Noder os gwelwch yn dda: Dim ond gyda’r rhai sydd yn gynwysiedig yn eich tanysgrifiad y gellir rhannu’r deunydd yma, yn unol â thelerau ac amodau’r gwasanaeth.
Mae gan bob cyrff llywodraethu gr?p craidd o lywodraethwyr yn cynnwys:
- rhiant lywodraethwyr;
- athrawon lywodraethwyr;
- staff lywodraethwyr;
- llywodraethwyr ALl;
- y pennaeth (yn gweithredu fel llywodraethwr o’i ddewis/dewis).
Yn ywchwanegol, bydd cyrff llywodraethu hefyd yn cynnwys rhai o’r llywodraethwyr canlynol, yn dibynnu ar y math o ysgol:
- llywodraethwyr cymunedol; Mae pob ysgol a gynhelir, ac eithrio ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol yn cynnwys llywodraethwyr cymuned yn eu haelodaeth
- llywodraethwyr cymunedol ychwanegol;
- llywodraethwyr cynrychioliadol;
- llywodraethwyr sefydledig;
- llywodraethwyr partneriaeth;
- llywodraethwyr nawdd;
- disgybl lywodraethwyr cyswllt (ysgolion uwchradd yn unig).
Cyfrifoldebau craidd y corff llywodraethu ydy:
- hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol ac ymddygiad;
- gosod targedau ar gyfer cyflawniad disgyblion;
- sicrhau bod gan pob dysgwr fynediad i gwricwlwm eang a chytbwys;
- penderfynu ar nodau, polisïau a blaenoriaethau’r ysgol;
- penderfynu ar, a monitro cyllideb yr ysgol;
- staffio – e.e. penodi staff, rheoli perfformiad;
- rhoi gwybodaeth i rieni am yr ysgol;
- cynhyrchu cynllun gweithredu a monitro cynnydd yn dilyn arolwg gan Estyn;
- llesiant a diogelwch dysgwyr.
Pob llywodraethwyr:
- yn cael eu hethol/penodi i wasanaethu am dymor o 4 blynedd o wasanaeth; Mae rhiant lywodraethwyr mewn ysgolion meithrin yn gwasanaethu am dymor o ddwy flynedd. Y cyngor cymuned sydd yn penodi’r llywodraethwyr cymunedol ychwanegol sydd yn pennu’r tymor mewn swydd, hyd at 4 blynedd ar y mwyaf. Caiff llywodraethwyr sylfaen eu hail benodi am gyfnod o 4 blynedd ar y mwyaf.
- hawl i ymarfer yr un pwerau, dyletswyddau a chyfrifoldebau a llywodraethwyr eraill gyda’r un hawliau a llywodraethwyr eraill;
- fel llywodraethwyr, eraill mae’n ofynnol iddyn nhw ymarfer eu barn gorau wrth gyfrannu at benderfyniadau’r corff llywodraethu;
- heb fandad i gynrychioli barn y personau sydd wedi eu hethol neu eu penodi y mae’r llywodraethwr yn anghytuno gyda nhw;
- maent yn gymwys i gael eu datgymhwyso rhag gorffen eu tymor mewn swydd os ydynt yn methu â mynychu cyfarfodydd corff llywodraethu am dros 6 mis heb ganiatâd y corff llywodraethu;
- gall y corff llywodraethu wahardd llywodraethwr sylfaen trwy gynnig, am holl gyfarfodydd y corff llywodraethu, neu unrhyw gyfarfodydd y corff llywodraethu, am hyd at 6 mis am resymau fel a nodir yn “Rheoliad 49 o Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005”: http://www.legislation.gov.uk/wsi/2005/2914/regulation/49/made/welsh
- ni allant ddatgelu manylion sydd yn annhebygol o gael eu cofnodi yn y cofnodion, hyd yn oed os nad yw’r manylion wedi’u hystyried yn gyfrinachol gan y corff llywodraethu;
- Ni allant weithredu’n unigol oni bai bod tasg benodol wedi’i rhoi iddynt gan y corff llywodraethu, yn rhoi pwer i’r llywodraethwr unigol i weithredu ar ei ran;
- Ni allant chwarae rhan ym mhenderfyniadau’r corff llywodraethu pan fo ganddynt ddiddordeb personol ac/neu ariannol yng nghanlyniad y penderfyniad.
