Mae adroddiad y pennaeth i’r corff llywodraethu yn un o’r dogfennau allweddol a ddefnyddir i hysbysu’r llywodraethwyr am weithgareddau a datblygiadau’r ysgol. Mae’n darparu gwybodaeth bwysig ac yn helpu cyrff llywodraethu gyda’u rolau strategol ac atebolrwydd, yn enwedig eu rôl her a chefnogaeth.
Bydd cynnwys adroddiad y pennaeth i’r llywodraethwyr yn amrywio o ysgol i ysgol ac o un cyfarfod i’r llall, i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau neilltuol yr ysgol ar unrhyw amser arbennig, er ein bod yn argymell defnyddio penawdau cyson.
Argymhellir cynnwys y canlynol fel eitemau trafod safonol:
– Safonau / dilyniant dysgwyr
– Effeithlonrwydd rheolaeth adnoddau’r ysgol
– Cynnydd mewn gweithredu Cynllun Datblygu’r Ysgol a’r canlyniadau a’r targedau cytun
- Sicrwydd Ansawdd a’r adroddiad hunanwerthuso.
Dylai llywodraethwyr gytuno gyda’r pennaeth am yr wybodaeth ysgol allweddol a ddylai fod ar gael. Dylai gynnwys:
– Gwybodaeth am berfformiad sydd yn sicrhau bod y llywodraethwyr mewn sefyllfa i drafod cynnydd yr ysgol, neu’r diffyg cynnydd.
– Data perfformiad ysgol.
– Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a datblygiadau polisi lleol a chenedlaethol.
– Gwybodaeth (ar gyfer trafodaeth a phenderfynu) ar gynllunio datblygiadau yn y dyfodol.
Mae adroddiadau rheolaidd gan y pennaeth yn darparu dadansoddiad cynhwysfawr o waith yr ysgol dros y flwyddyn academaidd, ac felly dylent gyfeirio at wybodaeth fonitro a gwerthuso i ddangos yr effaith a wneir, er enghraifft, mentrau sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu, lles staff a disgyblion ac ati.
Bydd adroddiad y pennaeth yn offeryn mwy effeithiol i’r corff llywodraethu os yw’r adroddiad:
- yn gryno ond mor addysgiadol â phosibl;
– nodi unrhyw eitemau sy’n gofyn am benderfyniad gan y corff llywodraethu;
– osgoi jargon ac acronymau diangen; a
– cyflwyno’r data yn glir gydag esboniadau.
Mae hyn yn galluogi llywodraethwyr i ofyn cwestiynau gwybodus.
Mae’n ofyniad cyfreithiol i gyrff llywodraethu gyfarfod, o leiaf, bob tymor a bod y pennaeth yn cyflwyno adroddiad tymhorol yn y cyfarfod hwnnw. Bydd cyrff llywodraethu sydd yn cyfarfod yn amlach na’r isafswm angenrheidiol yn parhau i dderbyn adroddiad tymhorol, ond nid adroddiad ar gyfer pob cyfarfod. Rhaid i’r holl lywodraethwyr fod wedi derbyn yr adroddiad a’r holl ddogfennaeth arall ar gyfer y cyfarfod perthnasol h.y. o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r llywodraethwyr ddarllen yr adroddiad ac mae’n dileu’r angen i’w ddarllen yn y cyfarfod.
Drwy gydol yr adroddiad, argymhellir nad oes cyfeiriad at enw yr un aelod o’r staff na disgybl, oni bai bod hynny mewn modd canmoliaethus. Dlid defnyddio blaenlythyrau wrth drafod staff.
Yn ogystal â’r adroddiad, bydd cyrff llywodraethu wedi sefydlu bwyllgorau neu weithgorau ad-hoc gyda chyfrifoldeb i ystyried a thrafod meysydd penodol ac adrodd ar eu canfyddiadau i’r corff llywodraethu llawn ar gyfer ystyriaeth derfynol. Gall adroddiad y pennaeth gyfeirio at y pwyllgorau / adroddiadau hyn ond does dim angen dyblygu eu cynnwys.
DISGYBLION
Nifer ar y gofrestr
– Data mynediad, tueddiadau ac ati.
ADY
Mae gan pob ysgol lywodraethwr gyda chyfrifoldeb dros ADY
– Trefniadaeth ADY
– Defnydd o staff
– Gwybodaeth ystadegol – nifer y datganiadau, disgyblion ar Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy a Gweithredu gan yr Ysgol
– Meysydd ADY a nodwyd yn yr ysgol e.e. anawsterau dysgu cymhedrol, ASD, MAT ayyb.
