Ymdrin â chwyn yn erbyn y pennaeth

_Trafodaeth – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Gwnaed cwyn dyletswydd gofal yn erbyn y pennaeth gan aelod o staff.


Beth ddigwyddodd?
Dilynwyd y polisi Dyletswydd Gofal a chynhaliwyd trafodaethau anffurfiol. Rhoddwyd cymorth gan adran AD yr Awdurdod Lleol – cyngor, dogfennau ac ati.


Pa wersi a ddysgwyd?
Nid oedd camau anffurfiol yn llwyddiannus. Yna, cychwynnwyd gweithdrefnau ffurfiol a chyflogwyd ymchwilydd annibynnol. Rhoddwyd cylch gorchwyl manwl i’r ymchwilydd i ymchwilio, a chynhaliodd gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd, galwadau ffôn, anfonwyd negeseuon e-bost at y partïon perthnasol.


Sylwebaeth
Mae’n rhaid bod gan bob ysgol bolisi cwynion i ymdrin â materion a allai fod gan staff ynglŷn â’u bywyd gwaith yn yr ysgol. Proses 3 cham ydyw fel arfer, gyda cham anffurfiol yn gyntaf.

Roedd yn anffodus na ellid datrys y mater yn anffurfiol yn y lle cyntaf, ond mae hyn yn digwydd weithiau.

Mae’n ymddangos bod yr ymchwilydd wedi cael brîff caeth o ran beth i ymchwilio iddo – mae hyn yn gam pwysig yn y broses i sicrhau bod yr ymchwilydd yn ymwybodol o’i gylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad ac nad yw’n gwyro oddi wrtho.

Mae ACAS wedi cynhyrchu gwybodaeth am ymdrin â chwynion yn y gwaith ond, yn y pen draw, byddai’n rhaid i’r ysgol ddilyn y polisi y cytunwyd arno ac a fabwysiadwyd gan y corff llywodraethu.

Tybir bod y mater ar Gam 2 o’r weithdrefn bellach. Byddai’r ymchwilydd yn llunio adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd gan yr aelod o staff a’r pennaeth, yn ogystal ag unrhyw dystion. Yna, byddai penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â ph’un a yw’r gŵyn yn cael ei chynnal ai peidio.


Myfyrdodau…
A fu’n rhaid i’ch corff llywodraethu ymdrin â chwyn yn erbyn y pennaeth?
Pa brosesau a pholisïau fyddech chi’n eu dilyn pe byddai cwyn dyletswydd gofal yn cael ei gwneud yn erbyn uwch aelod o staff?

Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708