Rhiant lywodraethwyr
Mae rhiant lywodraethwyr yn chwarae rhan bwysig ar gyrff llywodraethu, oherwydd bod gan rieni brofiad uniongyrchol o’r diwrnod ysgol a beth sydd yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth oddi wrth eu plentyn/plant yn yr ysgol. Mae hyn yn rhoi persbectif gwahanol i reolaeth strategol yr ysgol.
Caiff rhiant lywodraethwyr eu hethol fel cynrychiolwyr buddiannau rhieni plant sydd yn mynychu’r ysgol ar y pryd. Mewn geiriau eraill, maen nhw’n rhieni cynrychioliadol yn hytrach nag yn gynrychioliadol o rieni. Gall rhiant lywodraethwyr fynegi barn bersonol mewn cyfarfodydd corff llywodraethu ac ni all y rhieni y maen nhw’n eu cynrychioli eu gorfodi i gefnogi safbwynt neilltuol y mae’r rhiant lywodraethwr yn anghytuno ag ef.
Gall fod yn anodd weithiau i gydbwyso eich rôl fel rhiant lywodraethwr diduedd, a bod yn rhiant yn yr ysgol ar yr un pryd. Dyma rhywfaint o gyngor ar sut i gyflawni eich rôl yn effeithiol:
- Sicrhau bod y rhieni yn eich adnabod, fel y cytunwyd gan y corff llywodraethu.
- Bod yn ymwybodol o farn rhieni ac unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw .
- Gwrando’n ddiduedd ar unrhyw bryderon a godir gan rieni, a chynghori rhieni ar y camau gweithredu priodol e.e. dilyn gweithdrefnau cywir yr ysgol i ddatrys eu pryderon.
- Peidio cael eich tynnu i mewn yn bersonol i unrhyw bryderon gan rieni unigol a pheidio ag addo ‘datrys problem’ ar eich pen eich hun.
- Cofiwch, er eich bod yn llywodraethwyr yn yr ysgol, rydych chi hefyd yn rhiant, ac os oes gennych unrhyw bryderon eich hun, fe ddylech ddilyn yr un gweithdrefn ag unrhyw rieni eraill i ddatrys y rhain.
- Os oes unrhyw agwedd o fywyd ysgol sydd yn poeni nifer fawr o rieni, gofynnwch i’r cadeirydd / pennaeth os ydy hyn yn bwnc priodol i’w drafod yn y cyfarfod nesaf o’r corff llywodraethu.
- Peidiwch â chodi mater gan riant unigol mewn cyfarfod corff llywodraethu, na chwaith eich materion eich hun.
- Helpwch i godi proffil y gwaith pwysig y mae llywodraethwyr ysgolion yn ei wneud – rydych yn gymorth recriwtio ardderchog i’r cylch nesaf o ddarpar riant lywodraethwyr!
Gall rhiant lywodraethwr barhau i wasanaethu hyd nes diwedd eu cyfnod o bedair blynedd, hyd yn oed os yw’r plentyn yn gadael yr ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw, ond ni allant enwebu eu hunain ar gyfer eu hail ethol os nad oes ganddyn nhw blant wedi’u cofrestru bellach yn yr ysgol.
Ni ellir cael gwared o riant lywodraethwyr hyd nes y byddan nhw wedi gwasanaethu am eu tymor mewn swydd.
Darlun yn unig ydy hwn o gynghorion ymarferol i’ch helpu.
Athrawon a staff lywodraethwyr
Mae athrawon a staff lywodraethwyr yn cael eu hethol fel cynrychiolwyr buddiannau’r staff addysgu neu’r staff cefnogi.
