Heriau recriwtio uwch aelodau staff

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Weithiau, ychydig iawn o ymgeiswyr a geir ar gyfer swyddi uwch e.e. dirprwy bennaeth. Pam, felly? A ystyrir bod swyddi uwch yn llawn straen, neu fod y cyflog yn rhy isel? Mae hynny’n gwneud pethau’n anodd pan fydd carfan fach iawn i ddewis o’i phlith.


Beth ddigwyddodd?
Doedd gennym ni ddim dewis ond cyfweld nifer fach iawn o ymgeiswyr ar y rhestr fer. Roedd y cynghorydd lleol yn gymwynasgar iawn ac wedi’n cynorthwyo drwy’r broses. Roedd y pennaeth yn wych hefyd drwy ymweld ag ysgolion yr ymgeiswyr, eu gwylio wrth eu gwaith a rhoi gwybodaeth lawn i ni. Yn y diwedd, fe gawson ni ymgeisydd rhagorol ac fe’i penodwyd.


Pa wersi a ddysgwyd?
Efallai y gallai’r terfynau amser a’r graddfeydd amser ar gyfer cyfweliadau o’r math hwn gael eu llacio rhywfaint i ganiatáu i ysgol sicrhau bod ganddi ddewis eang o ymgeiswyr.


Sylwebaeth
Weithiau, mae’n anodd recriwtio i swydd uwch arweinydd, yn enwedig pennaeth. Gall nifer y ceisiadau ar gyfer y swyddi hyn fod yn isel iawn mewn rhai achosion. Bydd Cynghorydd Herio’r ysgol neu swyddogion perthnasol yr Awdurdod Lleol yn allweddol wrth gynorthwyo llywodraethwyr â’r broses recriwtio.

Mae graddfeydd amser yn berthnasol i’r broses benodi o ganlyniad i derfynau amser ymddiswyddo ar gyfer staff yn eu hysgolion presennol, os gwnaethant lwyddo i gael swydd mewn ysgol arall. Rhoddir gwybodaeth am hyn yn Y Llyfr Bwrgwyn.

Mae angen i benaethiaid roi’r rhybudd canlynol:
30 Medi i derfynu contract ar 31 Rhagfyr
31 Ionawr i derfynu contract erbyn 30 Ebrill
30 Ebrill i derfynu contract erbyn 31 Awst

Mae angen i bob athro/athrawes arall roi’r rhybudd canlynol:
31 Hydref i derfynu contract ar 31 Rhagfyr
28 Chwefror i derfynu contract erbyn 30 Ebrill
31 Mai i derfynu contract erbyn 31 Awst

Pe na byddai’r graddfeydd amser hyn yn cael eu dilyn, gallai’r ysgol wynebu cyfnod hwy heb yr uwch aelod o staff. Fodd bynnag, y corff llywodraethu sy’n penderfynu ar y graddfeydd amser ar gyfer y broses benodi. Wedi dweud hynny, weithiau gall cyfnodau gadael staff gael eu trafod gyda chorff llywodraethu eu hysgolion unigol.

Mae ysgrifennu’r hysbyseb a manyleb y swydd ar gyfer y rôl yn hollbwysig i ddenu ymgeiswyr da, yn ogystal â pharatoi’r pecyn cais a ddylai gynnwys gwybodaeth gyd-destunol am yr ysgol a’i gweledigaeth.

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw ar benodi penaethiaid a dirprwy benaethiaid sy’n cynnwys gwybodaeth am yr hysbyseb, manyleb y swydd a’r pecyn cais.


Myfyrdodau…
A yw’ch ysgol wedi wynebu problemau wrth recriwtio uwch aelodau staff?
Pa bethau allai helpu i wella’r broses recriwtio ar gyfer uwch aelodau staff, yn eich barn chi?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708