Sut i ymdrin â rhieni sy’n amharchu staff ar gyfryngau cymdeithasol

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Rydym wedi cael problemau gyda chyfryngau cymdeithasol a rhieni’n amharchu’r staff a’r ysgol. Gan nad oedd hyn yn digwydd ar dudalennau gwe’r ysgol, nid oedd gennym reolaeth drosto. Gwnaethom drafod y mater gyda’r rhieni, ond nid oedd gennym reolaeth drosto.


Beth ddigwyddodd?
Cawsom gyngor gan gymorth llywodraethwyr a chafodd rhai aelodau staff gyngor gan eu hundeb llafur. Gwnaethom anfon cylchlythyr am gyfryngau cymdeithasol at rieni.


Pa wersi a ddysgwyd?
Nid wyf yn credu bod y camau a gymerwyd yn addas, ond daeth y sylwadau i ben yn naturiol.

Pa reolaethau sydd ar waith i ddiogelu’r ysgol a’r staff ar gyfryngau cymdeithasol? Hoffem wybod sut mae cyrff llywodraethu eraill wedi ymdrin â materion o’r fath.


Sylwebaeth
Mae cyfryngau cymdeithasol yn fuddiol mewn sawl ffordd, ond mae iddynt eu hanfanteision hefyd, yn anffodus. Fe ddylai fod gan ysgolion bolisi i staff, llywodraethwyr a rhieni ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, ar y cyd ag unrhyw wybodaeth gan yr Awdurdod Lleol. Mae gan Grid Dysgu’r De-orllewin set o adnoddau ar gyfer diogelwch ar-lein, gan gynnwys polisi enghreifftiol ar gyfryngau cymdeithasol.

Afraid dweud ei bod yn gwbl amhriodol i rieni bostio unrhyw sylwadau amharchus ynglŷn â staff yr ysgol ar gyfryngau cymdeithasol. Gall hyn achosi llawer o ofid i bawb sy’n gysylltiedig. Mae’n syniad da anfon gwybodaeth am gyfryngau cymdeithasol mewn cylchlythyr, ond byddai’n well fyth pe byddai’n cael ei hanfon cyn i rywbeth ddigwydd, efallai ar ddechrau pob blwyddyn ysgol i atgoffa pawb, neu gall hyd yn oed sôn amdano’n fyr mewn nosweithiau rhieni fod yn gam i’r cyfeiriad iawn.

Bydd gan ysgolion bolisïau penodol y dylai rhieni eu dilyn, os oes ganddynt bryder neu gŵyn. Yn aml, gellir ymdrin â phryderon cyn iddynt waethygu. Fodd bynnag, mae angen i rieni wybod sut gallant godi unrhyw fater o’r cychwyn cyntaf, ac mae angen iddynt ddeall y broses gywir i’w dilyn. Gallai amlygu hyn mewn cylchlythyrau helpu.

Os, yn anffodus, nad yw hyn yn gweithio, bydd angen i’r ysgol fynd i’r afael â’r sefyllfa a bydd pob achos yn wahanol, wrth reswm. Fe allai fod yn briodol gwahodd y rhiant i drafod beth ddigwyddodd ac esbonio y bydd angen iddo ddilyn polisi cwynion yr ysgol os oes ganddo bryder penodol. Yn yr un modd, gellid anfon gohebiaeth ysgrifenedig at y rhiant, yn amlinellu unrhyw gamau gweithredu posibl. Yn anad dim, mae’n bwysig ceisio sicrhau nad yw’r sefyllfa’n gwaethygu a’i bod yn cael ei thrin yn gyflym.

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru gyhoeddiad defnyddiol ar lywodraethwyr a chyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys rhai awgrymiadau defnyddiol a dolen i bolisi ysgol.

Mae’n gyfrifoldeb arnom ni i gyd i ofyn y cwestiwn, A wyf yn hyderus y bydd unrhyw gynnwys cyfryngau cymdeithasol a bostiaf yn cael ei ystyried yn rhesymol ac yn briodol pe byddai’n cael ei weld gan eraill? Felly, meddyliwch am hynny.

Addaswyd o ganllaw arfer da Cyngor y Gweithlu Addysg ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol


Myfyrdodau…
A yw’ch ysgol wedi profi unrhyw ddefnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol yn erbyn aelodau o staff yr ysgol?
Beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â rhieni sy’n amharchu staff, yn eich barn chi?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708