Gofynion rôl llywodraethwr

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Nid wyf yn credu bod y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn ymwybodol o ystod lawn eu cyfrifoldebau ac, a bod yn onest, nid wyf yn credu eu bod yn cyflawni llawer o’r cyfrifoldebau hynny.

O’m safbwynt i fel Cadeirydd (ac mae’r rhan fwyaf o Gadeiryddion yn cyflawni’r swydd nid oherwydd eu bod nhw’n arbennig o awyddus i wneud hynny ond oherwydd nhw yw’r unig rai na wrthododd pan ofynnwyd iddynt), mae’n eithaf brawychus faint y disgwyliwn i ni ei wybod a’i wneud. Yr unig reswm nad ydym ni’n cael ein dal am beidio â’i wybod neu ei wneud yw oherwydd nad oes neb yn gwirio ac os nad yw digwyddiadau’n amlygu unrhyw ddiffygion.


Beth ddigwyddodd?
Rydym ni’n cynnal ymarfer hunanwerthuso wedi’i seilio ar fframwaith a luniwyd gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru, ac mae’n fythol ddatgelu pethau y dylem ni fod yn eu gwneud neu wedi’u gwneud neu y dylem ni eu gwneud yn y dyfodol, nad ydym ni’n eu gwneud neu nad ydym ni’n eu gwneud cystal ag y dylem.


Pa wersi a ddysgwyd?
Hoffwn weld enghreifftiau o sut gall yr holl waith llywodraethu gael ei reoli mewn ffordd strwythuredig sy’n cael ei monitro’n iawn: efallai rhyw fath o raglen sy’n cynnwys yr holl gyfrifoldebau ac sy’n rhoi rhybudd pan fydd angen mynd i’r afael â nhw.


Sylwebaeth
Mae rôl llywodraethwr yn heriol ac yn gofyn llawer, ond mae’n werth chweil hefyd. Peidiwch ag anghofio hynny, ni waeth pa mor anodd y gall fod ar adegau! Does dim dwywaith bod yr hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr yn gam i’r cyfeiriad iawn i hysbysu llywodraethwyr am y rôl, ond mae hyfforddiant parhaus yn hanfodol i gynnal a datblygu gwybodaeth ac arbenigedd o ran cyfrifoldebau craidd llywodraethwyr.

Mae’n hanfodol bod arweinyddiaeth yn cael ei dosbarthu o fewn corff llywodraethu. Ni all cyrff llywodraethu wneud popeth, felly’r ffordd orau ymlaen yn aml yw ystyried sgiliau llywodraethwyr a’u defnyddio yn unol â hynny. Mae rhannu’r llwyth gwaith a gweithio yn unol â chryfderau llywodraethwyr yn fuddiol iawn – mae’n hyrwyddo perchenogaeth a gwaith partneriaeth effeithiol. Felly, os nad ydych eisoes wedi archwilio sgiliau’r corff llywodraethu, beth am edrych.

Dyma rai pethau i fyfyrio arnynt:

  • A yw’r corff llywodraethu wedi adolygu ei strwythur pwyllgorau – a yw’n effeithiol, sut gellid ei wella?
  • A oes gan eich corff llywodraethu lywodraethwyr cyswllt – pa mor effeithiol ydynt, a ddylai’r corff llywodraethu geisio gwneud pethau’n wahanol? – A yw’ch corff llywodraethu wedi sefydlu gweithgorau i gwblhau maes gwaith?
  • A yw’ch corff llywodraethu’n defnyddio pobl nad ydynt yn llywodraethwyr a chanddynt arbenigedd penodol i’w gynorthwyo?

Mae hunanadolygiad yn ffordd wych i gorff llywodraethu ystyried ei waith i weld a oes ganddo bopeth ar waith.

Gallai’r templed hunanwerthuso ymddangos yn feichus ar yr olwg gyntaf, ond gallwch fynd i’r afael ag ef mewn camau bach i ddechrau, i gael syniad o’ch sefyllfa fel corff llywodraethu. Rydym ni i gyd eisiau gwella’r hyn rydym ni’n ei wneud, felly mae neilltuo peth amser i fyfyrio yn ffordd wych o ddechrau ac yn gallu bod yn therapiwtig!

Nid yw rôl y Cadeirydd yn un hawdd. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw i gynorthwyo Cadeiryddion â’u gwaith.

Os ydych chi’n gadeirydd newydd, fe allai fod yn ddefnyddiol cael mentor-gadeirydd neu gyfarfod o bryd i’w gilydd â Chadeiryddion llywodraethwyr eraill yng ngrŵp clwstwr eich ysgol neu Grŵp Gwella Llywodraethwyr.

Mae yna feysydd gwaith penodol y mae angen i’r corff llywodraethu eu cwblhau bob blwyddyn. A oes gan eich corff llywodraethu amserlen waith y gellir ei haddasu i anghenion eich ysgol?

Gallech ddymuno edrych ar Ran 2 y llawlyfr llywodraethwyr sy’n darparu gwybodaeth am ddirprwyo cyfrifoldebau a chynllunydd amserlen waith. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru rai enghreifftiau hyfryd o sut mae cyrff llywodraethu’n gweithio a allai fod o gymorth.

Mae gan Estyn lawer o enghreifftiau gwych o ymarfer effeithiol gan lywodraethwyr hefyd – dyma rai enghreifftiau:
Cynorthwyo llywodraethwyr i gyflawni eu rôl yn fwy effeithiol


Myfyrdodau…
Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n eu rhoi i gyd-lywodraethwyr ynglŷn â rheoli’r llwyth gwaith?
A yw gofynion y rôl yn achosi tensiwn yn eich corff llywodraethu? Beth allech chi ei wneud i fynd i’r afael â hyn?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708