(Yr holl staff a gyflogir yn yr ysgol ac eithrio mewn capasiti addysgu – fe allant fod yn staff cyflogedig dan gytundeb cyflogaeth neu gytundeb am wasanaethau yn yr ysgol) eu hysgol.
Mae hyn yn gategori neilltuol o lywodraethwyr gan eu bod yn meddu ar wybodaeth broffesiynol o weithgarwch yr ysgol, a’r cryfderau a’r gwendidau. Mae hyn yn gymorth i ehangu dealltwriaeth y corff llywodraethu am yr ysgol.
Gall athrawon a staff lywodraethwyr fynegi barn bersonol mewn cyfarfodydd corff llywodraethu ac ni all yr athrawon a’r staff y maen nhw’n eu cynrychioli eu gorfodi i gefnogi safbwynt neilltuol y mae’r athro neu staff lywodraethwr yn anghytuno ag ef. Weithiau ni fydd barn athro neu staff lywodraethwr yr un fath â barn y pennaeth. Os felly, mae’n ddoeth i’r lywodraethwr fod yn ddigon cwrtais i ddweud wrtho ef/hi cyn i’r mater arbennig gael ei drafod mewn cyfarfod llywodraethwyr.
Gall fod yn anodd weithiau i gydbwyso eich rôl fel lywodraethwr diduedd, a bod yn aelod o’r staff yn yr ysgol ar yr un pryd. Dyma rhywfaint o gyngor ar sut i gyflawni eich rôl yn effeithiol:
- Sicrhau bod y staff yn eich adnabod, os nad ydyn nhw eisoes.
- Bod yn ymwybodol o farn staff ac unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.
- Gwrando’n ddiduedd ar unrhyw bryderon a godir gan staff, a chynghori ar y camau gweithredu priodol e.e. dilyn gweithdrefnau cywir yr ysgol i ddatrys eu pryderon.
- Peidio cael eich tynnu i mewn yn bersonol i unrhyw bryderon gan aelod o staff unigol a pheidio ag addo ‘datrys problem’ ar eich pen eich hun.
- Cofiwch, er eich bod yn llywodraethwyr yn yr ysgol, rydych chi hefyd yn aelod o’r staff, ac os oes gennych unrhyw bryderon eich hun, fe ddylech ddilyn yr un gweithdrefn ag unrhyw aelodau staff eraill i ddatrys y rhain.
- Os oes unrhyw agwedd o fywyd ysgol sydd yn poeni nifer fawr o staff, gofynnwch i’r cadeirydd / pennaeth os ydy hyn yn bwnc priodol i’w drafod yn y cyfarfod nesaf o’r corff llywodraethu.
- Peidiwch â chodi mater gan aelod o staff unigol mewn cyfarfod corff llywodraethu, na chwaith eich materion eich hun.
- Helpwch i godi proffil y gwaith pwysig y mae llywodraethwyr ysgolion yn ei wneud – rydych yn gymorth recriwtio ardderchog i’r cylch nesaf o ddarpar athrawon a staff lywodraethwyr!
- Os ydych yn adrodd yn ôl i’r staff am benderfyniadau perthnasol a wnaethpwyd mewn cyfarfodydd o’r corff llywodraethu, mae’n ddoeth aros i’r cofnodion drafft gael eu cynhyrchu i sicrhau bod yr hyn rydych chi’n ei adrodd yn gywir ac i ystyried materion a bennir yn gyfrinachol. Mae adrodd ar y penderfyniad ac efallai’r brif ddadl yn ddigon. Peidiwch â nodi sut y gwnaeth llywodraethwyr unigol bleidleisio na beth a ddywedodd pob llywodraethwr.
- Helpwch y staff i ddeall pwysigrwydd ymweliadau llywodraethwyr cyswllt/teithiau dysgu llywodraethwyr ac yn y blaen – dydyn nhw ddim yn arolygwyr ond yn hytrach yn dysgu rhagor am beth sydd yn digwydd yn y dosbarth i’w helpu gyda’u rôl strategol.
