Mynd i’r afael â’r rôl

Trafodaeth


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Does dim modd osgoi’r ffaith bod llawer iawn i’w ddysgu pan fyddwch yn dechrau fel llywodraethwr (fel sy’n wir am unrhyw swydd). Yn fy mhrofiad i, mae’r broses sefydlu yn cael ei harwain gan ddulliau papur i raddau helaeth, ac felly mae’r dysgu’n unffordd. Mae rhai strwythurau cymorth eisoes ar waith (fel Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru) y mae gennyf feddwl uchel ohonynt, ond y llywodraethwr newydd sy’n gyfrifol am geisio atebion i gwestiynau a allai fod ganddo.


Beth ddigwyddodd?
Treuliais lawer o amser yn chwilio am gyngor ac arweiniad ar-lein yn ogystal â gofyn cwestiynau. Oni bai y byddai cyfle cwestiwn/ateb cyflym yn codi yn ystod cyfarfod, byddwn yn aml yn siarad â llywodraethwr arall neu athro/athrawes ar ddiwedd cyfarfod ac yn gofyn cwestiynau i sicrhau fy mod yn deall popeth yn iawn.

Unwaith eto, rwyf wedi mynychu rhai digwyddiadau hyfforddi gyda Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn.


Pa wersi a ddysgwyd?
Y prif beth yw dod o hyd i ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy sy’n gyfredol, yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.


Sylwebaeth
Mae’n rhaid i bob llywodraethwr newydd ddilyn hyfforddiant sefydlu a hyfforddiant ar ddeall data ysgolion, a ddarperir gan eich Awdurdod Lleol neu Gonsortiwm Rhanbarthol. Mae’n rhaid i’r hyfforddiant hwn gael ei gwblhau o fewn 12 mis o gael eich penodi neu eich ethol. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth well i chi o rôl llywodraethwyr. Dyma’r dolenni i’r canllawiau ar yr hyfforddiant:

Sefydlu
Deall data ysgolion

Mae hyfforddiant ar-lein ar gael hefyd mewn rhai meysydd, yn ogystal â llawer o hyfforddiant arall i lywodraethwyr i’ch helpu â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau.

A yw’ch corff llywodraethu’n neilltuo mentor-lywodraethwr i lywodraethwyr newydd? Mae hyn yn arfer rhagorol ac yn gallu helpu llywodraethwyr newydd i deimlo’n fwy cyfforddus, a rhoi’r hyder iddynt gyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd. Edrychwch ar swydd ddisgrifiad enghreifftiol Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar gyfer mentor-lywodraethwr.

Felly, er mwyn i lywodraethwyr newydd wybod beth sy’n digwydd yn yr ysgol a beth yw’r blaenoriaethau, mae’n ddefnyddiol i’r ysgol baratoi “pecyn gwybodaeth”, sy’n cynnwys copi o’r Cynllun Datblygu Ysgol, yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf i Rieni, cofnodion y corff llywodraethu, rhestr o lywodraethwyr ac ati. Mae rhestr lawn o ddogfennau a allai helpu llywodraethwyr newydd ar gael yma.

Bydd llawer o gyrff llywodraethu’n trefnu cyfarfod croeso gyda’r Pennaeth, y Cadeirydd a’r llywodraethwr newydd. Mae hyn yn ffordd ddefnyddiol o ddod i wybod mwy am yr ysgol a’r corff llywodraethu o’r cychwyn cyntaf.

Yn ogystal, mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru lawlyfr ar gyfer llywodraethwyr sy’n cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am fod yn llywodraethwr, fel yr hyn a ddisgwylir gan lywodraethwr, tair prif rôl y corff llywodraethu, beth sy’n digwydd mewn cyfarfodydd a llawer mwy.

Bydd gan eich Awdurdod Lleol amrywiaeth o wybodaeth a chymorth y gallwch eu defnyddio hefyd. Mae bod yn llywodraethwr yn gallu rhoi llawer o foddhad – mwynhewch y profiad! Mae llawer o gymorth a chyngor defnyddiol ar gael i’ch helpu ar eich taith.


Myfyrdodau…
Beth allai eich corff llywodraethu ei wneud i gynorthwyo llywodraethwyr newydd yn well?
Pa adnoddau sydd wedi bod yn ddefnyddiol i chi ac a ydych wedi’u rhannu gyda’ch cyd-lywodraethwyr?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708