Sut i fynd i’r afael â thensiwn rhwng llywodraethwyr ac aelodau staff

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Cwynodd athro/athrawes am lywodraethwr, sydd â phlentyn yn yr ysgol. Yna, cwynodd y llywodraethwr am broffesiynoldeb yr athro/athrawes.


Beth ddigwyddodd?
Cyflwynwyd y mater i mi fel Cadeirydd. Dilynais y weithdrefn gwyno a chofnodais BOB sgwrs. Gwahaniaethau personol oedd wrth wraidd y mater, a ddatblygodd yn anghytundeb ynglŷn â pherfformiad yr ysgol. Gwrthododd y ddau barti ymwneud â phroses gyfryngu. Mae’r athro/athrawes yn parhau i fod yn yr ysgol gan nad yw’r mater yn ymwneud â’i berfformiad/pherfformiad. Mae plentyn y llywodraethwr yn gwneud yn dda hefyd.

Ysgrifennais lythyr a eiriwyd yn ofalus at y ddau barti yn cydnabod eu gwahaniaethau, ond yn gofyn iddynt ymddwyn yn broffesiynol. Mae’r athro/athrawes wedi bod yn mynychu sesiynau cwnsela ers hynny, sy’n helpu. Gweithiais o fewn y corff llywodraethu ond gan gysylltu’n agos â’r adran Adnoddau Dynol ar lefel yr Awdurdod Lleol.

Nid yw’r mater wedi cael ei ddatrys yn llwyr.


Pa wersi a ddysgwyd?
Beth ddysgais i? Weithiau, gwneir cwyn swyddogol yn rhy gyflym. Yn y dyfodol, buaswn bob amser yn gofyn i’r partïon fynychu cyfarfod cyfryngu. Roedd y DDAU barti ar fai am anfon llythyrau swyddogol mor fuan. Roedd y cymorth gan adran AD yr Awdurdod Lleol yn dda.


Sylwebaeth
Y mater dan sylw yma yw p’un a oedd yr athro/athrawes yn cwyno am riant, a oedd hefyd yn llywodraethwr yn yr ysgol, neu’n cwyno am yr unigolyn yn ei rôl fel llywodraethwr, a oedd hefyd yn rhiant yn yr ysgol. Mae’r ddwy sefyllfa’n wahanol iawn a byddent yn derbyn sylw mewn ffordd wahanol.

Yn yr achos cyntaf, ni ddylid defnyddio gweithdrefn gwyno’r ysgol gan nad yw staff yn gallu cwyno am weithredoedd rhieni. Ni fyddai’r Cadeirydd wedi gorfod ymwneud â’r mater.

Yn yr ail achos, byddai’r Cadeirydd (neu lywodraethwr arall) yn ymchwilio i’r gŵyn yn erbyn y llywodraethwr gan ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r ysgol.

Os oes gan staff bryderon ynglŷn ag ymddygiad rhieni, dylent fynd at eu rheolwr llinell neu’r pennaeth i’w trafod yn y lle cyntaf. Mae’n ddigon posibl y bydd y rheolwr llinell neu’r pennaeth yn gallu gweithredu fel cyfryngwr rhwng y rhiant a’r aelod o staff i ddatrys unrhyw faterion. Os yw’r berthynas rhwng y rhiant a’r athro/athrawes yn parhau i fod yn anodd, gallai unrhyw bryderon a allai fod gan y rhiant yn y dyfodol gael eu cyfeirio at swyddog cwynion yr ysgol neu’r pennaeth i’w datrys.

Fodd bynnag, gall rhiant gwyno am ymddygiad athro/athrawes, ac ymchwilir i hyn fel arfer gan aelod perthnasol o’r staff, neu’r pennaeth.

Er efallai na ddefnyddiwyd y broses iawn yn yr achos hwn, ac er bod y Cadeirydd yn nodi nad yw’r sefyllfa wedi’i datrys yn llwyr eto, mae’n ymddangos bod y mater wedi cael ei drin yn llwyddiannus, gan fod y Cadeirydd wedi ymdrin ag ef yn llawn ac mewn modd sensitif gyda’r ddau barti. Yn anad dim, mae mor bwysig ymdrin ag unrhyw bryderon neu gwynion cyn gynted â phosibl i atal y sefyllfa rhag gwaethygu ac achosi mwy o straen i’r holl bartïon sy’n gysylltiedig.

Mae rhagor o wybodaeth am gwynion ysgol ar gael yn y canllawiau defnyddiol hyn.


Myfyrdodau…
A fu tensiwn erioed yn eich ysgol rhwng aelod o staff a’r corff llywodraethu?
Sut byddech chi’n ceisio cymodi llywodraethwr ac aelod o staff?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708