- Anogwch y corff llywodraethu i wahodd athrawon i gyfarfodydd i roi cyflwyniadau ar eu gwaith yn yr ysgol, gan fod hyn yn helpu llywodraethwyr i ddeall rhagor am fywyd yr ysgol.
Ni ellir ethol athro neu staff lywodraethwr fel cadeirydd nac is-gadeirydd y corff llywodraethu nac fel cadeirydd pwyllgor, ac ni chant fod yn rhan o unrhyw gyfarfod lle mae adolygiad o gyflog neu berfformiad unrhyw berson a gyflogir gan yr ysgol yn cael eu trafod. Gall fod amgylchadau eraill hefyd lle y bydd angen i athrawon a staff lywodraethwyr adael cyfarfod oherwydd eu rôl yn yr ysgol; mae hyn wrth gwrs yn dibynnu ar y pwnc a lefel y manylion sydd i’w trafod.
Ni ellir cael gwared o athrawon a staff lywodraethwyr o’u swydd cyn iddyn nhw fod wedi gwasanaethu eu tymor mewn swydd, ond daw eu tymor mewn swydd i ben os nad ydyn nhw bellach yn gyflogedig i weithio yn yr ysgol.
Darlun yn unig ydy hwn o gynghorion ymarferol i’ch helpu.
Llywodraethwyr Awdurdod Lleol
Mae llywodraethwyr Awdurdod Lleol (ALl) yn cael eu penodi gan yr ALl sy’n cynnal yr ysgol. Dylid dewis llywodraethwyr ALl ar sail y cyfraniad y maen nhw’n gallu ei wneud i gorff llywodraethu o ran eu sgiliau a’u profiad. Dylai ALl gyhoeddi’r broses a’r meini prawf ar gyfer dewis ymgeiswyr ar gyfer eu penodi fel llywodraethwyr All, a dylid sicrhau bod penodiadau’n cael eu gwneud yn gyflym, heb adael unrhyw leodd gwag am gyfnod hir o amser.
Does dim rhaid i lywodraethwyr ALl fod yn aelodau etholedig o’r Awdurdod Lleol er mwyn cael eu penodi i’r rôl yma. Os ydy person yn gymwys i fod yn athro neu staff lywodraethwr yn yr ysgol ni ellir eu penodi fel llywodraethwr ALl.
Gall llywodraethwyr ALl gyflwyno barn yr ALl ond nid ydynt yn gynrychiolwyr o’r ALl ac ni all yr ALl ddwyn pwysau arnynt i gymryd safbwynt arbennig. Mae eu ffyddlondeb yn gyntaf i’r ysgol ac i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethau. Dylai Llywodraethwyr ALl fod yn ymwybodol o flaenoriaethau a pholisïau’r ALl, yn ogystal â’u deall, gan y bydd hyn yn eu galluogi i fod yn wybodus pan yn trafod blaenoriaethau mewn cyfarfodydd o’r corff llywodraethu.
Mae llywodraethwyr ALl yn cyflwyno persbectif ehangach ynghylch sut mae’r ysgol yn ffitio i mewn i ddarpariaeth addysg. Maen nhw hefyd yn chwarae rôl hanfodol mewn ‘cysylltu’r’ corff llywodraethu gyda gwybodaeth am ddatblygiadau addysgol a blaenoriaethau’r ALl.
Ar adegau gall fod yn anodd cydbwyso eich rôl fel llywodraethwr diduedd, a bod yn aelod etholedig o’r ALl (os ydy hyn yn berthnasol). Efallai y bydd rhiant yn yr ysgol yn dod atoch, sydd yn un o’ch etholwyr, ynghylch mater yn yr ysgol lle rydych yn llywodraethwr. Gwrandewch yn ddiduedd ar y broblem a chyfeiriwch y rhiant at y weithdrefn berthnasol i’w dilyn yn yr ysgol.
Gall yr ALl gael gwared ar lywodraethwyr ALl ond dylai’r ALl weithredu gweithdrefn gytun, dryloyw a theg os oes angen cael gwared ar lywodraethwr ALl. Rhaid i’r ALl ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i Glerc y corff llywodraethu ac i’r llywodraethwr ALl dan sylw.
