Penodi pennaeth newydd heb frys

Trafodaeth


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?


Beth ddigwyddodd?


Pa wersi a ddysgwyd?


Sylwebaeth
Penodi pennaeth newydd yw tasg bwysicaf y corff llywodraethu, yn ôl pob tebyg. Er bod penodiadau o’r fath yn eithaf anfynych, mae angen i gyrff llywodraethu roi ystyriaeth ofalus i’r broses.

Pan fydd y pennaeth presennol wedi mynegi ei fwriad i adael yr ysgol a bod llythyr ymddiswyddo wedi cael ei dderbyn, bydd angen i’r corff llywodraethu gyfarfod i drafod y camau nesaf. Mae’r broses o benodi pennaeth yn cymryd amser, ac mae’n rhaid i’r corff llywodraethu ystyried anghenion yr ysgol wrth symud ymlaen. Mae sgiliau’r pennaeth yn arbennig o bwysig wrth sicrhau llwyddiant a gwelliant yr ysgol. Y penaethiaid gorau yw’r rhai sy’n sbarduno’r ysgol i symud ymlaen a sicrhau ymrwymiad cryf i safonau uchel ym mhob agwedd ar waith yr ysgol. O ystyried hyn, bydd y corff llywodraethu eisiau denu’r ymgeiswyr iawn i’w cyfweld. Byddai’n ddoeth adolygu Amrediad Ysgol Unigol y pennaeth, gan ystyried maint ac amgylchiadau’r ysgol. Mae gwybodaeth am hyn ar gael yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).

Drwy gydol y broses benodi, bydd y corff llywodraethu’n cael cyngor gan yr Awdurdod Lleol / Consortiwm Rhanbarthol, fel y digwyddodd yn yr achos hwn. Mae’n rhaid i lywodraethwyr ystyried y cyngor a gynigir, a byddai’n ddoeth cael consensws ynglŷn ag addasrwydd penodiad, o fewn y corff llywodraethu a rhwng y corff llywodraethu a’r Awdurdod Lleol, er mai penderfyniad y corff llywodraethu llawn ydyw yn y pen draw.

Er ei bod yn bwysig i’r corff llywodraethu benodi’r ymgeisydd iawn, fel bod pennaeth parhaol yn y swydd, efallai na fydd angen brys i gael rhywun yn y swydd erbyn y tymor nesaf, a hynny am sawl rheswm e.e. adolygiad o’r strwythur staffio sydd ar waith ar hyn o bryd, ystyried cynigion trefniadaeth ysgolion, cyngor penodol gan yr Awdurdod Lleol / Awdurdod Esgobaethol. Efallai bod rhywun addas y gellir ei benodi’n bennaeth dros dro yn y cyfamser (gallai fod yn rhywun yn yr ysgol neu’n rhywun allanol). Yn yr achos hwn, penododd y corff llywodraethu y dirprwy bennaeth presennol i gamu i fyny. Mae hyn yn ffordd dda i’r unigolyn hwnnw gael profiad o rôl pennaeth ar gyfer ei ddatblygiad yn y dyfodol. Nid oes angen i benaethiaid dros dro feddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP), ond mae hynny’n ofyniad ar gyfer penaethiaid parhaol.

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw cynhwysfawr ar y broses o benodi pennaeth (a dirprwy bennaeth).


Myfyrdodau…


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708