achub, y tîm cyfreithiol yn yr Awdurdod Lleol ac arbenigwyr eraill. Roedd ein hymchwiliadau ein hunain yn bwysig hefyd wrth gyrraedd datrysiad, ond rydym yn parhau i gredu bod amwysedd yn bodoli sy’n achosi annifyrrwch.


Sylwebaeth
Mae’r ysgol a’r corff llywodraethu yn berffaith iawn i wirio ac adolygu’r cynlluniau gwacáu mewn argyfwng. Mae hyn yn hollbwysig i ddiogelwch pawb yn yr ysgol.

Yr Awdurdod Lleol (ALl) sy’n berchen ar adeiladau a thir ysgolion cymunedol. Y corff llywodraethu neu’r ymddiriedolwyr sy’n berchen ar dir ysgolion sefydledig. O ran ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, yr ymddiriedolwyr sy’n berchen ar adeiladau a thir yr ysgol fel arfer, er efallai mai’r Awdurdod Lleol fydd yn berchen ar dir y maes chwarae. Mae Pennod 25 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion yn cynnwys pennod ddefnyddiol ar Iechyd a Diogelwch sy’n amlygu’r cyfrifoldebau ar gyfer y gwahanol gategorïau ysgolion.

Tybir yn yr achos hwn mai ysgol gymunedol yw’r ysgol dan sylw.

Bydd gan yr ysgol bolisi iechyd a diogelwch a nodir ei bod wedi ceisio cyngor gan sawl asiantaeth allweddol hefyd. Yn ddi-au, byddai asesiadau risg wedi cael eu cynnal a disgwylir y byddai’r Awdurdod Lleol wedi bod yn allweddol wrth gynorthwyo’r ysgol i benderfynu ar y ffordd briodol ymlaen.

Mae llawer o gyrff llywodraethu’n penodi llywodraethwr cyswllt ar gyfer iechyd a diogelwch, yn ogystal â ffurfio pwyllgor safle, iechyd a diogelwch. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru wybodaeth am y rhain:

Rôl llywodraethwr cyswllt

Pwyllgor Safle, Iechyd a Diogelwch

O ystyried cymhlethdod iechyd a diogelwch, mae’n hanfodol bod yr ysgol a’r corff llywodraethu’n ceisio cyngor gan yr arbenigwyr, felly cysylltwch â’r swyddogion perthnasol yn yr Awdurdod Lleol a fydd yn gallu eich cynghori yn y lle cyntaf. A yw’r corff llywodraethu wedi llofnodi Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw gyda’r Awdurdod Lleol? Pa mor aml mae archwiliadau iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal? A oes swyddog iechyd a diogelwch dynodedig ar gyfer yr ysgol?

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch lawer o wybodaeth ddefnyddiol hefyd:

https://www.gov.uk/government/publications/health-and-safety-advice-for-schools/responsibilities-and-duties-for-schools

https://www.gov.uk/government/publications/fire-safety-in-new-and-existing-school-buildings/fire-safety-in-new-and-existing-school-buildings

Mae’r astudiaethau achos yn dangos bod rhywfaint o amwysedd yn codi o’r drafodaeth o hyd. Mae’n hanfodol, felly, bod llwybr gweithredu clir yn cael ei gytuno gyda’r rhanddeiliaid allweddol cyn gynted â phosibl. Mae’n bwysig iawn cadw trywydd papur fel sylfaen dystiolaeth hefyd.


Myfyrdodau…
A oes gan eich ysgol bolisi diogelwch clir ynglŷn â gwacáu safleoedd yr ysgol mewn achos o dân a pherygl?
Pa asiantaethau fyddech chi’n ceisio cyngor ganddynt ynglŷn â mater iechyd a diogelwch penodol sy’n effeithio ar eich ysgol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708