Llywodraethwyr cymunedol
Y corff llywodraethu sydd yn penodi llywodraethwyr cymuned. Mae cyrff llywodraethu angen llywodraethwyr sydd â’r wybodaeth, sgiliau a profiad i ddarparu her a chefnogaeth ac a fydd yn chwarae rhan llawn yn nhîm y corff llywodraethu. Mae’r categori llywodraethwr cymunedol yn ffordd o alluogi’r corff llywodraethu i ychwanegu meysydd penodol o arbenigedd i’r corff llywodraethu, gan adlewyrchu cydbwysedd buddiannau ymysg y gr?p rhanddeiliaid. Fe fydd cynnal archwliad o sgiliau yn amlygu unrhyw fylchau mewn sgiliau ar y corff llywodraethu, y gellid eu llenwi drwy benodi llywodraethwyr cymunedol.
Fel arfer mae llywodraethwyr cymunedol yn byw neu’n gweithio yn ardal cymuned yr ysgol. Ond, yn bennaf, rhaid iddyn nhw fod yn ymroddedig i lywodraethiant da a llwyddiant yr ysgol, gan weithredu fel cyswllt gyda’r gymuned. Mae’n arfer da hefyd i lywodraethwyr cymunedol adlewyrchu’r sbectrwm a demograffeg ehangaf posibl y gymuned.
Os yw person yn gymwys i fod yn athro lywodraethwr neu lywodraethwr staff yn yr ysgol, yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, neu yn aelod etholedig o’r ALl, ni ellir eu penodi fel llywodraethwr cymunedol.
Gall y corff llywodraethu gael gwared ar lywodraethwr cymuned yn dilyn gweithdrefn a nodir yn Rheoliad 28 o Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol
Lle mae ysgolion cynradd a meithrin yn gwasanaethu ardal lle mae yna gyngor cymuned, fe fydd y cyngor cymuned yn enwebu llywodraethwr cymuned ychwanegol fel eu cynrychiolydd ar gorff llywodraethu’r ysgol. Gall y cyngor cymuned hefyd gael gwared ar y categori yma o lywodraethwr. Os yw ysgol yn gwasanaethu ardal lle mae 2 neu ragor o gynghora cymuned, gall y corff llywodraethu ofyn am enwebiadau gan un neu ragor o’r cynghorau cymuned.
Mae Llywodraethwyr Cymunedol Ychwanegol yn galluogi’r corff llywodraethu i ychwanegu meysydd penodol o arbenigedd i’r corff llywodraethu, gan adlewyrchu cydbwysedd o fuddiannau ymysg y grwp rhanddeiliaid.
Rhaid i’r Offeryn Llywodraethu ddarparu i’r corff llywodraethu gynnwys llywodraethwr cymunedol ychwanegol yn ogystal â’r categorïau eraill o lywodraethwyr.
Pennaeth lywodraethwr
Bydd y pennaeth yn aelod llawn o gorff llywodraethu’r ysgol oni bai ei fod/bod yn dewis peidio â bod yn llywodraethwr. Os yw’r pennaeth yn penderfynu nad yw am fod yn llywodraethwr mae ganddo/ganddi hawl i fynychu pob cyfarfod o’r corff llywodraethu.
Mae sefyllfa arbennig y pennaeth lywodraethwr yn bwysig er mwyn cynnal perthynas dda rhwng y pennaeth a’r corff llywodraethu. Bydd y pennaeth:
- yn adrodd i’r llywodraethwyr ond hefyd yn cynnwys y llywodraethwyr yn agos yn rhediad yr ysgol (heb osgoi eu cyfrifoldeb eu hunain wrth gwrs);
- yn onest, uniongyrchol ac agored gyda llywodraethwyr;
- yn sefydlu perthynas dda gyda chadeirydd y corff llywodraethu;
- yn defnyddio iaith syml a diamwys yn hytrach na defnyddio jargon addysgol technegol;
- yn creu awyrgylch ble y bydd llywodraethwyr yn teimlo bod croeso iddynt yn yr ysgol ac nid yn unig pan gynhelir cyfarfod o’r corff llywodraethu.