PLANT YN DERBYN GOFAL (LAC) / PLANT SY’N DERBYN GOFAL (CLA) / POBL FANC SY’N DERBYN GOFAL (YPLA)
Mae gan pob ysgol lywodraethwr gyda chyfrifoldeb dros LAC/CLA/YPLA
– Nifer y disgyblion yn yr ysgol
– Cynnydd y disgyblion yma o’i gymharu â’u cymheiriaid
– Mentrau PDG
DIOGELU
– Diweddariad ar hyfforddiant staff / llywodraethwyr
– Gwiriadau DBS ar gyfer cofrestr staff
– Adolygiadau polisi – trefniadau diogelu
– Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
– Cyfrinachol – nifer y cyfeiriadau
STAFFIO
– Trefniadaeth ysgol i gynnwys defnydd yr holl staff, maint dosbarthiadau ayyb
– Cyfrifoldebau staff
– cwricwlwm ac allgyrsiol
– Sut y defnyddir staffio i adlewyrchu’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (CPA ac ati).
– Materion penodol eraill sydd angen eu hamlygu efallai
RHEOLI / ADOLYGU PERFFORMIAD STAFF
Rhaid hysbysu’r llywodraethwyr bod y broses yn un barhaus a lle mae’r ysgol o fewn ei gylch blynyddol. Bydd hyn yn cynnwys staff addysgu ac heb fod yn addysgu fel bo’n briodol. Nid yw llywodraethwyr yn derbyn adroddiad am amcanion unigol yn erbyn staff penodol er y gellir eu hysbysu o amcan ysgol gyfan sydd yn cynnwys yr holl staff. Dim ond pwyllgor Rheolaeth Perfformiad y pennaeth sydd yn derbyn gwybodaeth am amcanion y pennaeth oni bai bod y pennaeth yn penderfynu fel arall.
HYFFORDDIANT
Mae llywodraethwyr angen gwybod beth yw effaith HMS ar y dysgwr ac yn y tymor hirach pa effaith y mae wedi ei gael ar safonau.
– Hyfforddiant addysgu ac heb fod yn addysgu a fynychwyd gan y staff (CPD), ar ac oddi ar y safle, canlyniadau yn yr ysgol, sut y byddant yn cael eu monitro a’u gwerthuso
– Rhaglen Ddatblygu Staff gynllunedig a sylwadau arni ers yr adroddiad diwethaf
CYLLIDEB
Gall y pwyllgor cyllid hefyd roi adroddiad yn y cyfarfod hwn. (Efallai bod hwn wedi’i gynnwys yn yr adran CDY).
– Y gyllideb am y flwyddyn academaidd
– Dyraniadau cyllideb yn erbyn y targedau a osodwyd
GRANT DATBLYGU DISGYBLION (GDD)
Rhaid i lywodraethwyr fonitro effaith y GDD
– Dyraniad PDG am y flwyddyn
– Y gwariant arfaethedig
– Disgwyliadau gwelliant
LLESIANT (Staff a Disgyblion)
– Graddau presenoldeb ac yn erbyn y targedau a osodwyd
– Absenoldebau staff
– Strategaethau i wella llesiant staff a disgyblion
– Adroddiad gan y llywodraethwr/pwyllgor llesiant
– Hyfforddiant/dyddiau llesiant
DATBLYGIADAU CWRICWLWM
Er y gall hyn fod yn ffocws i pwyllgor neu weithgor, mae angen adroddiad arno gan y pennaeth. Gall eich adroddiad gyfeirio at gofnodion perthnasol y pwyllgor. Mae llywodraethwyr yn cymeradwyo gwariant yn erbyn y cwricwlwm ac mae hyn yn fodd iddynt fonitro.
– Yn Nhymor yr Hydref efallai y byddwch yn rhoi amlinelliad o athroniaeth addysgu a dysgu’r ysgol
– Blaenoriaethau mewn dysgu
– Effaith datblygiadau cytun
– Pynciau a wneir gydag amrywiol ddosbarthiadau
– Cynnwys sylwadau yn berthynol i benderfyniad a wnaethpwyd yn flaenorol gan y llywodraethwyr mewn perthynas â’r cwriclwlwm e.e. penderfyniad i gadarnhau arddull addysgu.
ASESIAD / PERFFORMIAD A SAFONAU
Mae angen adrodd bob tymor ar asesiadau gan adrodd ar ddata i lywodraethwyr yn y cyfarfod cyntaf sydd ar gael. Mae’n bwysig bod y corff llywodraethu yn monitro ac yn gwerthuso cynnydd. Rhaid hysbysu llywodraethwyr hefyd am ganlyniadau dadansoddi a dehongli data. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw syrpeis i’w ddatgelu!
