Herio arweinyddiaeth a diwylliant yr ysgol mewn adroddiadau arolygu ysgolion

Trafodaeth – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Mae arweinyddiaeth, ethos a diwylliant yr ysgol wedi’i gwestiynu yn dilyn arolwg gan Estyn ac adroddiad annibynnol. Mae sawl stori wedi ymddangos yn y wasg a ffurfiwyd gweithgor i geisio datrys rhai problemau er mwyn gwella’r sefyllfa.


Beth ddigwyddodd?
Ar y dechrau roedd y gweithgor yn cyfarfod yn wythnosol gan gynhyrchu cynllun manwl. Rhoddwyd cyfrifoldebau penodol i aelodau neilltuol o’r staff a gofynnwyd am adroddiadau cynnydd yn rheolaidd. Yna cynhaliwyd y cyfarfodydd bob mis ac efallai iddyn nhw golli momentwm a ffocws. Roedd yn sefyllfa anodd i fod ynddi yn enwedi gan for y Tîm Uwch Reoli yn amddiffynol ac yn amharod i gael eu herio.

Gweithiodd yr awdurdod addysg lleol yn agos gyda’r ysgol a’r llywodraethwyr ar y cychwyn a ffurfiwyd gweithgor. Yn anffodus dim ond am yr ychydig gyfarfodydd cyntaf y darparwyd y gefnogaeth a dydw i ddim yn credu bod y broblem wedi ei thrafod yn effeithiol nac yn llwyddiannus.


Pa wersi a ddysgwyd?
Dydw i ddim yn credu bod hyn wedi bod yn llwyddiannus – ni chafodd nifer o bwyntiau neu dargedau eu hateb a phrin oedd yr atebolrwydd os o gwbl.


Sylwebaeth
O’r wybodaeth a ddarparwyd, mae’n amlwg bod yr ysgol wedi cael adroddiad arolygu anffafriol. Mae erthyglau wedi ymddangos yn y wasg wedi hynny, na fyddai wedi helpu’r sefyllfa ac a allai fod wedi cyfrannu at y sylwadau negyddol a’r pryderon a gafwyd. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n bwysig i ysgolion weithredu eu polisi rheoli argyfwng ar y cyd â’u Hawdurdod Lleol ac, yn yr achos hwn yn arbennig, sut i ymateb i sylwadau yn y wasg a phryderon rhieni.

Mae’r sefyllfa hon bob amser yn un anodd ei rheoli, ond, yn y pen draw, p’un a yw’r ysgol yn destun mesurau arbennig neu wedi cael ei gosod mewn categori arbennig, mae angen iddi fod â chynllun gweithredu cadarn ar waith i wella’r meysydd pryder cyn gynted â phosibl.

Ar ôl i’r adroddiad arolygu gael ei gyhoeddi, mae’n rhaid i’r corff llywodraethu lunio Cynllun Gweithredu o fewn 20 niwrnod gwaith. Mae’n rhaid i’r Cynllun Gweithredu ddangos yr hyn a fydd yn cael ei gyflawni a’i weithredu mewn ymateb i argymhellion yr arolygiad. Gweler canllawiau Estyn ar arolygiadau, yn ogystal â Rhan 4 y Llawlyfr Llywodraethwyr Ysgolion.

Mae’n rhaid i’r corff llywodraethu hefyd sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu hymgorffori yn y Cynllun Datblygu Ysgol a’u bod yn cael eu monitro a’u gwerthuso. Dylai adroddiad blynyddol y llywodraethwyr i rieni gynnwys adroddiadau ar gynnydd a wnaed gan yr ysgol hefyd.

Hyd yn oed os yw’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn bod yn amddiffynnol, mae’n rhaid wrth ymagwedd gynlluniedig i fynd i’r afael ag unrhyw argymhellion yn gyflym. Rôl y corff llywodraethu yw herio’n effeithiol, wedi’r cyfan. Dylai’r corff llywodraethu fod yn sicrhau ei fod yn cael yr holl wybodaeth y mae arno ei angen i wneud penderfyniadau cadarn, ac i gyflawni ei swyddogaethau strategol yn effeithiol, nid lleiaf i roi’r ysgol mewn sefyllfa well. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol.

Mae gweithgor yn ffordd ddefnyddiol o lywio’r gwaith y mae angen ei wneud ar gyfer y camau gweithredu allweddol. Mae cymorth gan yr Awdurdod Lleol, y Consortiwm Rhanbarthol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n berthnasol, yn hanfodol i helpu’r ysgol ar ei daith wella. Gallai’r cymorth hwn leihau, yn anochel, wrth i’r ysgol gael ei thraed amdani. Os bydd hyn yn digwydd, nid yw’n golygu bod cynnydd yr ysgol yn arafu. Mae fel arfer yn golygu bod yr ysgol ar y trywydd iawn i sicrhau gwelliant. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith gwelliant ysgol, sy’n disodli’r Categoreiddio Cenedlaethol ac sy’n system hunanwerthuso gadarn lle gellir rhannu arfer da ac ymdrin â methiant ar fyrder


Myfyrdodau…
Ydy eich corff llywodraethu wedi gorfod delio gyda chanlyniadau adroddiadau arolygon gwael?
Pa gamau ydych chi wedi rhoi cynnig arnyn nhw i greu newid cadarnhaol yn arweinyddiaeth yr ysgol? Oedden nhw’n llwyddiannus?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708