Gweler Canllaw i Lywodraethwyr ar Rôl y Cadeirydd am ragor o wybodaeth
Llywodraethwyr sefydledig
Mae cynnwys Llywodraethwyr Sylfaen ar gyrff llywodraethu ysgolion a Gynorthwyir ac a Reolir yn un o nodweddion arbennig ysgol ffydd. Mae’r Llywodraethwyr Sylfaen yn cynrychioli’r cysylltiad hanesyddol gyda sefydlu’r ysgol yn wreiddiol a gyda’i hethos crefyddol arbennig.
Maent yn cael eu cynrychioli hefyd ar gyrff llywodraethu ysgolion sylfaen. Mewn Ysgolion Sylfaen, fel mewn ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol, ond nid mewn ysgolion a Reolir yn Wirfoddol, mae’r corff llywodraethu yn cyflogi staff yr ysgol a’r corff llywodraethu sydd â’r prif gyfrifoldeb dros drefniadau derbyn. Y corff llywodraethu neu sefydliad elusennol sydd yn berchen ar dir ac adeiladau’r ysgol.
Llywodraethwyr sefydledig yn cael eu penodi i sicrhau bod cymeriad crefyddol neilltuol yr ysgol yn cael ei gadw a’i ddatblygu (os oes iddi gymeriad crefyddol) ac i sicrhau cydymffurfiad gyda’r weithred ymddiriedolaeth, os oes un ar gael. mae gan lywodraethwyr sylfaen rhai cyfrifoldebau cyfreithiol ychwanegol i sicrhau bod:
- cymeriad crefyddol neilltuol yr ysgol yn cael ei gadw a’i ddatblygu;
- yr ysgol yn cael ei rhedeg yn unol â’i gweithred ymddiriedolaeth;
- cwricwlwm addysg grefyddol yn unol â pholisi’r esgobaeth; a
- addoli ar y cyd yn unol â chredoau ac ymarferion crefydd neilltuol;
- lle mae gan ysgol lywodraethwyr sylfaen, rhaid i’r llywodraethwyr sylfaen gymeradwyo offeryn llywodraethu drafft cyn y gall y corff llywodraethu ei gyflwyno i’r Ymddiriedolwyr / Awdurdodau’r Esgobaeth ac yn eu tro i’r ALl, er mwyn ei ddiwygio neu ei newid.
Mae lleiafrif o lywodraethwyr sylfaenol yn eu swyddi yn ex-officio (trwy hawl swydd). Fel rheol pobl leol ydy’r rhain h.y. y ficer neu’r offeiriad lleol ac yn achlysurol cynrychiolwyr ymddiriedolaethau neu gyrff eraill. Lle mae Offeryn Llywodraethu yn darparu i lywodraethwr sylfaen weithredu’n ex-officio, dylid gwneud darpariaeth i lywodraethwr sylfaen weithredu yn lle llywodraethwr sylfaen ex-officio os:
– (i) nad yw’r llywodraethwr sylfaen ex-officio yn gallu neu os nad yw’n fodlon gweithredu fel llywodraethwr neu os yw wedi cael ei dynnu oddi ar y corff llywodraethu; neu
– (ii) lle mae lle gwag yn swydd llywodraethwr ex-officio.
Mewn ysgolion a reolir yn wirfoddol gall y llywodraethwyr sylfaen benderfynu ar y defnydd o eiddo’r ysgol ar ddydd Sul.
Mewn ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol rhaid i nifer y llywodraethwyr sylfaen fod yn fwy na’r llywodraethwyr eraill o ddau o leiaf. Rhaid i’r llywodraethwyr sylfaen hefyd gynnwys o leiaf dau lywodraethwr sydd, pan fyddan nhw’n cael eu penodi, yn rhieni disgyblion yn yr ysgol.
