O’r posibilrwydd o gau ysgol i ffurfio ffederasiwn ysgolion

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Dechreuodd y mater hwn cyn i mi ddod yn llywodraethwr, ond dyna a’m hysgogodd i ddod yn llywodraethwr yn yr ysgol. Roedd yna gynnig i gau’r ysgol a datblygu ysgol gyfagos. Yr opsiwn gorau a oedd gan yr ysgol i’w ystyried oedd dod yn rhan o ffederasiwn.


Beth ddigwyddodd?
Yn ystod y broses ymgynghori ac o ganlyniad i gryfder teimladau’r gymuned, rhoddwyd y cynnig i gau’r ysgol o’r neilltu i roi cyfle i’r ysgol geisio partner i ffurfio ffederasiwn. Gan nad oedd y cynnig i gau’r ysgol ar waith mwyach, roedd ysgolion a oedd yn amharod i drafod ffederasiwn yn flaenorol yn teimlo y gallent gychwyn y trafodaethau hyn bellach.


Pa wersi a ddysgwyd?
Roedd dod yn rhan o ffederasiwn wedi arbed yr ysgol rhag cau a bu’n sefyllfa lle’r oedd pawb ar ei ennill.


Sylwebaeth
Mae nifer gynyddol o ffederasiynau yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn ymuno â ffederasiwn er mwyn cynaliadwyedd, gan sicrhau arweinyddiaeth effeithiol a mwy o welliant yn yr ysgol, a’r gallu i rannu adnoddau ar draws y ffederasiwn (rhwng dwy i chwe ysgol). Mae bod yn rhan o ffederasiwn yn sicr yn helpu ysgolion a allai fod wedi cau, er enghraifft, o ganlyniad i niferoedd disgyblion neu fethu â phenodi pennaeth, oherwydd bod ysgolion yn y ffederasiwn yn gallu rhannu un pennaeth. Fodd bynnag, nid hwn fyddai’r unig reswm i ymuno â ffederasiwn. Yn sgil mwy o bwyslais ar gydweithredu rhwng ysgolion, a’r pwyslais ar yr ysgol sy’n hunanwella, gallai ffurfio corff llywodraethu ffederasiwn ymddangos fel cam nesaf da.

Mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau ar y broses o ffurfio ffederasiwn. Gall cynigion gael eu harwain gan gyrff llywodraethu’r ysgolion dan sylw, neu gan yr Awdurdod Lleol sy’n cynnal yr ysgolion. Mae ysgolion yn y ffederasiwn yn cadw eu hunaniaeth gyfreithiol unigol, a’u cyllidebau unigol, ond yn rhannu trefniadau llywodraethu, h.y. bydd ganddynt un corff llywodraethu.

Mae rhywfaint o hyblygrwydd o ran nifer y llywodraethwyr a ganiateir ar gorff llywodraethu ffederasiwn, sy’n golygu y gallwch benodi pobl a chanddynt sgiliau ac arbenigedd penodol.

Mae Estyn wedi cynhyrchu adroddiad thematig ar ffederasiynau effeithiol a allai fod yn ddefnyddiol os yw’ch corff llywodraethu’n ystyried yr opsiwn hwn.


Myfyrdodau…
A yw’ch ysgol wedi wynebu’r posibilrwydd o gau?
Beth yw manteision ac anfanteision bod yn rhan o ffederasiwn ysgolion, yn eich barn chi?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708