Mynd i’r afael â materion iechyd a diogelwch yn ymwneud ag adeilad yr ysgol

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Yn yr ysgol gynradd, gofynnwyd i mi ymdrin â mater iechyd a diogelwch oherwydd fy nghefndir a’m rôl fel cynghorydd Awdurdod Lleol. Mae problemau â gwaith brics yr adeilad ac mae sgaffaldiau wedi cael eu gosod ar ardal fawr o’r ysgol. Mae hyn yn achosi rhai problemau mynediad, mae’n atal defnyddio rhan o’r iard chwarae ac mae rhwystrau wedi cael eu gosod y tu allan i’r ysgol i’w hamddiffyn. Mae hyn wedi achosi problemau o ran diogelwch y rhwystrau hynny a pharcio yn yr ysgol.


Beth ddigwyddodd?
Rwyf wedi cysylltu â’r Awdurdod Lleol fwy nag unwaith i gael eglurhad ynglŷn â’r cynllun i amlygu’r gwaith sy’n ofynnol a’r amserlen ar gyfer ei wneud, a sut i ddatrys y problemau o ran lle a diogelwch yr iard chwarae tra bod y sgaffaldiau yno. Rwyf hefyd wedi gofyn ddwywaith i’r rhwystrau ar y ffordd gael eu diogelu a chael eu halinio mewn modd a fydd yn atal parcio yn yr ardal honno.


Pa wersi a ddysgwyd?
Nid yw’r materion wedi cael eu datrys eto ac mae’n cymryd amser i gael atebion gan yr Awdurdod Lleol. Mae hyn wedi dangos i mi fod angen gofyn cwestiynau a mynd i’r afael â phroblemau yn gynt yn hytrach na’n hwyrach os oes agen cymorth yr Awdurdod Lleol.


Sylwebaeth
Yr Awdurdod Lleol (ALl) sy’n berchen ar adeiladau a thir ysgolion cymunedol. Y corff llywodraethu neu’r ymddiriedolwyr sy’n berchen ar dir ysgolion sefydledig. O ran ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, yr ymddiriedolwyr sy’n berchen ar adeiladau a thir yr ysgol fel arfer, er efallai mai’r Awdurdod Lleol fydd yn berchen ar dir y maes chwarae. Tybir yn yr achos hwn mai ysgol gymunedol yw’r ysgol dan sylw. Fodd bynnag, darperir y cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw dydd i ddydd trwy gyllideb ddirprwyedig yr ysgol. Mae’r Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion yn cynnwys pennod (25) ddefnyddiol ar Iechyd a Diogelwch sy’n amlygu’r cyfrifoldebau ar gyfer y gwahanol gategorïau ysgolion.

Bydd gan yr ysgol bolisi iechyd a diogelwch ar waith a nodir ei bod wedi ceisio cyngor gan sawl asiantaeth allweddol hefyd. Yn ddi-au, byddai asesiadau risg wedi cael eu cynnal a disgwylir y byddai’r Awdurdod Lleol wedi bod yn allweddol wrth gynorthwyo’r ysgol i benderfynu ar y ffordd briodol ymlaen.

Mae llawer o gyrff llywodraethu’n penodi llywodraethwr cyswllt ar gyfer iechyd a diogelwch, yn ogystal â ffurfio pwyllgor safle, iechyd a diogelwch. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru wybodaeth am y rhain:

Rôl llywodraethwr cyswllt Iechyd a Diogelwch

Pwyllgor Safle, Iechyd a Diogelwch

O ystyried cymhlethdod iechyd a diogelwch, mae’n hanfodol bod yr ysgol a’r corff llywodraethu’n ceisio cyngor gan yr arbenigwyr, felly cysylltwch â’r swyddogion perthnasol yn yr Awdurdod Lleol a fydd yn gallu eich cynghori yn y lle cyntaf. A yw’r corff llywodraethu wedi llofnodi Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw gyda’r Awdurdod Lleol? Mae’n hollbwysig bod y materion yn cael eu cywiro er mwyn iechyd a diogelwch disgyblion a staff ar safle’r ysgol.

Rhai cwestiynau i’w gofyn:

  • Pa mor aml mae archwiliadau iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal?
  • A oes swyddog iechyd a diogelwch dynodedig ar gyfer yr ysgol?

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch lawer o wybodaeth ddefnyddiol hefyd.


Myfyrdodau…
A yw’ch ysgol wedi wynebu unrhyw faterion yn ymwneud â’r adeilad sy’n codi pryderon iechyd a diogelwch hefyd? Beth wnaethoch chi i fynd i’r afael â’r rhain?
Ydych chi’n gwybod pa lywodraethwyr sydd â’r sgiliau i ymgymryd â chyfrifoldebau am waith adeiladu a materion iechyd a diogelwch cysylltiedig?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708