Gall y person a benodwyd y llywodraethwyr sylfaen gael gwared arnyn nhw. Gall y person a enwir yn yr Offeryn Llywodraethu sydd â hawl i gael gwared ar lywodraethwr sylfaen ex-officio wneud hynny. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu ac i’r llywodraethwr dan sylw.
Llywodraethwyr nawdd
Dyma berson sydd wedi rhoi neu yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i’r ysgol neu sydd wedi darparu neu yn darparu’r ysgol gyda gwasanaethau sylweddol, neu’n cynrychioli buddiannau sefydliad neu fusnes sydd wedi darparu’r un nawdd. Rhaid i’r corff llywodraethu ofy am enwebiadau o’r fath gan y noddwr (neu fel bo’r sefyllfa) gan un neu ragor o’r noddwyr.
Llywodraethwyr cynrychioliadol
Ceir llywodraethwyr cynrychioliadol mewn ysgolion cymunedol arbennig a gynrychioli buddiannau’r bwrdd / byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau
GIG neu gyrff gwirfoddol yn gysylltiedig gyda’r ysgol. Byddant yn cymryd lle un o’r llywodraethwyr cymunedol.
Llywodraethwyr partneriaeth
Dim ond i ysgolion sefydledig y mae llywodraethwyr partneriaeth yn berthnasol. Caiff y rhain eu penodi gan y corff llywodraethu o enwebiadau gan rieni disgyblion sydd wedi cofrestru yn yr ysgol a chan aelodau eraill o’r gymuned a wasanaethir gan yr ysgol. Ni ellir enwebu na phenodi person fel llywodraethwr partneriaeth os ydy ef neu hi yn:
- rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
- disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
- yn gymwys i fod yn athro neu staff lywodraethwr yn yr ysgol;
- yn aelod etholedig o’r awdurdod lleol; neu
- yn gyflogedig gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad gyda’i swyddogaethau fel awdurdod lleol.
Disgybl Lywodraethwyr Cyswllt
Caiff disgyblion lywodraethwyr cyswllt (
DLC) eu henwebu mewn ysgolion uwchradd o blith aelodau cyngor yr ysgol o Flynyddoedd 11, 12 neu 13. Nod y
DLC yw cynrychioli cyngor yr ysgol mewn cyfarfodydd o’r corff llywodraethu a chynrychioli’r corff llywodraethu mewn cyfarfodydd o’r cyngor ysgol. Gallant hefyd fod yn aelodau o bwyllgorau anstatudol y corff llywodraethu a gallant bleidleisio mewn cyfarfodydd pwyllgorau (ond nid yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu) os yw’r corff llywodraethu yn caniatáu hawliau pleidleisio iddynt.
Am ragor o wybodaeth cyfeiriwch Cyfranogiad Disgyblion Disgybl, Lywodraethwyr Cyswyllt a Cynghorau Ysgol
Hyfforddiant
Fel bod llywodraethwyr yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol ac i safon uchel maen nhw angen hyfforddiant priodol. Mae ymrwymiad i ddatblygiad llywodraethwyr yn agwedd bwysig o fod yn gorff llywodraethu effeithiol ond dydy hyfforddiant ddim yn gorffen yn y cyfnod anwytho. Yn ogystal â’r hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr newydd, cadeiryddion a deall data perfformiad mae yna nifer o gyrsiau hyfforddi ychwanegol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol i gynorthwyo llywodraethwyr i gael yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i lywodraethu eu hysgolion yn effeithiol.
Mae gwybodaeth a chyngor ychwanegol ar gael yn eich swyddfa cefnogi llywodraethwyr yn yr ALl, Awdurdod Esgobaeth a Llinell Gefnogi Gwasanaethau Governors Cymru 01443 844532.
Deunydd Cyfeirio Hanfodol:
Llawlyfr ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru
Egwyddorion Ymddygiad i Lywodraethwyr Ysgolion
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
Llywodraeth Cymru – Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion
© Gwasanaethau Governors Cymru – Medi 2019
Cyhoeddwyd: 29/08/2018