– Gwybodaeth ar fynediad
– Asesiad llinell sylfaen
– Profion darllen a rhifedd cenedlaethol
– Profion asesu wedi’i personoleiddio
– Data meincnodi (Mewnol / allanol fel y bo’n berthnasol)
– Monitro yn erbyn y Polisi Asesu, Cofnodi ac Adrodd
– Gallwch hefyd adrodd ar y cymedroli a wnaethpwyd o fewn clystyrau ac ysgolion
– Adolygiad o ganlyniadau a chanlyniadau’r flwyddyn flaenorol
– Cynnydd a pherfformiad disgyblion (cyflawniad a chyrhaeddiad)
DATBLYGIADAU CWRICWLWM ERAILL
Mae hyn yn gymorth i lywodraethwyr weld darlun ysgol gyfan o ran sut mae’n datblygu’r plentyn cyfan a bydd yn cyfrannu at ddeall lles yn ogystal â darparu cwricwlwm eang, cytbwys.
e.e. Prosiect Ysgolion Iach, Eco Ysgolion, Prosiect lleol … yn seiliedig ar glwstwr, Prosiectau Cenedlaethol
CYNLLUN DATBLYGU YSGOL (CDY)
Argymhellir adrodd ar gynnydd yn erbyn y CDY ym mhob adroddiad y pennaeth.
– Cynnydd tymhorol yn erbyn canlyniadau datganedig
– Diwygiadau i’r CDY
– Effaith rhanddeiliaid yr ysgol ar adeiladu a chyflwyno’r CDY
HUNAN WERTHUSIAD YSGOL (HWY)
Argymhellir adrodd ar HWY ym mhob adroddiad y pennaeth.
– Adroddiad tymhorol ar hunan werthuso
– Adroddiad monitro
– Sylwadau ar y safonau a welwyd
– Diweddariad blynyddol yn erbyn y tri maes arolygu
– Proffil ymweliad MSP … rhannu canlyniadau ac amcanion cynllunedig yn erbyn gwelliant ysgol
CYNLLUN GWEITHREDU YN DILYN AROLWG (os yn berthnasol)
Mae’n ofynnol adrodd ar gynnydd yn erbyn Adroddiad Estyn a’i Gynllun Gweithredu dilynol bob tymor
CYNLLUN PONTIO
– Efallai y byddwch yn dymuno rhoi diweddariad ar bontio yn ystod y tymhorau hyn os yw’n berthnasol
– Adrodd ar werthusiad y cynllun cyfredol
– Adrodd ar lunio’r cynllun ‘newydd’
CWYNION
Dylai’r corff llywodraethu fonitro cwynion. Os oes unrhyw dueddiadau, mae modd delio gyda’r rhain drwy adolygu polisi ac arfer yn yr ysgol o bosibl.
– Nifer y cwynion a dderbyniwyd yn y flwyddyn academaidd flaenorol
– Natur y cwynion
– Unrhyw dueddiadau
YMDDYGIAD
Dylai’r corff llywodraethu fonitro ymddygiad. Os oes unrhyw dueddiadau, mae modd delio gyda’r rhain drwy adolygu polisi ac arfer yn yr ysgol o bosibl.
– Cyflawniad disgyblion ac yn y blaen
– Nifer y digwyddiadau bwlio/aflonyddu yn y flwyddyn academaidd flaenorol
– Natur y digwyddiadau yma
– Unrhyw dueddiadau
– Gwybodaeth ynghylch defnyddio polisïau perthnasol – arfer da/problemau ac yn y blaen
GWAHARDDIADAU DISGYBLION
– Data gwahardd disgyblion – yn ôl math, rhyw, oedran, lleiafrif ethnig, unrhyw dueddiadau ac ati
ADEILADAU AC EIDDO A IECHYD A DIOGELWCH
– Manylion am unrhyw asesiadau risg iechyd a diogelwch a gynhaliwyd
– Unrhyw waith i’w gyflawni o ganlyniad i’r asesiad risg
– Unrhyw addasiadau i eiddo’r ysgol sydd ar waith
DIOGELU DATA / GDPR
Gyda chyflwyniad GDPR mae’n bwysig bod y corff llywodraethu yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar ofyniadau a chydymffurfiaeth data.
– Maylion am unrhyw fynediad diawdurdod at ddata a chyfeiriadau at DPO/ICO
– Diweddariadau ynghylch sut mae data yn cael ei brosesu yn yr ysgol
– Adolygu polisi (yn ôl rhestr wirio adolygu’r Corff Llywodraethu)
GWEITHGAREDDAU’R YSGOL
– Diweddariad tymhorol
YMWELWYR I’R YSGOL
– Diweddariad tymhorol yn erbyn pwy, pam a phryd
CYDLYNU
Cynnwys pethau fel:
– Cydlynu gyda grwpiau cymunedol
– Ysgolion eraill
– Ysgolion cynradd / uwchradd lleol
– Rhwydweithiau penaethiaid
– Cymunedau Dysgu Proffesiynol / gwaith clwstwr
CYSYLLTIADAU RHIENI / CYMUNEDOL
– Rhieni yn yr ysgol… cynorthwywyr…. dysgwyr
– CRhA…. Gweithgareddau… disgyblion gynorthwywyr ayyb
– Adrodd i rieni
– Ceisio barn rhieni / cyfathrebu â rhieni
– Cysylltiadau cymunedol (defnyddio cyfleusterau)
Cyhoeddwyd: 29/08/2018
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708