Rhiant yn bygwth rhiant arall ar safle’r ysgol

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Roedd rhiant wedi bygwth rhiant arall ar lafar ar dir yr ysgol ar ddiwedd y dydd. Honnodd fod bwlio’n digwydd rhwng plant y ddau. Roedd y bygythiadau’n ymosodol.


Beth ddigwyddodd?
Ymchwiliodd yr ysgol i honiad y rhiant o fwlio ac nid oedd yn cefnogi’r honiadau. Ceisiodd yr ysgol gyngor yr Awdurdod Lleol ynglŷn ag ymddygiad y rhiant. Trafodwyd y mater rhwng y Pennaeth a’r Cadeirydd. Anfonwyd llythyr at y rhiant a fygythiwyd yn esbonio’r camau a gymerwyd. Gosodwyd poster yn yr ysgol ynglŷn ag ymddygiad parchus ac anfonwyd llythyr at yr holl rieni. Roedd polisi’r Awdurdod Lleol yn amlinellu’r camau i’w cymryd.

Roedd y rhiant a fygythiwyd yn anfodlon nad oedd llythyr personol wedi cael ei anfon yn uniongyrchol at y rhiant arall. Agorodd achos heddlu annibynnol ynglŷn â’r bygythiadau.


Pa wersi a ddysgwyd?
Nid wyf yn gwybod beth a drafodwyd rhwng y Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr. Ond rwyf yn gwybod nad yw derbyn bygythiadau yn fater dibwys.


Sylwebaeth
Mae digwyddiadau o’r math hwn yn annerbyniol ar dir yr ysgol. Mae angen i bobl barchu ei gilydd, hyd yn oed os nad ydynt yn cytuno, gan drafod unrhyw bryder(on) mewn ffordd gall a rhesymol. Mae’n bwysig ymdrin â’r sefyllfaoedd hyn yn dda. Roedd yr ysgol yn iawn i geisio cyngor gan yr Awdurdod Lleol, ac mae’n ymddangos ei bod wedi dilyn y camau a amlinellir ym mholisi’r ysgol. Gwiriwch bolisi eich ysgol os bydd rhywbeth yn digwydd.

Mae gosod posteri yn yr ysgol sy’n rhoi enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol na fydd yn cael ei oddef, ac atgoffa am ymddygiad da mewn cylchlythyrau, yn ffyrdd defnyddiol o atgyfnerthu disgwyliadau’r ysgol.

Ymchwiliodd yr ysgol i’r honiad ynghylch bwlio hefyd, ond canfu nad oedd achos i’w ateb. A gychwynnwyd polisi cwynion yr ysgol? Dylai’r ysgol fod â pholisïau dynodedig ar waith hefyd. Dyma rywfaint o wybodaeth ychwanegol:

Gweithdrefnau cwyno ysgolion: canllawiau

Hawliau, parch, cydraddoldeb: canllawiau ar gyfer ysgolion

Byddai wedi bod yn synhwyrol, felly, i anfon llythyr at y rhiant a oedd wedi ymddwyn yn amhriodol (nid dim ond at y rhiant a fygythiwyd), yn amlinellu bod ymddygiad o’r fath yn yr ysgol yn fater difrifol iawn ac na ddylai ddigwydd eto, gan nodi pa gamau fyddai’n cael eu cymryd. Gallai hyn fod wedi helpu i liniaru’r sefyllfa gyffredinol â’r ‘rhiant a fygythiwyd’.

Gall ysgolion wahardd rhieni trafferthus ac ymosodol o’r ysgol am gyfnod. Mae paragraff 71, pennod 25 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am hyn.

Yn y pen draw, mae angen i ysgolion fod â pholisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw fater sy’n codi’n gyflym.


Myfyrdodau…
A fu’n rhaid i’ch ysgol ymdrin â thensiwn rhwng rhieni?
Beth yw polisi eich ysgol ar gyfer ymdrin ag ymddygiad a allai fod yn droseddol a gyflawnir gan rieni ar safle’r ysgol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708