Mynd i’r afael â chynnydd mewn cwynion ac ymddygiad afresymol gan ddisgyblion a rhieni

Trafodaeth – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef? Mae staff ysgol yn gorfod ymdrin fwyfwy â chwynion ac ymddygiad afresymol gan ddisgyblion a rhieni. Mae staff yr ysgol yn gorfod bod yn gwnselwyr, arbenigwyr cyfreithiol, cyfryngwyr ymddygiad ymosodol a rolau eraill nad ydynt yn ymwneud ag addysgu mewn gwirionedd na hyd yn oed rheoli ysgol.


Beth ddigwyddodd?
Bu’n rhaid i’r ysgol greu cytundeb lefel gwasanaeth cyfreithiol gyda’r Awdurdod Lleol. Ochr yn ochr â hyn, gwnaethom ailffurfio uned cymorth ymddygiad disgyblion yr ysgol.


Pa wersi a ddysgwyd?
Mae’r camau a gymerwyd wedi helpu’r sefyllfa. Mae meysydd a fyddai’n elwa ymhellach yn gofyn am fwy o staff, sy’n gofyn am fwy o gyllid, nad yw’n bosibl ar hyn o bryd.

Un o’r gwersi a ddysgwyd yw bod â rolau a chyfrifoldebau mwy eglur rhwng staff addysgu a staff cymorth. Mae angen terfynau ar staff cymorth ac eglurder ynglŷn â’r hyn y disgwylir iddynt ei wneud, gan gynnwys y polisïau sy’n ymwneud â thrafod disgyblion a gorfodi rheolau ac ati.


Sylwebaeth
Mae wastad yn syniad da sicrhau bod cyngor cyfreithiol ar gael rhag ofn y bydd angen mynd i’r afael â materion mwy difrifol yn yr ysgol, ac mae’r rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol yn cynnig hyn trwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth.

Mae’n rhaid bod gan bob ysgol bolisi ymddygiad sy’n manylu ar sut i reoli ymddygiad disgyblion, gan nodi pwy sy’n gyfrifol am orfodi cosbau ac ati. Dylai gael ei adolygu’n rheolaidd gan y corff llywodraethu i sicrhau ei fod yn briodol i’r ysgol ac yn addas i’r diben.

Er y byddai cyflogi mwy o staff yn datrys y broblem yn yr achos hwn, efallai nad yw hynny’n bosibl o ganlyniad i gyfyngiadau ariannol.

A yw’r ysgol wedi trefnu sesiynau mewn diwrnodau HMS sy’n canolbwyntio ar reoli ymddygiad disgyblion? Byddai hyn yn gyfle delfrydol i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o bolisi’r ysgol ac yn ei ddeall, ac yn gwybod sut i’w gymhwyso’n hyderus ac yn briodol.

Os oes gan rieni bryderon ynglŷn â’r ysgol, dylid eu hannog i’w mynegi er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn sylw yn y modd priodol. Mae’n rhaid bod gan bob ysgol weithdrefn gwyno ar waith, y rhoddir cyhoeddusrwydd iddi, efallai ar wefan yr ysgol, ac y cyfeirir ati yn Adroddiad Blynyddol y llywodraethwyr i Rieni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu polisi enghreifftiol y gall cyrff llywodraethu ei ddefnyddio, ei addasu a / neu ei fabwysiadu, o fewn eu canllawiau ar ymdrin â chwynion sy’n ymwneud ag ysgolion.

Os yw’n ysgol fawr, fe allai fod yn werth ystyried penodi aelodau staff yn swyddogion cwynion.

Gellir ymdrin â’r rhan fwyaf o gwynion neu bryderon yn anffurfiol (Cam A). Fodd bynnag, os na ellir eu datrys ar y cam cynnar hwn, mae’r weithdrefn ar waith i sicrhau bod ymagwedd gyson yn cael ei defnyddio wrth ymdrin â chwynion. Cyhyd â bod achwynwyr yn teimlo bod eu pryder wedi cael ei ystyried o ddifrif a’i drin mewn modd sensitif ac mor gyflym â phosibl, ni ddylai fod apêl i gamau mwy ffurfiol y weithdrefn (Camau B ac C).

Ni ddylai’r ysgol orfod ymdrin â rhieni sy’n ymosodol. Felly, mae’n syniad da i’r corff llywodraethu lunio polisi sy’n ymdrin â chwynion blinderus ac ymddygiad afresymol. Fel dewis olaf, gall ysgolion wahardd rhieni trafferthus ac ymosodol o’r ysgol am gyfnod. Mae paragraff 71, pennod 25 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am hyn.

Yn y pen draw, mae angen i ysgolion fod â pholisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw fater sy’n codi’n gyflym. Dylai llywodraethwyr hefyd gael gwybod faint o gwynion y mae’r ysgol yn eu derbyn, fel arfer trwy adroddiad y pennaeth, fel y gallant fonitro’r sefyllfa’n ofalus.


Myfyrdodau…
A yw’ch ysgol wedi gweld cynnydd mewn problemau ymddygiadol yn ymwneud â disgyblion a/neu anawsterau gyda rhieni?
Beth yw’r ffordd orau y gall y corff llywodraethu gynorthwyo’r ysgol i fynd i’r afael â materion fel y rhain?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708